Dyddiad dechrau

Ebrill 2026, Gorffennaf 2026, Hydref 2026 neu Ionawr 2027

Dyddiad cau

Ebrill 2027

Gwybodaeth Allweddol

Mae creu lleoedd yn broses dirweddu sydd, ar yr un pryd, yn defnyddio lle drwy osod diwylliant (dynol) ac yn creu lleoedd newydd er lles cymunedau a chymdeithas. Proses aflinol yw hon sy'n gwireddu dychmygion daearyddol ac yn creu darluniadau o fathau posib o ddyfodol sy'n effeithio ar gydfodolaeth natur ddynol a natur nad yw'n ddynol fel ei gilydd. Gan ystyried y rhagdybiaethau dyn-greiddiol, neo-ryddfrydol cyffredin, wedi'u llywio gan y farchnad, sy'n sylfaen i ddefnydd, a rôl marchnata wrth ddatblygu a gweithredu systemau cyfalafol sydd â'r cwsmer wrth eu gwraidd, mae'n rhaid hyrwyddo damcaniaeth creu lleoedd foesegol er mwyn datganoli'r 'dynol' mewn arferion tirweddu beunyddiol sy'n effeithio ar fodau dynol a rhai nad ydynt yn ddynol drwy ffyrdd gwahanol o drefnu datblygiad systemau cynhyrchiant-defnydd, (e.e. sianeli marchnata, rheoli lleoedd amgen).

Rydym yn chwilio am gynigion am brosiect PhD sy'n cyfuno datblygiadau damcaniaethol mewn marchnata beirniadol a daearyddiaeth ddynol â dadansoddiadau empiraidd o ddefnydd ar sail lle (ar lefelau rhanbarthol a/neu hyperleol), a chanddynt oblygiadau ymarferol ar gyfer cymunedau, llunwyr polisi a sefydliadau.

Cymhwyster

Qualifications required:
MA / MSc / MRes

Cefndiroedd pwnc a gaiff eu hystyried:

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a'i bwriad yw arwain ymgeiswyr wrth amlygu ethos a natur ryngddisgyblaethol y prosiect:

  • Marchnata Beirniadol (Ymchwil i Ddefnyddwyr)
  • Daearyddiaeth Ddynol
  • Cymdeithaseg (e.e. Astudiaethau Trefol/Gwledig, Defnydd)
  • Anthropoleg Defnydd
  • Athroniaeth (Moeseg)

Profiad/sgiliau a rhinweddau eraill sy'n ofynnol:
Sgiliau ymchwil ansoddol.

Supervisors

Sut i Wneud Cais

Porwch drwy ein Rhaglenni Ymchwil ôl-raddedig i ddod o hyd i'r dudalen cwrs rydych chi'n chwilio amdani ac ymgeisio gan ddefnyddio'r botwm "Ymgeisio" ar y dudalen.

Yna byddwch yn cael eich ailgyfeirio at ein system ymgeisio, lle gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau i gwblhau eich cais.

Pwysig: Ychwanegwch enw'r goruchwylwyr a nodir uchod at eich cais i sicrhau bod eich cais yn eu cyrraedd. Gallwch ychwanegu eu henwau ar dudalen flaen eich cynnig ymchwil ac at eich datganiad personol.