Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol

Darparwyr y cyllidYGGCC YR ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50% 

Y meysydd pwnc: Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC yr ESRC mewn Newyddiaduraeth, Cyfryngau Digidol a Democratiaeth - Llwybr Astudiaethau'r Cyfryngau 

Dyddiadau dechrau'r prosiect1 Hydref 2026 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).

Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr priodol ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan YGGCC yr ESRC. Mae'n bosib y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, yr Athro Richard Thomas, richard.h.thomas@abertawe.ac.uk yn gallu eich cynghori. 

Rhaglen astudio gydnaws: PhD mewn Newyddiaduraeth, Cyfryngau Digidol a Democratiaeth - Astudiaethau'r Cyfryngau 

Disgrifiad o'r Prosiect: 

Mae adran y Cyfryngau, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus yn Abertawe wedi cael ei chydnabod yn gyson am ei rhagoriaeth ac fe'i rhoddir ar y brig yn nhablau cynghrair y DU am wahanol elfennau o'i darpariaeth. Gan ymfalchïo mewn ymdeimlad cryf o gymuned, mae staff a myfyrwyr ar flaen y gad wrth astudio'r cyfryngau cyfoes a'u heffaith. Mae gan ein cymysgedd o ymarferwyr uchel eu parch ac ysgolheigion a gydnabyddir yn fyd-eang arbenigedd ar draws ystod eang o is-themâu yn y llwybr Newyddiaduraeth, Democratiaeth a'r Cyfryngau Digidol.  

Er enghraifft, er ein bod yn ymdrin ag agweddau traddodiadol ar newyddiaduraeth brint a darlledu a'r ffordd y mae'r rhain yn ymdrin â meysydd allweddol megis gwleidyddiaeth, gwrthdaro, materion ariannol, yr argyfwng hinsawdd a chwaraeon, mae ein harbenigedd yn ymestyn i gyfryngau newyddion digidol amgen, gwirio ffeithiau, gwybodaeth anhrefnus, lleferydd casineb, hiliaeth a chasineb at fenywod. Mae cydweithwyr wedi ymchwilio'n helaeth i'r cyfryngau cymdeithasol a'u holl ddimensiynau, y metafyd, realiti rhithwir ac estynedig, goblygiadau ehangach gwyliadwriaeth ac ymyriadau technolegol i bob elfen o fywyd cyfoes. Rydym yn creu effaith fawr ym meysydd mynediad digidol i grwpiau lleiafrifol a'r ffyrdd y mae newyddion a newyddiaduraeth yn cael eu llywodraethu a'u rheoleiddio, ac yn drosfwaol i hyn i gyd, mae ein hysgolheigion astudiaethau ffilm a theledu yn cynnig dealltwriaeth o sut mae pob elfen o'r fath yn cael ei chyfleu i gynulleidfaoedd ehangach.  Mae ein hysgolheigion cysylltiadau cyhoeddus yn weithgar wrth archwilio ac ystyried gweithrediad corfforaethol a'r elfennau mwy tarfol yn y proffesiwn hwnnw, a sut mae sefydliadau'n rheoli ac yn cynnal argyfyngau a hunaniaethau brand yn ddigidol. Byddem yn croesawu ceisiadau sy'n ymdrin â'r themâu hyn ac yn ychwanegu dimensiynau newydd a phwysig.    

Mae ein cysylltiadau cryf â sector y cyfryngau ei hun - drwy ein Panel Diwydiant  – yn sicrhau natur gyfoes ein gweithgareddau ac yn darparu ystod eang o gyfleoedd interniaeth a phrofiad gwaith. I grynhoi, mae astudio PhD yn y Cyfryngau yn Abertawe yn cyfuno manteision cael mynediad at yr arbenigwyr diweddaraf yn y "cyfryngau" yn yr ystyr ehangaf â dod yn rhan o gymuned glos o ysgolheigion sy'n blaenoriaethu cymuned ac ysbryd cydweithio. Mae gennym arbenigwyr mewn dulliau ymchwil sy'n ymdrin â dulliau meintiol ac ansoddol, ac mae arweinydd y llwybr yn gyn-ddeiliad cyllid gan yr ESRC fel myfyriwr ac ymchwilydd ac mae'n ymddiddori'n fawr mewn manteisio i'r eithaf ar fuddion y cyfleoedd rhagorol hyn er mwyn datblygu gyrfaoedd llewyrchus yn y byd academaidd, byd diwydiannol neu'r sector cyhoeddus.

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr  YGGCC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol. 

Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe 

Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan nodi’r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu, ac yn darparu ariantal byw di-dreth blynyddol yn unol â lleiafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar hyn o bryd ar gyfer 2025/26). Bydd gan fyfyrwyr hefyd fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil 

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil. Y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) 

Sut i Wneud Cais

I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon.

I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd. 

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS894 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol) 

1. Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:  

  • y Côd, RS894 a 
  • theitl yr ysgoloriaeth   

2. Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag 

3. Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag 

4. Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes 

5. Yna lanlwythwch gopi o'ch ffurflen cais am Ysgoloriaeth YGGCC wedi'i chwblhau

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.  

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth. 

Os ydych eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, bydd y system yn dangos rhybudd "Cais wedi'i Gyflwyno" ac yn eich atal rhag cyflwyno cais newydd. Yn yr achos hwn: 

  • E-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chôd RS yr ysgoloriaeth berthnasol, gan ofyn i’r dyddiad dechrau gael ei addasu i gyd-fynd â'r hysbyseb.  
  • Cyflwynwch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad dechrau nesaf sydd ar gael (e.e. dewiswch fis Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael). 
  • Yna bydd y staff derbyn myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hynny. 

Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe. 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.    

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno. 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost): 

  • CV 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol) 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol). 
  • Copi o fisa Preswylydd y DU (lle bo'n briodol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Asesu:   

Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau panel 

Hyd astudio:   

Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd yn amser llawn (neu gyfwerth rhan-amser). 

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a fydd yn cael eu hasesu trwy gwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio’n amser llawn a rhan-amser. 

Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer:   
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, a fydd yn para 3 mis (neu gyfwerth rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, polisi, busnes neu sefydliadau cymdeithas sifil.    

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:  

Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Briysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd 

** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.