14 Tachwedd: 19:00 -20:00: 'Kings, Presidents, & Spies: Assassinations Past and Present'
Ymunwch â ni am sgwrs ryngweithiol, cwis a darlleniadau wrth i ni archwilio cyfrinachedd a'r defnydd o lofruddieth o'r canoloesoedd i'r presennol. Byddwn hefyd yn astudio dulliau a ddefnyddiwyd gan lofruddion yn y gorffennol a'r presennol, gan gynnwys proceri chwilboeth a phast dannedd wedi'i wenwyno!
Dan arweiniad: Dr Luca Trenta, Dr Eoin Price a Dr Roberta Magnani
Lleoliad: Cinema and Co. Partneriaid: Cinema and Co.
15 Tachwedd: 14:00-16:00: 'Discovering your Creativity: gweithdy ysgrifennu rhyngweithiol'
Dewch i'n gweithdy ysgrifennu rhyngweithiol lle bydd cyfle gennych i ysgrifennu barddoniaeth a rhyddiaith ar themâu fel cyfrinachau, lleoedd a bywyd yn Abertawe. Caiff llinellau o weithiau unigol eu defnyddio i greu gludwaith o'r hyn yw ystyr byw a chreu yn Abertawe.
Dan arweiniad: Kathy Chamberlain a thîm o fyfyrwyr PhD a chyn-fyfyrwyr Ysgrifennu Creadigol y mae eu hymchwil yn canolbwyntio ar 'le'.
Lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Partneriaid: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Celfyddydau Anabledd Cymru
16 Tachwedd: 11:00–15:00: ‘Discovering the Mary Rose: Aaartt on the High Seas
Dewch ar fwrdd am ddiwrnod llawn hwyl o antur wych ar y moroedd mawr, gan ddathlu arddangosfa newydd Glynn Vivian, The Mary Rose: People and Purpose. Dewch i ddarganfod ffeithiau a chyfrinachau sinistr am fywyd ar fwrdd y llong waradwyddus hon mewn cyfres o weithdai sy'n cynnwys theatr animeiddiedig a chreu eich drama Duduraidd eich hun, gan balu am drysor cudd, adeiladu byd agored 3D a dylunio a rasio eich cychod modur sy'n gyrru eu hunain ar thema Duduraidd. Bydd angen bod yn effro i ganfod y cliwiau ar ein llwybr oriel ar thema'r Mary Rose - dewch o hyd i'r cliwiau i ddarganfod cyfrinachau cudd y Mary Rose! Gyda sgyrsiau, perfformiadau, gwisgo i fyny a chlerwyr crwydrol, bydd hwn yn ddiwrnod nad ydych am ei golli
Dan arweiniad: Dr Nick Owen, Dr Catherine Fletcher a Professor David Britton
Lleoliad: Glynn Vivian Art Gallery. Partneriaid: Oriel Gelf Glynn Vivian, Ymddiriedolaeth y Mary Rose, Oriel Science, y Sefydliad Diwylliannol a Choleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe.
18 Tachwedd: 10:00-12:00: 'The Climate's Hidden History' (Digwyddiad Ysgolion Cyfrwng Cymraeg)
Dewch i ddarganfod cyfrinachau cudd y blaned, a ganfyddir yn nyfnderoedd y meysydd iâ, gyda’r Athro Siwan Davies, arbenigwraig ryngwladol ar newid yn yr hinsawdd a Phennaeth Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe. Ar ôl i chi gael cyfle i weld y dystiolaeth ar gyfer newid yn yr hinsawdd yn y labordy, bydd y bardd Grug Muse yn arwain gweithdy barddoniaeth a fydd yn ymateb i’r darganfyddiadau hyn am orffennol a dyfodol y Ddaear.
Dan arweiniad: Y Athro Siwan Davies a Grug Muse
Lleoliad: Adeilad Margan, Campws Singleton. Partneriaid: Academi Hywel Teifi, Coleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe
18 Tachwedd: 19:00-20:00: 'Becoming Human: Pinocchio Retold'
Mae Becoming Human – Pinocchio Retold yn adrodd stori pyped enwocaf y byd, yn erbyn galwadau ac uchel freintiau cymdeithas fodern y Gorllewin. Gan ddilyn ôl ei draed o'i enedigaeth i'w oedolaeth, rydym yn cael gweld drwy ei lygaid yr hyn yw bod yn gymdeithasol. Er bod Pinocchio, o ran meddwl a chorff yn rhan o gymdeithas, fel unigolyn mae'n cael anhawster canfod ystyr cariad a hunaniaeth. Mae'r comedi trasig hwn yn edrych ar werthoedd a strwythurau cymdeithasol, wrth wahodd y gynulleidfa i chwerthin a chael ei mesmereiddio gan garafán o gymeriadau (Muzziolo a Soinila sy'n chwarae pob un). Mae'r ddrama'n gofyn cwestiynau am yr hyn sy'n gwneud ein hunaniaeth graidd fel bodau dynol a sut gallwn ddelio â bywyd modern - cwestiynau y mae Pinocchio'n gafael ynddynt drwy gydol y ddrama, ac yn y diwedd mae'n dod i delerau â nhw.
Prif thema Becoming Human - Pinocchio Retold yw taith o hunanddarganfod, lle caiff cyfrinachau go iawn Pinocchio eu datgelu.
Dan arweiniad: Dr Ian Rutt (Cyfarwyddwr Cerdd), Alice Muzzioli ac Inari Soinila (awduron/perfformwyr) ac Atillio Zilli (cyfarwyddwr sain)
Lleoliad: Theatr Volcano Partneriaid: Theatr Volcano
19 Tachwedd: 19:00-20:00: 'The Panic Room: Werwolves and Sherlock'
Caiff bywyd ei fyw drwy hanner gwirionedd, caethiwo, celwydd, datgodio, dianc a darganfod y gwir. Mae côd cymhleth ac annibynadwy plentyn terfysgwyr Werwolf a gwaith Sherlock Holmes yn cynnig mewnwelediad unigryw i'r ysbryd dynol. Mewn trafodaeth banel, gydag 'ystafell banig' ffug, byddwn yn datgelu cynlluniau cudd Werwolf Hitler a dawn Sherlock Holmes.
Dan arweiniad: Dr Anne Lauppe-Dunbar a Dr Nicko Vaughan
Lleoliad: Amgueddfa Abertawe. Partneriaid: Amgueddfa Abertawe
20 Tachwedd: 19:00-20:30: 'Now I Become Myself: a woman's voice in music and poetry'
Bydd y cyfansoddwr o Gymru, Rhian Samuel, yn siarad am ei bywyd yn gyfansoddwr cerddoriaeth glasurol yn UDA a’r DU, o gyfnod pan oedd cyfansoddwyr benywaidd yn hynod brin, hyd at heddiw pan geir llawer mwy ohonynt. Ym mha ffyrdd y gall hyn fod wedi cyfoethogi ein diwylliant? Yn ei chynorthwyo bydd Siân Dicker (soprano) a Kristal Tunnicliffe (piano) a fydd yn perfformio Cerddi Hynafol, trefniadau o dri thestun Cymraeg o’r canol oesoedd, yr ymddengys mai menywod oedd yr awduron, a’r gân ‘Before Dawn’, trefniant o’r gerdd ‘Mourning to Do’ gan yr Americanes, May Sarton.
Lleoliad: Y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe. Partneriaid: Canolfan Richard Burton
23 Tachwedd: 14:00-16:00: ‘Enter the Chamber of Secrets'
Ydych chi am fentro i'r siambr gyfrinachau? Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn hwyl i'r teulu, gan gynnwys:
- ‘Agor y Siambr Gyfrinachau’ – ysgrifennu cadwyni dirgelwch ac adrodd straeon, gyda dau brif naratif - 'Cyfrinachau'r Môr' a'r 'Gorffennol Claddedig' (Yn addas ar gyfer plant hyd at 12 oed)
- ‘Cyfrinachau'r Hen Aifft’ – darganfod mymio, cyfrinachau hieroglyffig, yr hen gêm Senet ac arteffactau go iawn o'r Aifft
- ‘Darganfod eich stori ddigidol’ - creu eich naratif digidol 2 funud eich hun! (Dewch â'ch ffôn clyfar / llechen Android gyda chi)
Dan Arweiniad: Dr Geraldine Lublin, Dr Alan Bilton, Dr Anne Lauppe-Dunbar a Hannah Sweetapple
Lleoliad: Creu Taliesin. Partneiriad: Y Ganolfan Eifftaidd
'Digwyddiad Mawr Rhoi Llyfrau Am Ddim'
Ymunwch â ni am ein helfa lyfrau i’r teulu ar draws dinas Abertawe o ddydd Sadwrn 16 Tachwedd! Cyn dathlu canfed pen-blwydd y Brifysgol, byddwn yn cuddio cant o lyfrau yn y lleoedd mwyaf dirgel - ar y traeth, yn un o’n parciau hyfryd, neu efallai mewn arhosfan bws! Os ydych yn dod o hyd i lyfr, cewch ei gadw! Bydd pob llyfr hefyd yn cynnwys neges arbennig, a phan fyddant wedi mynd, ni fydd dim mwy ar gael!
'Rediscovering Swansea: arddangosfa newydd' - 14-23 Tachwedd
Ymunwch â ni am arddangosfa newydd sy’n addas i’r teulu cyfan lle cewch gyfle i ailddarganfod eich dinas!
- Byddwch yn dysgu am y teulu Vivian a hanodd o Gernyw’n wreiddiol, a’u bywyd yn Abaty Singleton
- Cewch fwy o wybodaeth am y gweithfeydd copr a oedd yn guriad calon bywyd yn Abertawe
- Dewch i ddathlu canmlwyddiant Prifysgol Abertawe sydd ar ddod yn 2020 a chael cipolwg ar ei hanes
Lleoliad: Llfrgell Campws Singleton Prifysgol Abertawe