Amlinelliad o'r Rhaglen

AmserDigwyddiadYstafell
08:45-09:15 Cofrestru a Lluniaeth Y Cyntedd & Yr Orielau, Y Neuadd Fawr
09:15-09:30 Anerchiad o Groeso
Gan yr Athro Deborah Youngs, Dirprwy Is-ganghellor, Addysg, Prifysgol Abertawe
Awditoriwm Syr Stanley Clarke, Y Neuadd Fawr
09:30-10:30 Prif Gyflwyniad:'Ysgogi ein Myfyrwyr, Meithrin Twf a Llwyddiant’
Tom Lowe, Uwch-ddarlithydd mewn Addysg Uwch, Prifysgol Portsmouth
Awditoriwm Syr Stanley Clarke, Y Neuadd Fawr
10:30-11:30 'Tair Sgwrs, yna sesiwn holi ac ateb: Sut rydym yn ymgysylltu â myfyrwyr a chefnogi eu dysgu? Awditoriwm Syr Stanley Clarke, Y Neuadd Fawr
11:30-12:00 Egwyl lluniaeth Yr Orielau, Y Neuadd Fawr
12:00-13:20 Cyflwyniadau Cyfochrog Sesiwn 1 Ystafelloedd fel a nodwyd
13:20-14:20 Cinio, Rhwydweithio a Gweithgareddau Yr Orielau ac Awditoriwm Syr Stanley Clarke
14:20-15:40 Cyflwyniadau Cyfochrog Sesiwn 2 Ystafelloedd fel a nodwyd
15:40 – Diwedd Ymunwch â ni i fyfyrio a rhoi adborth am y diwrnod
Gyda neges gan Simon Gibbon, Pennaeth SALT
Yr Orielau ac Awditoriwm Syr Stanley Clarke

Prif siaradwr - Tom Lowe: Ysgogi ein Myfyrwyr, Meithrin Twf a Llwyddiant

Mae Tom yn Uwch-ddarlithydd Addysg Uwch ym Mhrifysgol Portsmouth, lle mae ei waith ymchwil yn cynnwys ymgysylltu â myfyrwyr wrth ddatblygu addysg, gwreiddio cyflogadwyedd yn y cwricwlwm a pherthyn.

Cyn symud i Portsmouth, roedd Tom yn Bennaeth Ymgysylltu â Myfyrwyr a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Caerwynt lle bu'n arwain cyfleoedd datblygu myfyrwyr, rhyngwladoli ac allgyrsiol, staffio a strategaethau'r Brifysgol. Roedd Tom hefyd yn arweinydd yr MA mewn Ymgysylltu â Myfyrwyr mewn Addysg Uwch yng Nghaerwynt, ac mae hefyd wedi bod yn aelod o Bwyllgor RAISE mewn rolau amrywiol dros yr wyth mlynedd diwethaf.

Tom Lowe

Mae Tom yn brofiadol yn natur ymarferol ymgysylltu â myfyrwyr o ran sicrhau ansawdd, dysgu ac addysgu, llywodraethu Prifysgolion ac Undebau Myfyrwyr, yn ogystal â chynnwys myfyrwyr mewn gweithgareddau allgyrsiol a goresgyn heriau i lwyddiant myfyrwyr drwy ymarfer cynhwysol. 
 
Bydd Tom yn rhoi'r brif anerchiad a fydd yn canolbwyntio ar sut rydym yn parhau i gynnal ymdeimlad cyfoethog o berthyn mewn cymunedau prifysgol er gwaethaf y byd newidiol o ran cyfranogiad, i gefnogi llwyddiant myfyrwyr. Drwy ddefnyddio llenyddiaeth a gyhoeddwyd, ymarfer a thrafodaethau yn y sector, bydd Tom yn canolbwyntio ar empatheiddio â phrofiad presennol myfyrwyr a phwysigrwydd canfod cyfleoedd i gynnal sgyrsiau rhwng myfyrwyr a staff i ganfod atebion a fydd yn helpu prifysgolion i greu cymuned dysgu ysgogol ar gyfer y dyfodol.