Rheoli a Busnes : Ysgoloriaeth Ymchwil PhD wedi’i hariannu’n llawn ar lwybr Rheoli a Busnes Ysgol Graddedigion Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol (YGGCC) yr ESRC (RS893)
Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol
Darparwyr y cyllid: YGGCC YR ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50%
Y meysydd pwnc: Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC yr ESRC ar y llwybr Rheoli a Busnes
Dyddiadau dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2026 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).
Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan YGGCC yr ESRC. Mae'n bosib y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Dr Daniele Doneddu, D.Doneddu@abertawe.ac.uk, yn gallu eich cynghori.
Rhaglen astudio gydnaws: PhD mewn Rheoli a Busnes
Disgrifiad o'r prosiect:
Mae'r llwybr Rheoli a Busnes yn canolbwyntio drwy lens y gwyddorau cymdeithasol ar heriau presennol i fusnesau a'r dirwedd ddiwydiannol. Mae cyfleoedd sylweddol ar gyfer gwaith amlddisgyblaethol drwy ei arbenigedd disgyblaethol mewn cyfrifeg, cyllid, bancio, marchnata, strategaeth, logisteg a rheoli gweithrediadau, rheoli sefydliadau, arloesi a thwristiaeth; i gyd wedi’u hategu gan gryfder ymchwil a phrofiad aelodau staff Prifysgolion Abertawe, Caerdydd a Bangor; Mae'r gweithio ar y cyd hwn yn galluogi myfyrwyr i gael mynediad gwell at ymchwilwyr ac ymarferwyr blaenllaw wrth hefyd gynnig amrywiaeth o gysylltiadau a phrofiadau iddynt, gan eu galluogi i rwydweithio mewn carfan fwy a gweld eu gwaith ymchwil mewn cyd-destun disgyblaethol hynod eang. Mae'r llwybr hefyd yn datblygu ac yn ymchwilio i wybodaeth am broblemau ehangach e.e. cydraddoldeb ac anghydraddoldeb, lles, newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd.
Mae gan Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe gryfderau sylweddol ym meysydd arloesi digidol, adnoddau dynol a pholisi datblygu menter. Sefydliadau Ymchwil Rhyngddisgyblaethol (e.e. Arloesi ac entrepreneuriaeth, Polisi Cyhoeddus ac Ymarfer, Heriau Geo-wleidyddol, a Diwylliant a Chymunedau), Rhwydweithiau (Gweithredu ar yr Hinsawdd, Deallusrwydd Artiffisial, yr Economi Ddigidol a Chymdeithas Ddigidol) a Chanolfannau Ymchwil e.e. i-Lab (Labordy Arloesi), Canolfannau Hyfforddiant Doethurol yr EPSRC mewn Gwella Rhyngweithiadau a Chydweithrediadau Dynol â Systemau wedi'u llywio gan Ddata a Deallusrwydd; Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan feithrin ymchwil ac effaith a arweinir gan heriau. Yn yr Ysgol, mae hefyd gyfleoedd sylweddol i gymryd rhan mewn mentrau sy'n canolbwyntio ar ymarferwyr megis Cymunedau Arloesi'r Economi Gylchol (CEIC) a'r prif felin drafod iechyd, Comisiwn Bevan. Mae allbynnau megis y rhain yn cynrychioli cysylltiadau strwythuredig pellach ac yn cynnig y potensial ar gyfer hyfforddiant sgiliau a rennir. Mae'r Ysgol yn cydweithredu â Chyfadrannau eraill yn y Brifysgol er mwyn i ymchwil ryngddisgyblaethol ac aml-ddisgyblaethol gref ffynnu. Bydd y llwybr yn adeiladu ar y cydweithrediad hynod lwyddiannus rhwng Prifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe o ran Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru gynt (DTP-Wales). Mae'r llwybr hwn hefyd yn cydweithredu â llwybrau clwstwr eraill yr YGGCC megis Economeg a'r Economi Ddigidol a'r Gymdeithas Ddigidol i gynnig goruchwylio/hyfforddiant.
Ym mhob cam, mae myfyrwyr yn cyfrannu'n weithredol at amrywiaeth eang o grwpiau darllen a thrafod, sesiynau bwrdd crwn, cyfresi seminarau a gweithdai dadansoddi data. Cyflwynir cyrsiau hyfforddiant hyblyg a luniwyd at y diben ar-lein ac wyneb yn wyneb gan gynnwys, ar hyn o bryd, seminarau ymchwil, gweithdai dulliau, modiwlau safonol, cyrsiau dwys ynghyd â seminarau ymchwil rheolaidd wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae sesiynau hyfforddiant sgiliau ehangach hefyd ar gael. Fe'ch anogir yn gryf i fynd i gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol a chyflwyno ynddynt a byddwch yn cael eich cefnogi i wneud hyn.
Cymhwyster
I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr YGGCC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.
Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob cydran) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe .
Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen we i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu ac ariantal blynyddol di-dreth yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar gyfer 2025/26 ar hyn o bryd). Mae gan fyfyrwyr fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil hefyd.
Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil. Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)
Sut i Wneud Cais
I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon:
I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch gôd yr ysgoloriaeth ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS893
2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol)
- Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:
- y Côd, RS893 a
- theitl yr ysgoloriaeth.
- Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag
- Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes
- Yna lanlwythwch gopi o'ch ffurflen cais am Ysgoloriaeth YGGCC wedi'i chwblhau
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth.
Os ydych chi wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd "Cyflwynwyd Cais " ac yn gwahardd cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn:
- Cyflwynwch gais am yr un cwrs â'r dyddiad dechrau nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch fis Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael).
- E-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan nodi eich rhif myfyriwr a chôd ysgoloriaeth ymchwil yr ysgoloriaeth berthnasol, gan ofyn bod y dyddiad dechrau’n cael ei newid i gyd-fynd â'r hysbyseb.
- Bydd staff y Tîm Derbyn Myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hyn.
Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):
- WGSSS_Studentship_Application_Form_2026.pdf
- CV
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
- Copi o fisa Preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
- Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant
Asesu:
Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel
Hyd astudio:
Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd yn llawn amser (neu gyfwerth ar sail ran-amser).
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a fydd yn cael eu hasesu trwy gwblhau Dadansoddiad Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaeth amser llawn a rhan-amser.
Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer:
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, a fydd yn para 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth ar sail ran-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, polisi, busnes neu sefydliadau'r gymdeithas sifil.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
* Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.