Cymdeithaseg/Astudiaethau a Thechnoleg: Ysgoloriaeth PhD a ariennir yn llawn ar lwybr Cymdeithased/Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (RS898)
Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol
Darparwyr y cyllid: YGGCC YR ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50%
Y meysydd pwnc: Llwybr Cymdeithaseg/Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC yr ESRC
Dyddiadau dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2026 (bydd cofrestru ar agor o ganol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).
Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru YGGCC yr ESRC. Efallai y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Dr Chiara Poletti, chiara.poletti@abertawe.ac.uk yn gallu rhoi cyngor i chi.
Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Cymdeithaseg/Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Disgrifiad o'r Prosiect:
Bydd y llwybr hwn yn defnyddio darpariaeth ac ymchwil arbennig mewn hyfforddiant dulliau cymdeithasegol yn Abertawe, er mwyn datblygu gallu a chreu strategaeth wedi'i rhwydweithio ar draws Cymru gyfan ar gyfer hyfforddiant doethurol ym maes Cymdeithaseg ac Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gan ddefnyddio ymagweddau wyneb yn wyneb, hybrid ac ymagweddau cyfunol. Mae cryfderau'r llwybr yn cynnwys canolfannau a buddsoddiadau eraill gan UKRI, YDG Cymru, Y Ganolfan Ymchwil00205} Heneiddio a Dementia.
Mae Cymdeithaseg/Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn gryfder disgyblaethol sy'n datblygu ym Mhrifysgol Abertawe ac sy'n rhan o uned asesu 20, gyda meysydd rhagoriaeth sy'n gysylltiedig â themâu trawsbynciol YGGCC. Mae hwn yn uno dau lwybr DTP2, sy'n debyg iawn o ran termau disgyblaethol, gydag estyniad i gynnwys Bangor ac Abertawe, yn ogystal â Chaerdydd.
Amgylchedd Hyfforddiant
Ymchwil: Mae'r llwybr hwn yn cynnig hyfforddiant uwch ar gyfer: Dulliau Ansoddol a Meintiol (yr holl sefydliadau addysgu uwch); Ethnograffeg; Dadansoddi rhyngweithiad (sain, fideo ac ymagweddau amlfodd); Ymagweddau uwch at Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Damcaniaethu Newid a Thrawsffurfiad Cymdeithasol Cyfoes; Ystadegaeth Uwch; a'r Ysgol Haf ar Ystadegau i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig, o 2024 (Abertawe). Bydd myfyrwyr hefyd yn medru cymryd rhan mewn hyfforddiant a ddarperir gan WISERD, sy'n cyd-fynd yn agos â’r llwybr, a byddant yn elwa o'i bartneriaeth â Chanolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil (NCRSM) y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) (2019-2024), sef canolfan ar gyfer darparu hyfforddiant arloesol a gweithgareddau sy'n datblygu gallu. Yn ogystal â chyfuno'r adnoddau hyn pan fo'n bosibl, byddwn hefyd yn defnyddio cymorth hyfforddiant YGGCC i ddatblygu a chyflwyno cyfres o gyrsiau byr ar-lein ar gyfer hyfforddiant ar ddulliau, yn ogystal â chreu a chyflwyno ysgol haf sy'n benodol ar gyfer y llwybr/clwstwr (a gynhelir ar sail gylchdroadol fel digwyddiad 'signal'), ac sydd hefyd yn agored i lwybrau eraill a Phartneriaethau Hyfforddiant Doethurol, lle y bo'n ymarferol.
Mae gwaith ymgysylltu â'r gymuned yn cynnwys cyflwyniadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl y Gelli ac ymchwil gydweithredol gydag, e.e. Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, Arolygiaeth Gofal Cymru, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Cymru (partner ffurfiol YGGCC), Shelter Cymru, a Chanolfan Gymunedol ac Ieuenctid Senghenydd (de Cymru).
Meithrin Carfan:
Byddwn yn sefydlu grwpiau ymchwil sy'n canolbwyntio ar sefydliadau addysgu uwch i holl fyfyrwyr y llwybr a'r clwstwr. Bydd yr ymagwedd rwydweithio hon yn plethu'r gweithgareddau hyn yn gyfres o weithgareddau hybrid a fydd yn agored ar draws y llwybr, gan fwyafu cyfleoedd i feithrin carfannau a chyfranogiad. Mae cylchdroi'r ysgol haf yn gweithredu fel digwyddiad signal blynyddol y garfan.
Cymhwyster
I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan YGGCC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.
Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler y Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe.
Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd yr UKRI.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu am ffïoedd dysgu ac ariantal byw di-dreth blynyddol yn unol â chyfraddau UKRI (sef £20,780 ar gyfer 2025/26). Bydd gan fyfyrwyr hefyd fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil
Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn ogystal â'ch ysgoloriaeth ymchwil. Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)
Sut i Wneud Cais
I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon:
I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS898
2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol)
- Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:
- gôd yr ysgoloriaeth ymchwil, RS898 a
- theitl yr ysgoloriaeth
- Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag
- Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes
- Yna lanlwythwch gopi o'ch ffurflen cais am Ysgoloriaeth YGGCC wedi'i chwblhau
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth.
Os ydych chi wedi gwneud cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd “Cais Wedi’i Gyflwyno” ac yn rhwystro cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn:
- Gwnewch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad cychwyn nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch Ionawr os nad yw Hydref ar gael).
- E-bostiwch pgrscholarships@swansea.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chôd yr ysgoloriaeth ymchwil berthnasol, gan ofyn i'r dyddiad cychwyn gael ei ddiwygio i gyd-fynd â'r hysbyseb.
- Yna bydd staff derbyn Myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hynny.
Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):
- WGSSS_Studentship_Application_Form_2026.pdf
- CV
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau graddau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
- Copi o fisa Preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
- Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant
Asesu:
Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau panel
Hyd astudio:
Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd yn llawn amser (neu gyfwerth rhan-amser).
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a fydd yn cael eu hasesu trwy gwblhau Dadansoddiad Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaeth amser llawn a rhan-amser.
Lleoliad Gwaith Ymchwil mewn Ymarfer:
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, am gyfanswm o 3 mis (neu'r cyfnod rhan-amser cyfwerth). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, polisi, busnes neu sefydliadau'r gymdeithas sifil.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.