Ieithoedd Modern, Hanes: Cynnal sgyrsiau anodd wrth ofalu am gof y genedl: sut i ymwneud â stori Y Wladfa yng nghyd-destun Cymru wrth-hiliol (RS920)
Dyddiad cau: 12 Ionawr 2026
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr y DU yn unig
Y darparwyr cyllid: Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe drwy ei gyllid canolog ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI).
Y meysydd pwnc: Ieithoedd Modern, Hanes
Dyddiad dechrau'r prosiect: mis Hydref 2026 ** (Gweler y nodyn isod ynglŷn â dyddiadau cychwyn diweddarach posibl.)
Goruchwylwyr: Dr Geraldine Lublin, Dr Gethin Matthews, Dr Dafydd Tudur (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Rhaglen astudio wedi'i halinio: PhD mewn Ieithoedd Modern
Dull astudio: Amser llawn/Rhan amser
Disgrifiad o'r prosiect:
Dethlir 160 o flynyddoedd ers glaniad y Mimosa ar draethau Porth Madryn yn 2025, a chynigia’r achlysur hwn gyfle i ystyried yr hanes o’r newydd. Er bod agweddau sefydliadau’r Gymru sydd ohoni wedi newid yn sylweddol ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r Cynllun Cymru Wrth-hiliol yn 2022, ac er gwaethaf y newidiadau aruthrol yn nhrafodaethau’r sffêr cyhoeddus yng Nghymru yr oedd y mudiad ‘Mae Bywydau Du o Bwys’ wedi esgor arnynt er 2020, mae’n amlwg nad yw’r naratif ynghylch y ‘Cymru fach dros y môr’ ochr arall yr Iwerydd yn beth hawdd i fynd i’r afael ag ef.
Fel rhan o’r gweithredu gwrth-hiliol a ddisgwylir gan sefydliadau cyhoeddus, ceir ymdrechion i gynyddu amrywiaeth o ddifri gan adlewyrchu poblogaeth amrywiol Cymru a chwilio am amrywiaeth o arbenigedd, profiadau a safbwyntiau. Blaenoriaethir yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (2024) feysydd allweddol ynghlwm â Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon – sef “dathlu amrywiaeth, y naratif hanesyddol a dysgu am ein hamrywiaeth ddiwylliannol” (t.31) – a’r “ffocws ar ddad-drefedigaethu casgliadau amgueddfeydd” (t.31). At hynny, edrychir ar “sicrhau bod astudio hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth a chymhlethdod” yn digwydd (t.19). Canolbwyntia’r Cwricwlwm i Gymru hefyd ar gynnig ystod eang o safbwyntiau yn yr adnoddau addysgol sydd ar gael i ysgolion er mwyn creu ‘ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd’, sef un o brif ddibenion y Cwricwlwm.
Er gwaethaf y newidiadau niferus ar wahanol agweddau anodd ar hanes Cymru, megis cydran y Cymry o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig neu enillion caethwasiaeth, yn rhy aml parheir i adrodd stori’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia fwy neu lai yn yr un modd ers i Saunders Lewis dynnu sylw’r Cymry yn ei ddarlith ‘Tynged yr Iaith’ yn 1962 i ‘arbrawf arwrol ar Wladfa Gymreig ym Mhatagonia’ Michael D. Jones. Canolbwyntir ar rôl yr arloeswyr o Gymru yn cadw’r Gymraeg tra’n agor y tir a phlannu hadau cynnydd a gwareiddiad, gan anwybyddu profiad y cymunedau brodorol Tehuelche a Mapuche oedd yn trigo’r tiriogaethau hynny cyn dyfodiad y sefydlwyr.
Yn ogystal ag ategu’r amcanion a osodir yng Nghynllun Strategol Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2025-30, nod y prosiect hwn yw cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i greu Cymru Wrth-hiliol a fframwaith a gweledigaeth y Cwricwlwm Newydd wrth edrych ar hanes mewn ffordd decach a mwy cynhwysol. Gwneir hynny drwy archwilio cwestiynau megis:
1) Ym mha ffyrdd y gall ailedrych ar y casgliadau hanesyddol sy’n ymwneud â’r sefydliad Cymreig ym Mhatagonia a’u hail-ddehongli ategu’r meysydd allweddol a flaenoriaethir yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (2024) parthed Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon?
2) Sut gall diweddaru ac ychwanegu arlliw beirniadol i’r naratif traddodiadol am y Wladfa a geir mewn adnoddau addysg, a chynnwys ystod ehangach o brofiadau a safbwyntiau ar hanes y sefydliad, gefnogi fframwaith a gweledigaeth y Cwricwlwm Newydd a’r ymdrechion cyfredol tuag at edrych ar hanes mewn ffordd decach a mwy cynhwysol?
3) Sut gellir sicrhau bod yr ymwneud â chasgliadau sylweddol y Llyfrgell Genedlaethol parthed Patagonia yn cyfrannu tuag at Amcanion Strategol y sefydliad i ”[g]adw a datblygu cof y genedl” (Amcan 1) a “c[h]ysylltu cymunedau”, gan “[r]oi blaenoriaeth i’r lleisiau a’r profiadau byw sydd wedi eu tangynrychioli yng nghasgliadau a gweithgareddau’r Llyfrgell ac ymrwymo i Gymru wrth-hiliol” (Amcan 3) (Strategaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2025-2030)?
Defnyddir dulliau ymchwil Astudiaethau Archifol Beirniadol er mwyn ailedrych ar ddeunyddiau’r Llyfrgell Genedlaethol o safbwynt cyfredol ac ystyried ystod o ymagweddau perthnasol megis darllen agos adlewyrchol, ymrwymiad moesol, a dehongli achosion o ddistawrwydd. (O ystyried cynnwys y casgliadau hynny, byddai sgiliau iaith Sbaeneg yn ddymunol ond ni fyddant wir yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r gwaith dan sylw.) Addysgeg Feirniadol a’r Dull Ymchwil Seiliedig ar Ddylunio (a adwaenir fel DBR yn y Saesneg) fydd yn llywio’r dylunio addysgeg wrth ystyried gwella’r adnoddau addysg perthnasol. Wrth ailedrych ar naratifau hanesyddol a chynnig ystod ehangach o brofiadau a safbwyntiau ar un o brif gerrig milltir hanes Cymru, bydd y prosiect arfaethedig hefyd yn cyd-fynd â meddylfryd a gwerthoedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015”. Ystyrir hyn yn hynod amserol yng ngoleuni ymdrechion Llywodraeth Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol.
Cymhwyster
Oherwydd cyfyngiadau ariannu, mae'r ysgoloriaeth hon yn agored i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd y DU yn unig, fel y'i diffinnir gan UKCISA (Rhestr lawn o gategorïau ar gyfer AU yng Nghymru)
PhD - Dylech feddu ar radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) o leiaf, neu gymhwyster cyfatebol, a dylech feddu ar radd Meistr ôl-raddedig mewn pwnc cysylltiedig, neu dylai bod disgwyl i chi gyflawni cymhwyster o'r fath.
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf bydd angen marc llwyddo derbyniol mewn cymhwyster Saesneg cymeradwy arnoch er mwyn gwneud yn siŵr y byddwch yn gallu manteisio i'r eithaf ar eich astudiaethau yn Abertawe. Rydym yn ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau, gan gynnwys Prawf Saesneg Prifysgol Abertawe, prawf IELTS y Cyngor Prydeinig (gyda sgôr o 6.5 a 6.5 o leiaf ym mhob elfen). Ceir rhestr lawn o brofion Saesneg derbyniol yn: https://www.swansea.ac.uk/cy/astudio/derbyn-myfyrwyr/gofynion-iaith-saesneg/
Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd: gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.
Cyllid
Ariennir yr ysgoloriaeth hon ar y cyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe trwy ei chyllid cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) canolog am dair blynedd ac mae'n dechrau ym mis Medi 2026.
Mae'r ysgoloriaeth hon yn cwmpasu cost lawn ffioedd dysgu a chyflog blynyddol ar gyfradd UKRI (£20,780 ar hyn o bryd ar gyfer 2025/26).
Bydd costau ymchwil ychwanegol o hyd at £500 y flwyddyn hefyd ar gael.
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth hon, mae angen y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen', rhowch y Cod RS perthnasol ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth h.y. RS920
2) Yn yr adran 'Ymchwil' fe welwch 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth'* (Gorfodol)
i. Yn 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth' rhowch y ddau:
- y Cod RS920, a
- teitl yr ysgoloriaeth.
ii. Gadewch y maes Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
iii. Gadewch y Prosiect Ymchwil (os yw'n berthnasol) yn wag
iv. Yn 'Oes gennych gynnig i'w uwchlwytho?*' (Gorfodol) Dewiswch Ydw
v. Yna uwchlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw'r hysbyseb trwy glicio print, ac yna argraffu i pdf)
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw opsiynau eraill wedi'u dewis.
* Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth wneud cais, sylwch na fydd ceisiadau a dderbynnir heb y wybodaeth uchod a restrir yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth.
Mae angen un cais i bob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil unigol dan arweiniad Prifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
NODER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd heb wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn ychwanegol at eich ffurflen gais rhaglen.
Sylwch fod llenwi'r Ffurflen Monitro EDI yn orfodol; Efallai na fydd eich cais yn symud ymlaen os na chyflwynir y wybodaeth hon.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi uwchlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain trwy e-bost):
- CV
- Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio ar gyfer gradd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yma yn ddigonol)
- Llythyr eclawrol sy'n cynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cyd-fynd yn arbennig â'ch sgiliau a'ch profiad a sut rydych chi'n dewis datblygu'r prosiect.
- Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwch nad ydym yn gallu derbyn cyfeiriadau a dderbynnir yn dyfynnu cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai dyfarnwyr ddyfynnu eu cyfeiriad e-bost cyflogaeth i wirio geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol).
- Copi o fisa preswyl y DU (os yw'n berthnasol)
- Cadarnhau cyflwyno ffurflen EDI
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â Dr Geraldine Lublin (g.lublin@abertawe.ac.uk)
*Rhannu Data Cais Partner Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, y gall rhannu data cais ddigwydd gyda phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo cyd-ariannu prosiect ysgoloriaeth yn berthnasol.
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar ddisgresiwn y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir rhoi gohirio cynnig i'r cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohirio o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad cychwyn a nodwyd yn wreiddiol. Sylwch mai dim ond un gohirio y gellir ei ystyried, ac nid yw unrhyw ohirio o'r fath yn cael ei warantu.