Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol

Darparwyr y cyllid: YGGCC YR ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50% 

Y meysydd pwnc: Llwybr Ysgoloriaeth ymchwil Y Gyfraith a Throseddeg YGGCC yr ESRC  

Dyddiadau dechrau'r prosiect1 Hydref 2026 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).

Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru YGGCC yr ESRC. Mae'n bosib y bydd cynrychiolwyr y llwybr yn Abertawe, Dr Mike Harrison, m.g.harrison@abertawe.ac.uk, a Dr Emma Nishio, e.j.nishio@abertawe.ac.uk, yn gallu rhoi cyngor i chi. 

Arweinydd y Llwybr: Dr Mike Harrison 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD yn y Gyfraith a Throseddeg 

Disgrifiad o'r prosiect: 

Mae Troseddeg yn rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, gan ychwanegu rhyngddisgyblaethau ategol mewn astudiaethau cyfreithiol, Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc, Y Ganolfan ar gyfer Newid Cymdeithasol, a'r Ganolfan gydweithredol ar gyfer Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg (CCJC). Mae'r CCJC yn cynnal ymchwil empirig ryngddisgyblaethol ar feysydd gan gynnwys polisi cyfiawnder ieuenctid, polisïau ar gyffuriau a throseddeg, plismona, troseddeg mewn chwaraeon, gwaith rhyw, troseddau pobl bwerus, economi wleidyddol troseddau yn Ne'r Byd, terfysgaeth a seiberdroseddau. Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol (Cymru), sy'n hwyluso mynediad at ddata gweinyddol dienw cysylltiedig mewn amgylchedd diogel.  

Mae Ysgol y Gyfraith yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn lleoliad unigryw i gynnal ymchwil empirig neu gymdeithasol-gyfreithiol sy'n cysylltu'r gyfraith â phryderon a dulliau'r gwyddorau cymdeithasol.  Mae gan Ysgol y Gyfraith Abertawe ddiwylliant ymchwil bywiog a gweithgar, gan gynnwys y canlynol: CCJC; Canolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC); Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL); Arsyllfa ar Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol; a'r Ganolfan Llywodraethu a Hawliau Dynol. Yn y gorffennol, mae'r Ysgol wedi cefnogi ysgoloriaethau ymchwil ar draws ystod eang o is-ddisgyblaethau, gan gynnwys: y gyfraith gyhoeddus a chyfansoddiadol; addysg gyfreithiol; hawliau dynol; cyfraith anabledd; cyfraith lloches; cyfraith camweddau; cyfraith amgylcheddol; cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a llywodraethu; cyfraith teulu; canfyddiadau risg yng nghlybiau chwaraeon y trydydd sector; risgiau bancio ac amgylcheddol; cyfraith/polisi tai cymharol yng Nghymru a Lloegr; a safbwyntiau cyfansoddiadol ar Ddatganoli yng Nghymru.  

Bydd myfyrwyr yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn bennaf, er y cânt eu gwahodd i ddigwyddiadau YGGCC mewn lleoliadau eraill yng Nghymru. Drwy'r PhD, bydd holl fyfyrwyr YGGCC yn dod ynghyd am weithdai ar y cyd, cyrsiau preswyl a chynadleddau blynyddol. Bydd seminarau'n cynnwys y rhai a drefnir gan Gynhadledd Canolfan Troseddau a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru, Neuadd Gregynog, Powys bob blwyddyn, sydd hefyd yn cynnal diwrnodau hyfforddiant ôl-raddedig preswyl.  Yn y digwyddiadau hyn a rhai eraill, bydd myfyrwyr yn gweithio ac yn cyflwyno ochr yn ochr ag ymchwilwyr sefydledig. 

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol. 

Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler y Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe. 

Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn talu ffioedd dysgu a lwfans byw blynyddol di-dreth yn unol â chyfraddau isafswm UKRI (£20,780 ar hyn o bryd ar gyfer 2025/26) ac mae'n cynnwys Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. 

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil. Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) 

Sut i Wneud Cais

I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon.

I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd. 

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS892 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol) 

1. Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:  

  • Y Côd, RSRS892 a 
  • theitl yr ysgoloriaeth   

2. Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag 

3. Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag 

4. Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes 

5. Yna lanlwythwch gopi o'ch ffurflen cais am Ysgoloriaeth YGGCC wedi'i chwblhau

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.  

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth. 

Os ydych chi wedi gwneud cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd “Cais Wedi’i Gyflwyno” ac yn rhwystro cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn: 

  • E-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chôd RS yr ysgoloriaeth berthnasol, gan ofyn i'r dyddiad dechrau gael ei ddiwygio i gyd-fynd â'r hysbyseb. 
  • Gwnewch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad cychwyn nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch Ionawr os nad yw Hydref ar gael). 
  • Yna bydd staff derbyn yn diweddaru eich cais yn unol â hynny. 

Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe. 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant  yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.    

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno. 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost): 

  • CV 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau graddau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol) 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol). 
  • Copi o fisa Preswylydd y DU (lle bo'n briodol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Asesu:   
Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr rhoi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau panel.

Hyd astudio:   
Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd yn llawn amser (neu gyfwerth rhan-amser). 

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a fydd yn cael eu hasesu trwy gwblhau Dadansoddiad Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaeth amser llawn a rhan-amser. 

Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer:   
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu am 3 mis ( neu gyfwerth rhan-amser).Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, polisi, busnes neu sefydliadau'r gymdeithas sifil.    

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:  
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.