Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol

Darparwyr y cyllid: YGGCC yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50% 

Y meysydd pwnc: Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC yr ESRC ar y llwybr Dwyieithrwydd ac Ieithyddiaeth   

Dyddiadau dechrau'r prosiect1 Hydref 2026 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).

Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr priodol ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar dudalennau gwe Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan YGGCC yr ESRC. Mae'n bosib y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Dr Vivienne Rogers, v.e.rogers@abertawe.ac.uk yn gallu eich cynghori. 

Rhaglen astudio gydnaws: Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Dwyieithrwydd ac Ieithyddiaeth 

Disgrifiad o'r prosiect: 

Gwahoddir darpar fyfyrwyr i gynnig pwnc ymchwil ar gyfer astudiaeth ddoethurol ym meysydd arbenigedd staff sy'n gysylltiedig ag iaith mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol. Yn fras, mae'r meysydd hyn yn cynnwys ymchwil sy'n mynd i'r afael â: 

  • dwyieithrwydd/amlieithrwydd 
  • caffael ail iaith 
  • astudiaethau geirfaol 
  • a/neu strwythur, ystyr a'r defnydd o iaith mewn ieithyddiaeth, seicoieithyddiaeth ac ieithyddiaeth gymdeithasol, dadansoddi disgwrs, seicoleg, cymdeithaseg, technoleg iaith ac addysg. 

Hefyd, gellir darparu goruchwyliaeth ar y cyd â chydweithwyr ym meysydd y Gymraeg, Ieithoedd Modern, Cyfieithu, Seicoleg ac Addysg. 

Bydd myfyrwyr PhD mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol yn cael mynediad i'n labordy olrhain symudiad y llygaid newydd a meddalwedd arbenigol gan gynnwys tanysgrifiadau i gorilla.sc a qualtrics.  Bydd myfyrwyr hefyd yn dod yn aelodau o'r Ganolfan Ymchwil Iaith – sef canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n ymwneud ag ymchwil sy'n gysylltiedig ag iaith ar draws y Brifysgol.  

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth YGGCC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol. 

Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler: Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe.  

Os oes gennych gwestiynau am eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd ar sail yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan gynnwys y ddolen we i'r ysgoloriaeth(au) sydd o ddiddordeb i chi. 

Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI .        

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu ac ariantal blynyddol di-dreth yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar gyfer 2025/26 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. 

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil. Y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) 

Sut i Wneud Cais

I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon: Cwblhewch eich cais yma yn y Porth Dysgwr (hyperddolen) 

https://learner.swansea.ac.uk/urd/sits.urd/run/siw_ipp_lgn.login?process=siw_ipp_app&code1=PQ39XPF1&code2=0001 

I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd. 

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS885 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol) 

  • Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:  
  • y Côd RS, RS885 a 
  • theitl yr ysgoloriaeth.   
  • Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag 
  • Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag 
  • Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes 
  • Yna lanlwythwch gopi o'ch ffurflen cais am Ysgoloriaeth YGGCC wedi'i chwblhau’

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.  

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth. 

Os ydych chi wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd "Cyflwynwyd Cais " ac yn gwahardd cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn: 

  1. Cyflwynwch gais am yr un cwrs â'r dyddiad dechrau nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch fis Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael). 
  2. E-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan nodi eich rhif myfyriwr a chôd RS yr ysgoloriaeth berthnasol, a gofyn i'r dyddiad dechrau gael ei newid i gyd-fynd â'r hysbyseb. 
  3. Bydd y staff Derbyn Myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hyn. 

Mae angen cyflwyno un cais am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe. 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi  lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant  yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.    

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno. 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost): 

  • WGSSS_Studentship_Application_Form_2026.pdf 
  • CV 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol) 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe.  Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni'r gofyniad Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol). 
  • Copi o fisa Preswylydd y DU (os yw’n berthnasol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Asesu:    
Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr  roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel 

Hyd astudio:    
Mae hyd y cyfnod astudio'n amrywio o dair blynedd a hanner i bedair blynedd a hanner amser llawn (neu'r cyfnod rhan-amser cyfatebol).  

Mae hyd y cyfnod astudio'n dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr, a gaiff eu hasesu drwy gwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser. 

Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer:   
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, a fydd yn para am 3 mis). Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, ym meysydd polisi, busnes neu mewn sefydliadau cymdeithas sifil.     

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:   
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.     

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd. 

** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.