Dyddiad dechrau

Ebrill 2026, Gorffennaf 2026, Hydref 2026 neu Ionawr 2027

Dyddiad cau

Ebrill 2027

Gwybodaeth Allweddol

Sut gall addysg gael ei defnyddio i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd? Rydym yn chwilio am gynigion arloesol sy'n edrych ar wahanol agweddau ar addysg, o addysg gynradd hyd at addysg uwch, i geisio deall sut i addysgu newid yn yr hinsawdd mewn ffordd effeithiol. Gallai prosiectau yn y maes hwn ddefnyddio ymagwedd ysgol gyfan, sy'n canolbwyntio'n benodol ar sefydliadau megis ESTYN neu OFSTED, neu ymgysylltu â dysgwyr.

Mae gwaith blaenorol yn y maes hwn wedi cynnwys datblygu dysgu sy'n seiliedig ar gemau ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd, ysgrifennu llyfrau i addysgu am ffasiwn cyflym mewn ysgolion cynradd, cynnal datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon, datblygu llwybrau polisi ar gyfer sero net erbyn 2035 a deall sut i ymdrin ag addysg newid hinsawdd mewn ysgolion arbennig a darpariaeth amgen.

Cymhwyster

Qualifications required:
O leiaf radd israddedig 2.1 a theilyngdod mewn gradd Meistr neu gymwysterau rhyngwladol cyfatebol.

Cefndiroedd pwnc a gaiff eu hystyried:
Unrhyw gefndir pwnc yn y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn enwedig (ond nid yn gyfyngedig i’r meysydd hyn) Addysg, Gwyddorau Cymdeithasol, Rheoli â ffocws ar Gynaliadwyedd. Byddai ymgeiswyr sydd â chefndir mewn Seicoleg neu Ddaearyddiaeth Ddynol yn cael eu hystyried hefyd. 

Profiad/sgiliau a rhinweddau eraill sy'n ofynnol:
Rydym yn annog yn benodol ymgeiswyr o sefydliadau addysgol. Mae chwilfrydedd, parodrwydd i weithio tu allan i gynefin eich cysur, a dysgu sgiliau newydd yn rhinweddau pwysig ar gyfer yr ymchwil hon.  

Supervisors

Sut i Wneud Cais

Porwch drwy ein Rhaglenni Ymchwil ôl-raddedig i ddod o hyd i'r dudalen cwrs rydych chi'n chwilio amdani ac ymgeisio gan ddefnyddio'r botwm "Ymgeisio" ar y dudalen.

Yna byddwch yn cael eich ailgyfeirio at ein system ymgeisio, lle gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau i gwblhau eich cais.

Pwysig: Ychwanegwch enw'r goruchwylwyr a nodir uchod at eich cais i sicrhau bod eich cais yn eu cyrraedd. Gallwch ychwanegu eu henwau ar dudalen flaen eich cynnig ymchwil ac at eich datganiad personol.