Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol: Sgoloriaeth PhD a ariennir yn llawn ar lwybr Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau Ardal (YGGCC) (RS895)
Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol
Darparwyr y cyllid: YGGCC yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50%
Y meysydd pwnc: Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC yr ESRC ar y Llwybr Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau Ardal
Dyddiadau dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2026 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).
Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan YGGCC yr ESRC. Mae'n bosib y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Dr Kris Stoddart, k.d.stoddart@abertawe.ac.uk yn gallu eich cynghori.
Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau Ardal
Disgrifiad Prosiect:
Mae’r llwybr Astudiaethau Ardal /Gwleidyddiaeth/Cysylltiadau Rhyngwladol gydag Ieithoedd Byd-eang ym Mhrifysgol Abertawe yn yr Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae'n cyd-fynd â'n rhaglen PhD mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'n cynnwys amrywiaeth o ymagweddau ffocws pynciol ac ymchwil.
Mae hyd a lled ein harbenigeddau yn cynnwys (i) cysylltiadau rhyngwladol, astudiaethau ardal a datblygiad rhyngwladol; (ii) gwleidyddiaeth gymharol, gan gynnwys gwleidyddiaeth is-genedlaethol ac astudio hunaniaeth wleidyddol; (iii) cyfathrebu gwleidyddol, gyda ffocws penodol ar wleidyddiaeth ddigidol; ac (iv) athroniaeth wleidyddol a chymdeithasol. Mae ein gwaith ymchwil yn croesi ffiniau gydag astudiaethau datblygu, y cyfryngau a chyfathrebu ac athroniaeth. Rydym yn ddeallusol blwraliaethol, yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau ymchwil meintiol ac ansoddol ac mae ein sylw daearyddol yn cynnwys Ewrop, Asia, Affrica a Gogledd America. Rydym yn gosod pwyslais sylweddol ar gysylltu gwaith ysgolheigaidd ag effaith yn y byd go iawn ac yn ceisio lledaenu ein canfyddiadau a chyd-greu newid gyda phartneriaid yn Llywodraeth a Senedd Cymru a'r DU, yn eirioli dros bolisi byd-eang gan gynnwys Consortiwm y Polisi Cyffuriau Rhyngwladol, ac amrywiaeth o weithredwyr o gymdeithas sifil leol a rhyngwladol.
Mae'r Adran yn gartref i bedwar grŵp ymchwil sy'n dod ag aelodau staff a myfyrwyr PhD ynghyd i gyfnewid ymchwil sy'n mynd rhagddi, trafod cyhoeddiadau sy'n torri tir newydd ac archwilio cyfleoedd cyllido a chydweithio. Y grwpiau ymchwil hyn yw: Yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang, y Grŵp Ymchwil Dadansoddi Gwleidyddol a Llywodraethu, y Grŵp Ymchwil Athroniaeth, a'r Grŵp Ymchwil Astudiaethau Rhyngwladol, Gwrthdaro a Diogelwch. Rydym hefyd yn cydweithio â Sefydliadau Ymchwil ar lefel y Gyfadran sy'n canolbwyntio ar Heriau Geo-wleidyddol, Diogelwch a Gwydnwch, Polisi Cyhoeddus, yr Economi Ddigidol a Chymdeithas a Gweithredu ar yr Hinsawdd. Rydym yn croesawu cynigion gan ysgolheigion sy'n dymuno datblygu gwybodaeth ac yn gwahodd ceisiadau sy'n ysgogi newid ar draws y meysydd ymchwil hyn.
Cymhwyster
I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan YGGCC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.
Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am fwy o wybodaeth, gweler Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe.
Os oes gennych gwestiynau am eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd ar sail yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships @abertawe.ac.uk gan gynnwys y ddolen we i'r ysgoloriaeth(au) sydd o ddiddordeb i chi.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu ac ariantal blynyddol di-dreth yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar gyfer 2025/26 ar hyn o bryd). Bydd gan fyfyrwyr hefyd fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil
Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil Y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA)
Sut i Wneud Cais
I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon.
I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS895
2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol)
1. Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:
- y Côd RS895 a
- theitl yr ysgoloriaeth
2. Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
3. Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag
4. Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes
5. Yna lanlwythwch gopi o'ch ffurflen cais am Ysgoloriaeth YGGCC wedi'i chwblhau
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.
*Yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am restru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau a gyflwynir heb yr wybodaeth uchod eu hystyried ar gyfer yr ysgoloriaeth.
Os ydych chi wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd "Cyflwynwyd Cais " ac yn gwahardd cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn:
- Cyflwynwch gais am yr un cwrs â'r dyddiad dechrau nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch fis Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael).
- E-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan nodi eich rhif myfyriwr a chôd RS yr ysgoloriaeth berthnasol, a gofyn i'r dyddiad dechrau gael ei newid i gyd-fynd â'r hysbyseb.
- Bydd y staff Derbyn Myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hyn.
Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):
- CV
- Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau gradd (os ydych yn astudio am radd ar hyn o bryd, bydd sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi cyfeiriad e-bost eu swydd er mwyn dilysu'r geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
- Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
- Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant
Asesu:
Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel
Hyd astudio:
Mae hyd y cyfnod astudio'n amrywio o dair blynedd a hanner i bedair blynedd a hanner amser llawn (neu'r cyfnod rhan-amser cyfatebol).
Mae hyd y cyfnod astudio'n dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr, a gaiff eu hasesu drwy gwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser.
Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer: Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, a fydd yn para am 3 mis (neu’r cyfnod rhan-amser cyfatebol).
Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, ym meysydd polisi, busnes neu mewn sefydliadau cymdeithas sifil.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd.
*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.