Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol

Darparwyr y cyllid: YGGCC yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50% 

Y meysydd pwnc: Llwybr Daearyddiaeth Ddynol Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC yr ESRC 

Dyddiadau dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2026 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi)  **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl). 

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar dudalennau gwe Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan YGGCC yr ESRC. Cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe yw Dr Chris Muellerleile, c.m.muellerleile@abertawe.ac.uk ac fe all eich cynghori chi. 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD Daearyddiaeth Ddynol 

Disgrifiad o'r prosiect:  
Mae Adran Ddaearyddiaeth Abertawe yn lle bywiog a dynamig ar gyfer astudiaethau doethurol ac mae gennym gymuned fawr o fyfyrwyr PhD o'r DU a thramor. Mae gan y staff Daearyddiaeth Ddynol yn Abertawe brofiad helaeth o hyfforddi myfyrwyr PhD yn llwyddiannus ar gyfer gyrfaoedd academaidd, yn ogystal ag yn y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector. Mae gan ein staff amrywiaeth eang o arbenigeddau, gan gynnwys mewn damcaniaeth gymdeithasol a daearyddiaeth ddiwylliannol, drefol, wleidyddol, amgylcheddol, wledig ac economaidd. Rydym yn pwysleisio ymchwil sy'n soffistigedig yn ddamcaniaethol ac yn empirig ei natur. Mae llawer ohonom yn awyddus i recriwtio myfyrwyr PhD ac rydym yn eich annog i archwilio tudalennau gwe ein staff a chysylltu â goruchwylwyr PhD posib a allai fod yn addas i'ch diddordebau. https://www.swansea.ac.uk/cy/staff/gwyddoniaeth-a-pheirianneg/staff-ysgol-y-biowyddorau-daearyddiaeth-a-ffiseg/daearyddiaeth/  

Fel rhan o Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru a ariennir gan yr ESRC, mae'r llwybr Daearyddiaeth Ddynol yn seiliedig ar gysylltiadau sefydliadol hirsefydlog rhwng Adran Ddaearyddiaeth Abertawe, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Aberystwyth ac Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Caerdydd. Mae pob un o'r tair adran yn cydweithredu'n helaeth mewn mentrau ymchwil a ariennir, goruchwylio myfyrwyr PhD a hyfforddiant ôl-raddedig ehangach mewn damcaniaethau a dulliau daearyddiaeth ddynol blaengar. 

 Darperir hyfforddiant PhD drwy raglen gydlynol o weithdai unigol a phreswyl sydd â ffocws ar ddatblygiadau ym maes damcaniaeth daearyddiaeth ddynol a chynhadledd ôl-raddedig flynyddol i feithrin carfan gyda chyfranogiad ar draws y llwybr. Mae'r llwybr hefyd yn noddi cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid, Agoriad, sy'n cael ei olygu gan fyfyrwyr PhD. Os byddant yn dymuno, bydd gan fyfyrwyr PhD gyfle i gael profiad addysgu â thâl, gan gynnwys fel arddangoswyr neu gynorthwyo gyda theithiau maes a seminarau. 

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol. 

Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am fwy o wybodaeth, gweler Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe.  

Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd: gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.  

Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI https://www.ukri.org/our-work/developing-people-and-skills/find-studentships-and-doctoral-training/get-a-studentship-to-fund-your-doctorate/.     

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu ac ariantal blynyddol di-dreth yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar gyfer 2025/26 ar hyn o bryd).Bydd gan fyfyrwyr fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil  

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwilY Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) 

Sut i Wneud Cais

I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon: Cwblhewch eich cais yma yn y Porth Dysgwr (hyperddolen) 

https://learner.swansea.ac.uk/urd/sits.urd/run/siw_ipp_lgn.login?process=siw_ipp_app&code1=PL998PF1&code2=0001 

I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd. 

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS891 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol) 

  • Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch naill ai'r:  
    • Côd RS891
    • theitl yr ysgoloriaeth   
  • Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag 
  • Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag 
  • Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes
  • Yna lanlwythwch gopi o'ch ffurflen cais am Ysgoloriaeth YGGCC wedi'i chwblhau

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.  

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth. 

Os ydych chi wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd "Cyflwynwyd Cais " ac yn gwahardd cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn: 

  1. Cyflwynwch gais am yr un cwrs â'r dyddiad dechrau nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch fis Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael). 
  2. E-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.ukmailto:pgrscholarships@swansea.ac.uk gan nodi eich rhif myfyriwr a chôd RS yr ysgoloriaeth berthnasol, a gofyn i'r dyddiad dechrau gael ei newid i gyd-fynd â'r hysbyseb. 
  3. Bydd y staff Derbyn Myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hyn. 

Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe. 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant  yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.    

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno. 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost): 

  • WGSSS_Studentship_Application_Form_2026.pdf 
  • CV
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau graddau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol) 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe.  Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol). 
  • Copi o fisa Preswylydd y DU (lle bo'n briodol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant

Asesu:    

Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel 

Hyd astudio:    

Mae hyd y cyfnod astudio'n amrywio o dair blynedd a hanner i bedair blynedd a hanner amser llawn (neu'r cyfnod rhan-amser cyfatebol) 

}Mae hyd y cyfnod astudio'n dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr, a gaiff eu hasesu drwy gwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser. 

Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer:   
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, a fydd yn para am 3 mis (neu’r cyfnod rhan-amser cyfatebol). Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, ym meysydd polisi a busnes neu mewn sefydliadau cymdeithas sifil.     

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:  

Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.     

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd. 

** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.