Seicoleg: Ysgoloriaeth PhD wedi'i hariannu'n llawn ar lwybr Seicoleg Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) (RS896)
Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol
Darparwyr y cyllid: YGGCC yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50%
Y meysydd pwnc: Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC yr ESRC ar y Llwybr Seicoleg
Dyddiadau dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2026 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).
Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan YGGCC yr ESRC. Cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe yw Dr Hayley Young, h.a.young@abertawe.ac.uk ac fe all eich cynghori chi.
Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Seicoleg
Disgrifiad o'r Prosiect:
Mae'r llwybr rhyngddisgyblaethol hwn yn canolbwyntio ar agweddau gwyddor cymdeithasol ar seicoleg (cymdeithasol, gwybyddol, datblygiadol, amgylcheddol, iechyd, clinigol a fforensig) a deall materion o bwys cymdeithasol/blaenoriaethau'r ESRC megis newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd, a gwella iechyd a lles. Mae gan Abertawe gryfderau penodol mewn seicoleg fforensig ac iechyd, maeth ac archwaeth, caethiwed ymddygiadol, a lles cynaliadwy. Hefyd, mae gennym nifer o bartneriaethau strategol â'r Bwrdd Iechyd, Llywodraeth Cymru, elusennau lleol, y diwydiant bwyd, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Fawrhydi ac eraill, ac mae llawer o fyfyrwyr yn elwa o'r cyfleoedd hyn i gynnal ymchwil ag effaith a buddion tymor hir.
Mae Abertawe yn gartref i gymuned ymchwil ôl-raddedig fywiog, amrywiol a chynhwysol sy'n elwa o gynhadledd ymchwil ôl-raddedig flynyddol sy'n cynnwys y Gyfadran gyfan, gŵyl ymchwil ôl-raddedig, labordai seicoleg o'r radd flaenaf sydd wedi cael eu gweddnewid yn ddiweddar ac Academi Ymchwil Ôl-raddedig sy'n cynnig cymorth beirniadol a chyfleoedd hyfforddiant.
Cymhwyster
I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr YGGCC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.
Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe .
Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu ac ariantal blynyddol di-dreth yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar gyfer 2025/26 ar hyn o bryd.) Bydd gan fyfyrwyr hefyd fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil
Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)
Sut i Wneud Cais
I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon.
I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS896
2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol)
1. Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:
- y Côd, RS896 a
- theitl yr ysgoloriaeth
2. Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
3. Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag
4. Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes
5. Yna lanlwythwch gopi o'ch ffurflen cais am Ysgoloriaeth YGGCC wedi'i chwblhau
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth.
Os ydych chi wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd "Cyflwynwyd Cais " ac yn gwahardd cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn:
- E-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan nodi eich rhif myfyriwr a chôd RS yr ysgoloriaeth berthnasol, a gofyn i'r dyddiad dechrau gael ei newid i gyd-fynd â'r hysbyseb.
- Cyflwynwch gais am yr un cwrs â'r dyddiad dechrau nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch fis Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael).
- Bydd y staff Derbyn Myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hyn.
Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):
- CV
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau graddau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
- Copi o fisa Preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
- Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant
Asesu:
Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel
Hyd astudio:
Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd yn llawn amser (neu gyfwerth ar sail ran-amser).
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a fydd yn cael eu hasesu trwy gwblhau Dadansoddiad Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaeth amser llawn a rhan-amser.
Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer:
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, a fydd yn para 3 mis (neu gyfwerth rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, polisi, busnes neu sefydliadau'r gymdeithas sifil.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.