Manyleb Rhaglen Doethur mewn Gweinyddu Busnes, DBA
Lefel Dyfarniad (dull enwi)
|
Doethur mewn Gweinyddu Busnes
|
Teitl y Rhaglen
|
Doethur mewn Gweinyddu Busnes
|
Cyfarwyddwr y Rhaglen
|
Professor Nicholas Rich
|
Corff Dyfarnu
|
Prifysgol Abertawe
|
Coleg/Ysgol
|
Yr Ysgol Reolaeth
|
Maes Pwnc
|
Busnes a Rheoli
|
Cyfnodau Derbyn
|
Mis Hydref bob blwyddyn
|
Lleoliad
|
Campws y Bae
|
Dull Astudio
|
Rhan-amser
|
Hyd
|
Pedair blynedd (lleiafswm) ac uchafswm o saith mlynedd
|
Lefel y FfCAU
|
Wyth
|
Pwyntiau Cyfeirio Allanol
|
Disgrifwyr Cymwysterau'r ASA ar gyfer Lefel Wyth y FfCAU
|
Rheoliadau
|
Doethuriaeth Broffesiynol
|
Achrediad Corff Proffesiynol, Statudol neu Reoleiddiol
|
Amherthnasol
|
Dyfarniadau Ymadael
|
MSc drwy Ymchwil
|
Iaith Astudio
|
Saesneg
|
Mae manyleb y rhaglen hon yn cyfeirio at y flwyddyn academaidd gyfredol ac mae'n darparu cynnwys dangosol er gwybodaeth. Bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i ddarparu pob cwrs yn unol â'r disgrifiadau a geir yn nhudalennau gwe'r cwrs perthnasol ar adeg ymgeisio. Fodd bynnag, gall fod sefyllfaoedd pan fydd yn ddymunol neu'n angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs naill ai cyn neu ar ôl cofrestru.
Crynodeb o'r Rhaglen
Mae DBA Ysgol Reolaeth Abertawe yn ddoethuriaeth broffesiynol ran-amser a gynlluniwyd ar gyfer uwch-reolwyr ac arweinwyr ym mhob sector, preifat, cyhoeddus a'r sector nid er elw.
Ar raglen DBA Abertawe, bydd dysgwyr yn ymgymryd ag ymchwil gymhwysol, gan ddefnyddio damcaniaeth sefydledig ac arloesol i ymdrin â materion ymarferol eu sefydliadau. Byddwch yn datblygu ac yn cyfoethogi ymarfer yn eich maes yn ogystal â chyfrannu at ein dealltwriaeth o sylfaen ddamcaniaethol y gwaith.
Mae ymagwedd strwythuredig DBA Abertawe yn seiliedig ar chwe modiwl dros dair blynedd, cyfuniad o ddarlithoedd, siaradwyr gwadd, trafodaethau mewn gweithdai a chyflwyniadau myfyrwyr. Byddwch yn datblygu traethawd ymchwil y ddoethuriaeth dan arweiniad tîm goruchwylio a gaiff ei ddynodi ar ddechrau'r rhaglen.
Mae DBA Ysgol Reolaeth Abertawe wedi'i chynllunio i feithrin meddylwyr ac ymarferwyr beirniadol a fydd yn myfyrio ar eu heffaith ar eu sefydliadau a chymdeithas ehangach.
Nodau'r Rhaglen
Nod DBA Abertawe, fel doethuriaeth broffesiynol, yw darparu rhaglen strwythuredig i ymgymryd ag ymchwil ddoethurol, a fydd yn galluogi myfyrwyr i ddangos cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth yn y pwnc academaidd a'r maes ymarfer drwy ymchwil wreiddiol neu roi gwybodaeth a dealltwriaeth sefydledig ar waith mewn ffyrdd gwreiddiol.
Strwythur y Rhaglen
Mae strwythur rhaglen Abertawe'n seiliedig ar chwe modiwl a fydd yn cynnig 30 credyd yr un, ynghyd â thraethawd ymchwil sy'n werth 360 o gredydau, i gyd ar lefel wyth (lefel doethuriaeth).
Bydd strwythur pob modiwl yn seiliedig ar gyfnodau tri diwrnod o addysgu dwys, ynghyd ag amrywiaeth o gymorth ar-lein gan y timau addysgu a'r goruchwylwyr doethurol. Darperir y modiwlau dros gyfnod o dair blynedd.
Bydd gwaith ar y traethawd ymchwil yn dechrau ochr yn ochr â'r modiwlau a addysgir. Mae DBA Abertawe wedi'i chynllunio i alluogi myfyrwyr i'w chwblhau mewn pedair blynedd.
Mae pwynt ymadael wedi'i gynnwys yng nghynllun y rhaglen i ganiatáu i fyfyrwyr ymadael gan ennill y dyfarniad is, sef Meistr drwy Ymchwil, ar yr amod eu bod yn cwblhau 180 o gredydau mewn modiwlau, gan gynnwys llunio crynodeb ymchwil.
Asesu
Asesir myfyrwyr y Ddoethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes mewn dwy ffordd, drwy’r modiwlau a thrwy lunio traethawd ymchwil doethurol.
Mae pob un o'r chwe modiwl yn gofyn i fyfyrwyr lunio papur 6,000 o eiriau a gaiff ei asesu gan dîm y modiwl. Cefnogir myfyrwyr yn y broses hon drwy'r gweithdai tri diwrnod, eu tîm goruchwylio a thrwy gyflwyno eu papur arfaethedig am asesiad ffurfiannol un mis cyn cyflwyno’r fersiwn derfynol.
Caiff y traethawd ymchwil doethurol ei lunio â chymorth y tîm goruchwylio. Mae'r traethawd ymchwil a gaiff ei gwblhau dan oruchwyliaeth yn cael ei ystyried yn 'Ddoethuriaeth Broffesiynol' yn unol â rheoliadau Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe ac felly mae uchafswm o 80,000 gair wedi'i bennu.
Cyflwynir y traethawd ymchwil i'w asesu drwy arholiad viva voce yn unol â rheoliadau cyfredol Prifysgol Abertawe ynghylch ymchwil ôl-raddedig.
Goruchwylio a Chefnogi Ymchwilwyr Doethurol
Caiff myfyrwyr y rhaglen Doethur mewn Gweinyddu Busnes eu goruchwylio gan dîm goruchwylio. Lle y bo'n briodol, gall staff o Golegau neu Ysgolion yn y Brifysgol heblaw am y Coleg neu'r Ysgol 'gartref' gyfrannu at feysydd ymchwil perthynol.
Fel arfer, y prif oruchwyliwr (neu'r goruchwyliwr 'cyntaf') fydd y prif gyswllt drwy gydol y DBA a'r unigolyn hwn fydd â chyfrifoldeb cyffredinol am oruchwyliaeth academaidd. Bydd mewnbwn academaidd yr ail oruchwyliwr yn amrywio ym mhob achos. Gall y tîm goruchwylio gynnwys goruchwyliwr o ddiwydiant neu faes ymarfer proffesiynol penodol i gefnogi'r ymchwil hefyd.
Bydd y prif oruchwyliwr yn darparu cymorth bugeiliol hefyd. Os oes angen, bydd y prif oruchwyliwr yn cyfeirio'r ymchwilydd doethurol at ffynonellau cymorth eraill (e.e. Lles, Anableddau, Arian, Cyngor, TG, Llyfrgell, Undeb y Myfyrwyr, Gwasanaethau Academaidd, Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Yrfaoedd).
Dysgu a Datblygu
Mae'r cyfleoedd dysgu allweddol ar gyfer myfyrwyr y DBA yn canolbwyntio ar ddatblygu set o sgiliau ymchwil a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad at eu maes ymarfer, yn ogystal ag at wybodaeth ddamcaniaethol.
O'r cychwyn cyntaf, bydd myfyrwyr yn datblygu trosolwg clir o'u taith ymchwil a'r camau angenrheidiol i gyflawni ar lefel doethuriaeth. I ddechrau, bydd myfyrwyr y DBA yn dysgu sut i fireinio eu maes ymchwil arfaethedig yn ogystal â chael cyflwyniad i egwyddorion sylfaenol ymchwil strwythuredig. Bydd hyn yn eu galluogi i egluro cyd-destun a chynnwys y broblem maent am ymchwilio iddi.
Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â gwerthusiad manwl o gyd-destun damcaniaethol eu hymchwil, gan ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o hanes eu maes ac o'r syniadaeth ddiweddaraf.
Bydd myfyrwyr yn cael sylfaen drylwyr mewn dulliau a thechnegau ymchwil, yn ogystal â damcaniaeth fethodolegol sylfaenol, a fydd yn eu galluogi i werthuso'n feirniadol a defnyddio'r ymagweddau sy'n briodol ar gyfer eu hymchwil eu hunain. Bydd myfyrwyr hefyd yn meithrin y gallu ymarferol i gasglu, dadansoddi a chyflwyno data drwy astudiaeth beilot fel rhan o'u datblygiad.
Bydd y modiwlau a addysgir yn datblygu gallu myfyrwyr i greu dealltwriaeth newydd o ddamcaniaeth ac ymarfer drwy syntheseiddio eu hymchwil â damcaniaeth sefydledig, gan arwain at ddatganiadau clir o effaith a chyfraniad at wybodaeth.
Deilliannau Dysgu'r Rhaglen
- Creu cydsyniad o brosiect, ei gynllunio a'i roi ar waith, â'r nod o greu gwybodaeth neu gymwysiadau newydd ym maes Busnes a Rheoli.
- Creu, dehongli, dadansoddi a datblygu gwybodaeth newydd drwy ymchwil wreiddiol neu ysgolheictod uwch arall.
- Dangos gwybodaeth gynhwysfawr a beirniadol o'r llenyddiaeth berthnasol a dangos y gallu i egluro cyd-destun ymarferol eu hymchwil yn glir.
- Dangos y gallu i ddatblygu a deall yn systematig gorff sylweddol o wybodaeth sydd ar flaen y gad ym maes Rheoli a Busnes, drwy ddatblygu traethawd ymchwil ysgrifenedig.
- Dangos y gallu i ddatblygu a deall yn systematig gorff sylweddol o wybodaeth sy'n arwain at gymhwysiad ac effaith ymarferol, ac sy'n creu gwybodaeth ymarferol wrth wneud hyn.
- Ymateb yn briodol i broblemau annisgwyl wrth lunio prosiect drwy wneud addasiadau priodol.
- Dewis, dehongli a chymhwyso technegau perthnasol ar gyfer ymchwil ac ymholiad academaidd uwch yn gywir.
- Llunio a gwerthuso'n feirniadol athroniaeth ymchwil y gellir ei hamddiffyn ac sy'n gydnaws â'r cwestiwn ymchwil a'r dulliau a ddefnyddir i gasglu a dadansoddi data.
- Gwneud penderfyniadau gwybodus ar faterion cymhleth ym meysydd Busnes a Rheoli, yn aml heb ddata cyflawn a chyfiawnhau’r penderfyniadau hynny i gynulleidfa briodol.
- Cyfleu canfyddiadau ymchwil cymhleth yn eglur ac yn effeithiol ac mewn modd diddorol i gynulleidfaoedd arbenigol (gan gynnwys y gymuned academaidd) ac anarbenigol, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau a digwyddiadau priodol, gan gynnwys cyflwyniadau mewn cynadleddau, seminarau a gweithdai.
- Lledaenu gwybodaeth newydd a ddysgir trwy ymchwil wreiddiol neu ysgolheictod uwch arall mewn cyhoeddiadau o safon uchel a adolygir gan gymheiriaid yn y ddisgyblaeth.
- Datblygu’r rhwydweithiau a’r sylfeini ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu parhaus yn y ddisgyblaeth.
- Dangos y rhinweddau a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, gan gynnwys y gallu i arfer cyfrifoldeb personol a menter annibynnol i raddau helaeth mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy mewn amgylcheddau proffesiynol neu gyfatebol.
Sgiliau a Chymwyseddau
Deallusol
Dangos sgiliau meddwl yn feirniadol, er enghraifft, drwy werthuso dadleuon, cysylltu syniadau, ymdrin â phroblemau mewn modd systematig a llunio casgliadau newydd.
Beirniadu a herio'r diffiniadau o ymarfer sefydliadol a'r damcaniaethau a ddefnyddir i'w strwythuro, ei arwain a'i lywio.
Gwneud a chyfiawnhau penderfyniadau ac argymhellion arloesol a wneir ar sail rhesymu moesegol, mewn cyd-destunau cymhleth, dynamig ac anrhagweladwy.
Myfyrio'n feirniadol yn barhaus ar ymarfer personol a sefydliadol.
Ymarferol
Dadansoddi a datrys problemau drwy nodi problemau, dadansoddi gwybodaeth a llunio atebion arloesol.
Arweinyddiaeth drwy esiampl, gan gynnwys mentora, hwyluso, dangos diffuantrwydd a hunan-fyfyrio.
Rheoli prosiectau drwy nodi nodau a thasgau, penderfynu ar flaenoriaethau a bod yn agored i gyd-destunau newidiol.
Meithrin perthnasoedd cydweithredol, gan ddangos ymddiriedaeth a dealltwriaeth o ganlyniadau a rennir.
Dangos agwedd a phriodweddau proffesiynol yn eu hymddygiad craidd yn y gweithle, gan werthfawrogi gwahaniaeth.
Trosglwyddadwy
Gweithio'n annibynnol ac yn gydweithredol i gyflawni nodau personol a sefydliadol.
Dangos y gallu i feddwl a gwerthuso'n annibynnol, yn feirniadol ac mewn modd myfyriol.
Defnyddio technoleg ddigidol briodol i ddadansoddi, dehongli, allosod a delweddu data.
Esbonio syniadau cymhleth yn effeithiol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys cyfryngau ysgrifenedig, llafar a digidol.
Dangos sgiliau rheoli amser, cyfrifoldeb, hyblygrwydd, cynllunio, arweinyddiaeth.
Gweithio'n gyfrifol gan roi sylw'n barhaus i faterion diogelwch, moeseg, cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Monitro Cynnydd
Caiff cynnydd ei fonitro yn unol â rheoliadau Prifysgol Abertawe. Drwy gydol y rhaglen, disgwylir i'r ymchwilydd DBA gwrdd yn rheolaidd â'i oruchwyliwr. Yn y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd hyn, mae'n debygol y caiff cynnydd yr ymchwilydd doethurol ei fonitro'n anffurfiol a chaiff presenoldeb ei fonitro hefyd. Yn ddelfrydol, dylid cofnodi manylion y cyfarfodydd ar y system ar-lein. Mae'n ofynnol cynnal o leiaf bedwar cyfarfod goruchwylio bob blwyddyn, a chyflwynir adroddiadau am ddau ohonynt i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau Ôl-raddedig. Yn ystod y cyfarfodydd goruchwylio hyn, trafodir cynnydd yr ymchwilydd a chofnodir hynny'n ffurfiol ar y system ar-lein. Gellir cynnal cyfarfodydd o bell, gan ddibynnu ar leoliad y myfyriwr.
Amgylchedd Ymchwil
Crynhoir nodweddion allweddol amgylchedd ymchwil yr Ysgol Reolaeth fel a ganlyn:
- Mae gan yr Ysgol strategaeth ymchwil glir sy'n cael ei chefnogi gan strwythur rheoli ymchwil sefydledig a chadarn iawn.
- Caiff yr holl fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gyfle i fynychu cynadleddau allanol a bydd cyllid ar gael i ariannu hyn.
- Mae'r holl fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn cyflwyno yn y gynhadledd ymchwil ôl-raddedig fewnol a gynhelir yn flynyddol i ledaenu eu gwaith a derbyn adborth adeiladol.
- Mae gan yr Ysgol ddwy lwybr a ariennir gan Bartneriaethau Hyfforddiant Doethurol yr ESRC.
- Ceir saith canolfan ymchwil sefydledig sy'n croesawu myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, ond anogir gweithgarwch trawsddisgyblaethol.
- Mae gan yr Ysgol strategaeth â ffocws clir i gefnogi ymchwilwyr gyrfa gynnar.
- Mae'r Ysgol yn ymrwymedig i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei staff ymchwil ac aelodaeth ei phwyllgorau, ac i alluogi arferion gwaith hyblyg.
- Mae incwm ymchwil wedi cynyddu o tua £160,000 yn 2014 i dros £2.1 miliwn yn 2018.
- Mae gan yr Ysgol bartneriaethau strategol â chyrff allweddol yn y sectorau preifat a chyhoeddus, megis Comisiwn Bevan, Fujitsu a Pfizer.
- Mae'r adeilad newydd (cartref yr Ysgol ers 2015) wedi darparu cyfleusterau ardderchog, gan gynnwys ystafelloedd sylweddol wedi'u neilltuo i ymchwil ôl-raddedig.
- Yn ogystal â chanolfannau ymchwil, caiff staff eu hannog i ffurfio grwpiau ymchwil anffurfiol.
- Mae gan yr ysgol 55 o aelodau staff cyfwerth amser llawn sy'n ymgymryd ag ymchwil categori A.
- Un o nodau strategol yr Ysgol yw harneisio ymchwil i gael effaith ar yr economi leol a byd-eang, â'r nod o gyflwyno'r nifer uchaf posib o achosion effaith i'r ymarfer REF sydd ar ddod.
Yr Ysgol Reolaeth
Ein cenhadaeth yw creu ymchwil gydweithredol, arloesol ac amlddisgyblaethol drwy weithio gyda rhai o'r ymchwilwyr gorau a mwyaf disglair o bob cwr o'r byd. Rydym yn meithrin cysylltiadau gydol oes â'n cymuned ymchwil, cefnogwyr diwydiannol a myfyrwyr drwy ymgorffori gweithio mewn partneriaeth a chysylltiadau â chyn-fyfyrwyr. Rydym yn ymrwymedig i gyflawni a lledaenu ymchwil o'r radd flaenaf er mwyn meithrin gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth ac effaith. Mae'r Ysgol Reolaeth yn cynnig amgylchedd cefnogol a chyfeillgar ar gyfer ein cymuned ffyniannus o fyfyrwyr doethurol o bob cwr o'r byd.
Mae'r dull strwythuredig a gynigir gan y DBA yn seiliedig ar chwe modiwl dros dair blynedd, lle byddwch yn cynnal cyfuniad o ddarlithoedd, sgyrsiau gwadd a thrafodaethau gweithdy. Ar yr un pryd, byddwch yn datblygu eich traethawd ymchwil doethurol o dan arweiniad eich tîm goruchwylio DBA.
Bydd modiwlau a addysgir yn datblygu gallu cyfranogwyr i greu dealltwriaeth newydd o theori ac ymarfer drwy synthesis o'u hymchwil gyda theori sy'n bodoli eisoes, gan arwain at ddatganiadau clir o effaith a chyfraniad at wybodaeth.
Mae'r chwe modiwl a addysgir fel a ganlyn (sylwer, mae'r dyddiadau a amlinellir isod yn adlewyrchu dyddiad dechrau mis Hydref):