Cyfres Salon Llenyddol
Digwyddiadau i ddod
Nos Iau 14 Tachwedd 2024 - Dannie Abse: Teyrnged Arbennig
18:00-19:30 - Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, Abertawe SA2 8PP
Ymunwch â ni am deyrnged arbennig iawn i'r diweddar awdur enwog, Dannie Abse, gyda'r Athro Tony Curtis. Yn cynnwys cyflwyniad ffilm gyda recordiad digidol wedi'i adnewyddu, a gyflwynwyd yn fyw ar y llwyfan yn y Theatr Newydd, Caerdydd ym 1989.
Dannie yn ei eiriau ei hun ar Ash on a Young Man's Sleeve, barddoniaeth a'i ddechreuadau fel awdur.
Hyd y ffilm: 1 awr
i'w dilyn gan drafodaeth
*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Iau 21 Tachwedd 2024 - 'Abandon All Hope': Gary Raymond mewn sgwrsio gyda Rebecca Gould
18:00-19:00 - Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, Abertawe SA2 8PP
Abandon All Hope: A Personal Journey Through the History of Welsh Literature
‘I awoke from a deep sleep I had taken under the shade of a tree in a field at the outskirts of a dark wood, without remembering how I had gotten there, or, indeed, where it was exactly, I had gotten.’
Dyna sut mae taith ryfeddol yn dechrau, lle mae awdur - sy'n hynod debyg i'r awdur, Gary Raymond - yn gadael i’w hun gael ei dywys drwy fyd aml-haenog llenyddiaeth Gymreig, nid gan Virgil, ond gan y diweddar awdur a beirniad, yr Athro Raymond Williams.
Gan ymdrin â hanes llenyddiaeth Cymru, o etifeddiaeth y traddodiad barddol i waith arbrofol cyfoes, mae Abandon All Hope yn cyflwyno llenyddiaeth Cymru mewn ffordd newydd sbon - fel rhywbeth arloesol, arbrofol, bywiog, cyffrous, personol a chanddo lu o leisiau.
Mae'r daith hon i fyd Cymreig unigryw yn cynnig ffordd chwyldroadol newydd o archwilio ac esbonio hanes llenyddol, mewn maniffesto eang ei gwmpas ac, yn anad dim, hynod ddifyr, i greu darlun newydd o lenyddiaeth Cymru, yn y wlad a’r tu allan iddi. Abandon All Hope yw'r llyfr a fydd yn rhoi llenyddiaeth Cymru ar y map ac yn adfywio hanes cyfoethog.
Mae gan Gary Raymond amryw o rolau - nofelydd, dramodydd, beirniad, golygydd a darlledwr. Ef yw cyflwynydd yr Arts Show ar gyfer BBC Radio Wales a bu'n gyd-sylfaenydd Wales Arts Review, gan ei olygu am 10 mlynedd. Mae'n awdur chwe llyfr. Yr un ddiweddaraf yw Abandon All Hope: A Personal Journey Through the History of Welsh Literature (Calon Books, 2024). Mae ei nofelau'n cynnwys For Those Who Come After (Parthian, 2015), The Golden Orphans (Parthian, 2018), ac Angels of Cairo (Parthian, 2021). Mae hefyd yn awdur tair rhaglen ddogfen ar gyfer BBC Radio ac un ddrama am fywyd yr awdur Dorothy Edwards.
*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Fercher 27 Tachwedd 2024 - 'Antholeg Gwobr Straeon Byrion Rhys Davies 2024': Digwyddiad Lansio
18:00-19:00 - Waterstones Abertawe, 17 Stryd Rhydychen, Abertawe SA1 3AG
Ymunwch a ni i ddathlu lansiad Antholeg Gwobr Straeon Byrion Rhys Davies 2024!
Bydd y beirniad gwadd Rebecca F. John, y golygydd Elaine Canning a phrif enillydd Cystadleuaeth Straeon Byrion Rhys Davies 2024 yn trafod y casgliad a ffurf y stori fer.
Mae'r straeon, sydd wedi cael eu cynnwys ar Antholeg Gwobr Straeon Byrion Rhys Davies 2024, yn portreadu bywyd yn ei holl ffurfiau hardd, ingol, a gonest. Yma, ceir bywydau sy'n mynd drwy gyfnod o newid - rhwng diwylliannau ac ieithoedd, y presennol a'r gorffennol, breuddwydion a realiti. Mae cymeriadau, briwiedig a bregus, yn crwydro ac yn rhyfeddu.
Awduron yn yr antholeg hon: Brennig Davies, Morgan Davies, Kamand Kojouri, Dave Lewis, Kapu Lewis, Lloyd Lewis, Polly Manning, Siân Marlow, Keza O’Neill, Tanya Pengelly, Anthony Shapland, a Jo Verity.
DIM ANGEN TOCYNNAU | DIM OND TROI FYNY
*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Digwyddiadau Blaenorol yn y Gyfres
Nos Iau 7 Tachwedd 2024 - 'Voyages and Vagabondage': An exploration of travel writing and cultural identity. Sophie Buchaillard a Richard Gwyn mewn sgwrs
18:00-19:00 - Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, Abertawe SA2 8PP
Bydd yr awduron Sophie Buchaillard (Assimilation; This is Not Who We Are) a Richard Gwyn (Ambassador of Nowhere; The Other Tiger) yn rhannu eu profiad a'u gwybodaeth helaeth, gan archwilio pynciau teithio, teithiau, perthyn a hunaniaeth. Byddant yn trafod sut gall cofiannau a ffuglen ein helpu i ddeall ein hunain a'n cymdogion yn well.
Wedi'i gyflwyno gan Elaine Canning.
Assimilation - Sophie Buchaillard
Stori un teulu yn ystod rhai o ddigwyddiadau gwleidyddol a dyngarol mwyaf y ganrif. Stori am ddatrys dirgelion teulu, perthyn, brad a thrawma etifeddol. Llyfr sy'n mynd â chi yn ôl mewn amser a lleoliad trwy hanes aelodau un teulu wrth iddynt frwydro â'u gwreiddiau gwladychol.
Marianne: mam â gorffennol diddorol, sy'n cadw cyfrinach ofnadwy, sy’n gwneud ei gorau i gydymffurfio â disgwyliadau'r dosbarth canol yn Ffrainc.
Charlotte: yn ifanc ac yn hynod annibynnol, mae Charlotte yn awyddus i ddianc rhag trawma ofnadwy a gwlad nad yw hi'n teimlo ei bod hi'n perthyn iddi. Mae hi'n gadael Ffrainc ac yn cyrraedd Cymru, gan obeithio y daw hi o hyd i heddwch a rhywle i ailadeiladu ei bywyd.
Mae'r llyfr hwn yn archwilio heriau hunaniaeth, perthyn a bod yn fenyw a’r straeon rydym yn eu hadrodd i geisio cael ein derbyn.
Ambassador of Nowhere - Richard Gwyn
Yn Ambassador of Nowhere, mae Richard Gwyn yn cofnodi ei daith ar draws America Ladin yn chwilio am gerddi ar gyfer ei antholeg nodedig, The Other Tiger. Hwn yw ei ail gyfrol sy’n cynnwys cofiant a llyfr teithio, yn dilyn ei waith arobryn The Vagabond’s Breakfast. Mae'n adroddiad telynegol a chadarnhaol sy'n talu teyrnged i gyfandir paradocsaidd lle ceir cryn wrthdaro.
Mae Ambassador of Nowhere yn cynnig cipolwg ar y modd y mae poblogaethau yn America Ladin wedi colli eu hymdeimlad o hunaniaeth o ganlyniad i wladychiaeth ac wedi wynebu camfanteisio ar adnoddau naturiol, unbenaethau, meddiannaeth filwrol a newid yn yr hinsawdd. O'r brad yn ystod y chwyldro yn Nicaragua i ddioddefwyr herwryfela yng Ngholombia a bygythiad trais gangiau narco ym Mecsico, mae'r adroddiad helaeth a chraff hwn yn myfyrio ar berthyn cenedlaethol, cyfieithu llenyddol a chyfieithu eich gwaith personol eich hun, a hanes, gwleidyddiaeth a diwylliant America Ladin.
Am yr awduron
Mae Sophie Buchaillard yn nofelydd, yn draethodydd ac yn feirniad Ffrengig-Brydeinig, sydd wedi byw yn ne Cymru am ddau ddegawd, ar ôl teithio a byw'n helaeth dramor. Yn wreiddiol hyfforddodd fel gwyddonydd gwleidyddol a bu'n gweithio fel ymgyrchydd a strategydd. Gwnaeth gyd-ysgrifennu Talented Women for a Successful Wales, sef adroddiad ar wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Mae ei PhD diweddar mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol ‘Between Cultures: Travel Writing, Identity and the Global Novel’ yn archwilio rôl y nofel wrth ailddiffinio ein perthynas â theithio a hunaniaeth. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf This Is Not Who We Are (Seren, 2022) y rhestr fer ar gyfer Llyfr y Flwyddyn Cymru 2023. Cyfrannodd draethodau ar fudo i Woman’s Wales (Parthian, 2024), a olygwyd gan Emma Schofield, ac i An Open Door: New Travel Writing for a Precarious Century (Parthian, 2022) a olygwyd gan Steven Lovatt. Ar hyn o bryd mae'n ysgrifennu cofiant a chasgliad o farddoniaeth. Assimilation yw ei hail nofel.
Mae Richard Gwyn yn awdur ac yn gyfieithydd o Gymru. Dechreuodd fel bardd, gan gyhoeddi pedwar casgliad, ac yn fwyaf diweddar Stowaway: A Levantine Adventure (2018). Mae'n awdur tair nofel gan gynnwys The Colour of a Dog Running Away (2005) a gafodd ei chyfieithu i sawl iaith ac a arweiniodd at gydnabyddiaeth genedlaethol iddo. Mae'n gyfieithydd iaith Sbaeneg, gan arbenigo mewn barddoniaeth a ffuglen fer. Am bum mlynedd, bu'n teithio'n eang yn ne America, a arweiniodd at The Other Tiger (2016), antholeg fawr o farddoniaeth gyfoes America Ladin a ddewiswyd ac a gyfieithwyd ganddo. Mae ei gyfieithiadau eraill yn cynnwys, o Sbaeneg, Impossible Loves gan Darío Jaramillo ac Invisible Dog gan Fabio Morábito. Am ddeng mlynedd bu'n Athro Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe yw awdur Ricardo Blanco’s Blog, y gellir dod o hyd iddo yn richardgwyn.me.
*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Iau 17 Hydref 2024 - 'Quickly, While They Still Have Horses': Gwobr Llenyddiaeth Yr Undeb Ewropeaidd Jan Carson mewn sgwrs ag Elaine Canning
18:00-19:00 - Waterstones Abertawe, 17 Stryd Rhydychen, Abertawe SA1 3AG
Bydd Jan Carson, enillydd i’r Gwobr Llenyddiaeth Yr Undeb Ewropeaidd ac awdur o’r casgliad newydd gwych, Quickly, While they Still Have Horses, yn siarad gydag Elaine Canning, awdur o The Sandstone City a golygydd i Maggie O’Farrell: Contemporary Critical Perspectives (Bloomsbury).
TOCYNNAU AM DDIM I STAFF A MYFYRWYR PRIFYSGOL ABERTAWE. EBOSTIWCH: e.canning@swansea.ac.uk
CYSYLLTIAD ARCHEBU CYHOEDDUS CYFFREDINOL
*Please note: Event delivered in English
Nos Iau 10 Hydref 2024 - 'At Dawn, Two Nightingales': Alan Bilton mewn sgwrs gyda Carole Hailey
18:00-19:00 - MumbAles, 56 Heol Newton, Mwmbwls, Abertawe SA3 4BQ
Crynodeb o lyfr
Wedi'i lleoli yn Bohemia'r ddeunawfed ganrif, mae At Dawn, Two Nightingales yn opera ddigrif ar ffurf nofel. Mae'r stori, sydd yn rhannol yn chwiliad yn rhannol yn bantomeim, yn ymwneud â chwilio am y gerdd fwyaf peryglus yn y byd, y dywedir bod gan ei phenillion bwganllyd bwerau goruwchnaturiol dirgel. Mae cariadon, troseddwyr, sensoriaid a gwylliaid i gyd ar drywydd ei phenillion hudol: ond ydy popeth am y gerdd fel y mae'n ymddangos mewn gwirionedd?
Yr Awdur…
Mae Alan Bilton yn awdur tair nofel arall, The Sleepwalkers' Ball, The Known and Unknown Sea, a The End of The Yellow House, yn ogystal â chasgliad o straeon byrion swreal, Anywhere Out of the World. Mae ef hefyd wedi ysgrifennu llyfrau am gomedi ffilmiau mud, America yn y 1920au a ffuglen gyfoes, ac mae'n addysgu Ysgrifennu Creadigol a Llenyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe.
*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Fercher 25 Medi 2024 - 'The Crazy Truth': Gemma June Howell mewn sgwrs ag Elaine Canning
18:00-19:00 - Waterstones Abertawe, 17 Stryd Rhydychen, Abertawe SA1 3AG
Bydd Gemma June Howell yn siarad gydag Elaine Canning, awdur o The Sandstone City ac golygydd i Maggie O’Farrell: Contemporary Critical Perspective (Bloomsbury) am ei nofel newydd wych, The Crazy Truth.
DIM TOCYN OFYNNOL | DIM OND TROI I FYNY!
*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Fercher 17 Ebrill 2024 - 'Savage Ridge': Morgan Greene mewn sgwrs gyda Alan Bilton
18:00-19:00
Waterstones Abertawe, 17 Stryd Rhydychen, Abertawe SA1 3AG
Mae pris i'w dalu am gyfiawnder tref fach.
'Llawn tensiwn ac ing, doeddwn i ddim yn gallu rhoi hwn o'r neilltu. Gwnaeth y troeon plot annisgwyl fy nghadw ar bigau drain. Gwych!' Simon McCleave
'Tywyll, mae'n rhoi sawl sioc a boddhad i gyd ar yr un pryd. Mae'n trin y cymeriadau a'r cyflymder yn grefftus iawn, ac yn diberfeddu dyletswydd foesol!' Rachel Lynch
Ddeng mlynedd yn ôl, yn nhref Savage Ridge sy'n swatio yng nghysgod coed pinwydd, mae Nick, Emmy a Peter yn llofruddio eu cyd-ddisgybl, Sammy Saint John.
Nid yw ei gorff byth yn cael ei ddarganfod ac ni chaiff neb ei arestio. Mae'r tri chyfaill yn dod i gytundeb i adael Savage Ridge a byth i ddychwelyd...
Nawr, mae pob un yn cael ei ddenu'n ôl, naill ai ar hap neu gan ffawd yn ôl pob golwg. Ond mae yna reswm arall y tu ôl i hyn: mae'r Ditectif Preifat, Sloane Yo, wedi dod â nhw'n ôl i ateb o'r diwedd am eu trosedd.
Mae'r rhwyd yn dechrau cau amdanynt. Ond wrth i bob carreg gael ei throi drosodd ar drywydd cyfiawnder, mae cyfrinachau claddedig Savage Ridge a chyflogwyr Sloane - teulu didrugaredd Saint John - yn dechrau dod i'r fei.
Beth nad ydynt yn ei ddweud wrth Sloane? Ai Sammy Saint John yw'r unig ddioddefwr? A phan gaiff y gwirionedd ei ddatguddio o'r diwedd, pa ochr bydd yn ei dewis?
I ddarllenwyr a fwynhaodd lyfr Chris Whitaker, We Begin at the End, mae Savage Ridge yn stori drosedd wefreiddiol a chymhellol sy'n gofyn y rheswm pam, wedi'i lleoli ym mherfeddion coed pinwydd gogledd-orllewin arfordir Môr Tawel America.
Morgan Greene yw ffugenw'r awdur Prydeinig, Daniel Morgan, a fagwyd yng Nghymru, ac sydd wedi astudio Ysgrifennu Creadigol a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Daniel, sydd wedi ysgrifennu'r gyfres hynod boblogaidd, Jamie Johansson, yn byw yn ne Columbia Prydeinig, Canada, ar hyn o bryd.
*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Fercher 13 Mawrth 2024 - ‘Merched, Gwrthdaro a Thirweddau’: Jane Fraser a Kathleen B. Jones yn sgwrsio ag Elaine Canning
18:00-19:00 - Waterstones Abertawe, 17 Stryd Rhydychen, Abertawe SA1 3AG
Ymunwch â ni i ddathlu nofelau cyntaf awduron arobryn Janes Fraser (Cymru) a Kathleen B. Jones (UDA). Mewn sgwrs ag Elaine Canning, bydd Jane a Kathleen yn trafod celf ysgrifennu ffuglen hanesyddol, ysbrydoliaeth a dylanwadau, yn ogystal â thawelu menywod a’u gwneud yn anweladwy, dyletswydd a dyhead o fewn tirlun diwylliannol.
Bywgraffiadau
Mae Jane Fraser yn byw, yn gweithio ac yn ysgrifennu ffuglen mewn tŷ sy'n wynebu'r môr ym mhentref Llangynydd, ym mhenrhyn Gŵyr, de Cymru.
Hi yw awdur dau gasgliad o ffuglen fer, The South Westerlies (2019) a Connective Tissue (2022), a chyhoeddwyd y ddau gan SALT , un o gyhoeddwyr annibynnol mwyaf blaenllaw’r DU. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Advent (2021), gan wasg menywod Cymru, HONNO, a dyfarnwyd Gwobr Goffa Paul Torday y Gymdeithas Awduron iddi yn 2022.
Mae ei straeon byrion wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn cystadlaethau rhyngwladol mawr: cyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Ffuglen Manceinion (2017) ac mae hi wedi dod yn ail, wedi cael ei chynnwys ar y rhestr fer neu dderbyn clod ar gyfer Gwobr Stori Fer Fish, Gwobr Stori Fer ABR Elizabeth Jolley, Gwobr Stori Fer Caergrawnt, a Gwobr Genedlaethol Stori Fer Rhys Davies.
Mae ei gwaith wedi'i gynnwys mewn nifer helaeth o flodeugerddi gan arddangos mewn cyhoeddiadau gan New Welsh Review, The Lonely Crowd, TSS, Momaya Press, Retreat West, a Fish Publishing. Yn 2022, cafodd ei chomisiynu gan BBC Radio 4 am y tro cyntaf i ysgrifennu 'Soft Boiled Eggs' sef stori fer a ddarlledwyd fel rhan o'r gyfres Short Works.
Mae ganddi radd gyntaf B.Ed a gradd Meistr a gradd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Mae hi hefyd yn falch o fod yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli.
Yn ddiweddar, mae The Society of Authors wedi dyfarnu grant i Jane i weithio ar ei nofel ddiweddaraf: stori gyfoes eco-ffeministaidd rhwng cenedlaethau wedi'i gosod ar benrhyn Gŵyr
Born and educated in New York City, Kathleen B. Jones taught feminist theory for twenty-four years at San Diego State University. Besides many scholarly books, she wrote two memoirs: Living Between Danger and Love, (Rutgers University Press, 2000) and the award-winning Diving for Pearls: A Thinking Journey with Hannah Arendt (Thinking Women Books, 2015). Her essays and short fiction have appeared in Fiction International, Mr. Beller’s Neighborhood, The Briar Cliff Review, Humanities Magazine, and The Los Angeles Review of Books. Among numerous awards, she received multiple grants from the National Endowment of the Humanities, writers’ grants to the Vermont Studio Center, an honorary doctorate from Örebro University, Sweden, and a distinguished alumni award from CUNY Graduate Center. Cities of Women is her debut novel. She lives in Stonington CT.
Yn wreiddiol o Belfast, mae Elaine Canning yn arbenigwr mewn ymgysylltu â'r cyhoedd, yn awdur ac yn olygydd sy'n byw yn Abertawe, de Cymru. Mae ganddi MA a PhD mewn Astudiaethau Sbaenaidd gan Brifysgol y Frenhines Belfast ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol gan Brifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd, hi yw Pennaeth Prosiectau Arbennig ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas. Yn ogystal ag ysgrifennu monograff a phapurau am ddrama Sbaeneg o'r oes aur, mae hi wedi cyhoeddi nifer o straeon byrion. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Sandstone City, gan Aderyn Press yn 2022. Hi hefyd yw golygydd Maggie O'Farrell: Contemporary Critical Perspectives (i'w gyhoeddi yn 2023 gan Bloomsbury). Mae hi'n aelod o Bwyllgor Cynghori'r British Council ac yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Dydd Gwener 8 Mawrth 2024 - 'Grymuso Lleisiau, Ysbrydoli’r Dyfodol': Lansiad Menywod Cyhoeddi Cymru
13:00-16:00 - Creu Taliesin, Campus Singleton, Prifysgol Abertawe, Abertawe SA2 8PP
Dewch i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Cymru gyda Menywod Cyhoeddi Cymru! Cynhelir y digwyddiad wyneb yn wyneb hwn mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Diwylliannol yn Taliesin ar Gampws Singleton, Prifysgol Abertawe yn Sgeti, Abertawe, y DU. Byddwch yn barod i ddathlu a chefnogi gwaith anhygoel menywod yn y diwydiant cyhoeddi.
Mae siaradwyr yn cynnwys: Jannat Ahmed; Faith Buckley; Emma Clark; Gwenno Dafydd; Sarah Johnson; Helgard Krause; Meredith Miller; Rufus Mufasa; Rhoda Thomas; Penny Thomas; Tia-zakura Camilleri a Nelly Adam
AMDANOM NI
Mae Menywod Cyhoeddi Cymru - Women Publishing Wales (WPW/MCC) yn rhwydwaith deinamig â’r nod o gysylltu a grymuso menywod ym maes cyhoeddi yng Nghymru. Drwy greu lle cynhwysol lle gall menywod ffynnu a datblygu eu teithiau proffesiynol, bydd MCC – WPW yn helpu i oleuo doniau menywod ym maes cyhoeddi a ddatgloi eu potensial llawn.
GAN Y SEFYDLYDD
'Yn Ffair Lyfrau Llundain a Ffair Lyfrau Frankfurt, cefais y cyfle i siarad ag amrywiaeth eang o fenywod ym maes cyhoeddi Cymru a menywod o bedwar ban byd. Roedd yn bywiogi’n fawr i fod yn dyst i’w hegni mawr, eu doethineb, eu setiau eang o sgiliau a chlywed eu straeon o fuddugoliaeth yn wyneb heriau a rhwystrau cyfarwydd yn y byd cyfieithu. Gadewais i’r sgyrsiau hyn yn teimlo’n rhydd ac wedi ysbrydoli’n fawr! Gan gofio potensial heb ei ddefnyddio menywod ym maes cyfieithu, mae’n amlwg nid yn unig bod y rhwydwaith cyhoeddi menywod yn ddymunol ond yn gwbl hanfodol. Bydd rhwydwaith o’r fath yn llwyfan hanfodol i elwa ar ein cyd-ddyheadau a denu cynulleidfaoedd i fyd cyhoeddi.' Dr Gemma June Howell, Cyfarwyddwr.
MWY AMDANOM NI
www.womenpublishingwales.com
YMUNWCH Â NI HEDDIW
join@womenpublishingwales.com
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Mercher 21 Chwefror 2024 - 'Purity and Hope': Aruni McShane mewn sgwrs gyda Gilly Adams
14:00-15:00 - Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, Abertawe SA2 8PP
Purity and Hope yw'r casgliad cyhoeddedig cyntaf o waith Aruni McShane, bardd ac ysgrifwr o Sri Lanka y mae ei deunydd ysgrifenedig yn creu pont rhwng ei gwlad frodorol, Sri Lanka, a'i chartref mabwysiedig yng Nghymru.
Wrth i Sri Lanka ddathlu 75 mlynedd o annibyniaeth o Brydain, mae un o artistiaid mwyaf dawnus y wlad yn rhannu ei thaith ei hun tuag at annibyniaeth greadigol ac adnewyddu ei hunaniaeth ei hun, ac yn portreadu cariad ffyrnig, anhunanol mam at ei phlant.
Daeth Aruni McShane i'r DU i chwilio am ddiogelwch. Yn ystod y cyfnod byr y mae Aruni wedi byw yn Abertawe, mae eisoes wedi gwneud cyfraniad sylweddol at fywyd lleol drwy ei gweithgareddau gwirfoddoli. Mae wedi derbyn ac wedi rhoi cymorth. Enillodd Ysgoloriaeth Noddfa Prifysgol Abertawe yn 2022, ac mae'n darllen am ei gradd Meistr mewn ysgrifennu creadigol ar hyn o bryd.
**Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Iau 1 Chwefror 2024 - 'Crow Face, Doll Face': Carly Holmes yn siarad ag Elaine Canning, gyda darlleniad a sesiwn holi-ac-ateb
18:00-19:00 - Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, Abertawe SA2 8PP
Dyma stori llawn rhyfeddod a throeon, gemau a dichelldroeon eithriadol, mae Crow Face, Doll Face yn archwilio cael eich gorfodi i fyw â chanlyniadau'r penderfyniadau rydym yn eu gwneud a'r ffantasïau rydym yn eu creu i gysuro ein hunain pan fydd ein bywydau’n methu bodloni’r disgwyliadau a oedd gennym.
Mae Annie yn fam i bedwar o blant, sy'n anhapus yn ei phriodas ac sy'n boddi mewn caethiwed domestig. Yn aml, mae'n gofyn iddi ei hun sut fywyd allai fod wedi'i gael pe bai hi heb gael plant, ond pan fydd ei merch ieuengaf yn gwneud rhywbeth sy’n ymddangos yn amhosib, sef esgyn i’r awyr, mae hud yn cyffwrdd â’i bywyd a sylweddola fod ei merched yn wirioneddol arbennig a rhaid iddi eu hamddiffyn. Yn y pen draw, mae Annie'n magu'r dewrder i adael ei llanastr o briodas , ond mae hi'n cyflawni gweithred ofnadwy, annychmygadwy, sy’n groes i natur mam ar hyd y ffordd.
Mae Carly Holmes yn byw ac yn ysgrifennu ar lannau afon Teifi, yng ngorllewin Cymru. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, The Scrapbook, y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfrau Ryngwladol Rubery, a chyhoeddwyd ei chasgliad o straeon byrion ffantasi ac arswyd, Figurehead, mewn argraffiad clawr caled cyfyngedig gan Tartarus Press, a'i ailargraffu ar ffurf clawr papur gan Parthian Books. Mae ei rhyddiaith fer arobryn wedi ymddangos mewn cyfnodolion ac antholegau megis Ambit, The Ghastling, The Lonely Crowd, ac wedi cael ei dewis ddwywaith am Waith Arswyd Gorau'r Flwyddyn.
Mewn partneriaeth â Cover to Cover
*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Iau 25 Ionawr 2024 - 'Local Fires': Joshua Jones mewn sgwrs gyda Dr Richard Davies (Cyfarwyddwr Parthian Books)
Credyd Llun: Nik Roche
18:00-19:00 - HQ Urban Kitchen, 37 Stryd y Berllan, Abertawe SA1 5AJ
Mae Local Fires yn troi ffocws yr awdur newydd Joshua Jones at ei fan geni sef Llanelli, de Cymru. Yn eironig ac yn felancolaidd, yn llawn llawenydd a galar, er bod y straeon amlweddog hyn wedi'u gosod mewn tref fach, maen nhw’n ymestyn ymhell y tu hwnt i'w hardal leol. O'r llesgedd o fyw mewn hen ardal dosbarth gweithiol, ddiwydiannol, i rywedd, rhywioldeb, gwrywdod tocsig a niwroamrywiaeth, mae Jones wedi llunio casgliad sy'n amlochrog o ran thema ac arsylwi, wrth i anffawd trigolion y dref fygwth gorlifo i ddiweddglo ffrwydrol.
Yn y gyfres drawiadol hon o straeon sy'n gysylltiedig, mae tanau llythrennol a throsiadol, lleol a hollgynhwysol, yn fflamio ynghyd i gyflwyno dyfodiad llais llenyddol Cymreig neilltuol newydd.
Mae Joshua Jones (ei/ef) yn awdur awtistig, cwiar ac yn artist o Lanelli, de Cymru. Gwnaeth sefydlu Dyddiau Du ar y cyd, sef gofod celf a llenyddiaeth NiwroCwiar yng Nghaerdydd. Mae ei ffuglen a'i farddoniaeth wedi cael eu cyhoeddi gan Poetry Wales, Broken Sleep Books, Gutter ac eraill. Mae'n un o Egin Awduron Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2023, ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r British Council i gysylltu awduron cwiar o Gymru a Fietnam. Local Fires yw ei gyhoeddiad ffuglen cyntaf.
Mewn partneriaeth â Cover to Cover
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Iau 30 Tachwedd - 'This Writing Life': Dai Smith yn sgwrsio gyda Rob Humphreys
15:00-16:00 - Tabernacl y Mwmbwls, Mwmbwls, SA3 4AR
Yn y cofiant cyfareddol hwn, mae Dai Smith yn ymgysylltu ac yn diddanu gyda bywyd personol awdur sydd wedi taflu goleuni ar hanes modern pobl de Cymru.
'O'r paragraff cyntaf bron i'r diwedd, mae rhyddiaith dra-chywir, doreithiog Smith yn disgleirio yn ei gallu i danio tân gwyllt cystrawennol a threfnu'n gywrain i siâp oes o chwilfrydedd deallusol a hunanfyfyrio.' Dylan Moore, Nation.Cymru
Ganwyd Dai Smith yn y Rhondda ym 1945. Astudiodd Hanes yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, a Llenyddiaeth ym Mhrifysgol Columbia, yn Ninas Efrog Newydd. Dyfarnwyd PhD iddo ym Mhrifysgol Abertawe am draethawd ymchwil ar Ffederasiwn Glowyr De Cymru, a oedd yn destun ei lyfr, gyda Hywel Francis, The Fed. Roedd yn olygydd cyfrannu i'r gyfres o ysgrifau A People and A Proletariat, a chyhoeddodd, gyda Gareth Williams, Hanes Swyddogol Undeb Rygbi Cymru, Fields of Praise, gan ennill gwobrau amdano. Drwy gydol y 1980au a'r 1990au, ysgrifennodd a golygodd nifer o lyfrau arloesol a phryfoclyd ac erthyglau ysgolheigaidd ar hanes cymdeithasol a diwylliannol Cymru fodern: yn eu plith, Lewis Jones, Aneurin Bevan and the World of South Wales and Wales: A Question for History. Roedd yr ail un yn fersiwn wedi’i diwygio’n helaeth o'r llyfr sy'n gysylltiedig â chwe ffilm ddogfen a ysgrifennwyd ac a gyflwynwyd ganddo gyda'r teitl, Wales!Wales? Aeth ymlaen i greu nifer o ffilmiau eraill ar y celfyddydau a diwylliant poblogaidd, gan gynnwys yr un fwyaf diweddar The Lost Pictures of Eugene Smith.
Daeth yn Olygydd BBC Radio Wales ym 1993, ac yn Bennaeth Darlledu (Saesneg) yno o 1994 tan 2000 pan gafodd ei benodi'n Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Morgannwg. Bu ganddo swyddi darlithio ers 1969 ym Mhrifysgolion Caerhirfryn, Abertawe a Chaerdydd, lle dyfarnwyd iddo Gadair Bersonol Prifysgol Cymru ym 1984 ac ers 2005 bu'n Gadair Ymchwil Hanes Diwylliannol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.
O 2006 tan 2016, roedd yn Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru ac ef oedd Golygydd cyntaf y gyfres Library of Wales y gwnaeth hefyd olygu dwy gyfrol o straeon byrion Cymreig ar ei chyfer, Story 1 a Story 2. Cafodd In The Frame, ei fywgraffiad gydag ysgrifau dilynol ei gyhoeddi yn 2010, a chwblhaodd drioleg ffuglen gyda The Crossing yn 2020. Ers 2016, bu'n Olygydd Comisiynu’r gyfres Modern Wales.
Mewn partneriaeth â Cover to Cover
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Dydd Mercher 8 Tachwedd - 'Children of the Land': Sarah Tanburn yn siarad ag Alan Bilton am ei chasgliad newydd o straeon byrion, gyda darlleniad a sesiwn holi-ac-ateb
14:00-15:00 - Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP
Mae pum stori yn Children of the Land yn digwydd mewn lleoedd go iawn:Caerllion, Rhossili, Ynys Llandwyn, Bannau Brycheiniog, dan Eryri. Dyma leoedd y bydd darllenwyr yn eu hadnabod ac yn eu caru, wedi'u hadnewyddu. Daeth Hawks of Dust and Wine yn ail yng ngwobr Rheidiol 2019, ac fel yr holl straeon hyn, mae'n cynnig arwres gref ac anghonfensiynol. Mae Sarah Tanburn yn mynd â ni ar daith wefreiddiol, wrth bob amser ofyn cwestiynau pwysig am y math o Gymru yr hoffem fyw ynddi.
Bydd y straeon llawn dychymyg hyn yn apelio at y rhai hynny sy'n dwlu ar Angela Carter ac Ursula Le Guin. Mae Sarah Tanburn yn mynd â ni o fytholeg i Gymru'r dyfodol lle mae gan blant aflonydd leisiau grymus. Wedi'i gwreiddio yn nhirwedd Cymru, mae ei hiaith yn curo â grym y môr, mae'n codi ac yn troi ar y gwynt ac yn adleisio â synau'r ddaear ddwfn.
‘Writing in a notably fresh voice and strikingly original, these fables hook us in as readers and take us off in thrilling and unpredictable directions.’ - Philippa Davies
‘Sarah Tanburn populates the terrain of Wales with a glorious cast of colourful characters. Conveying a sense of wonder about a world that Is intriguingly off-kilter, and presented compellingly well.’ - Jon Gower.
Mae Sarah Tanburn yn byw ac yn ysgrifennu yn ne Cymru. Mae hi'n hwylio ac yn heicio, gan ymdrochi yn yr amgylchedd o'i chwmpas, ac yn nesáu at orffen ei PhD rhan-amser mewn Ysgrifennu Creadigol yn Abertawe. Cyhoeddwyd ei gwaith mewn antholegau ac ar-lein, gan gynnwys New Welsh Review, Ink, Sweat and Tears, Aliens (gan Iron Press), Wifiles a chylchgrawn Superlative. Mae hi'n ysgrifennu'n rheolaidd i Nation.Cymru
Mewn partneriaeth â Cover to Cover
*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Iau 2 Tachwedd - Ymunwch â ni ar gyfer lansiad Wild Cherry: Dathliad o Farddoniaeth ac Etifeddiaeth Nigel Jenkins
18:00-19:30 - Tabernacl y Mwmbwls, SA3 4AR
Noson arbennig o berfformiad a sgwrs yn anrhydeddu’r diweddar awdur, ysgolhaig ac athro o Benrhyn Gŵyr, Nigel Jenkins.
Wedi’i chyflwyno gan yr awdur arobryn o Gymru, Jon Gower, ymunwch â ni ar gyfer lansiad Wild Cherry: Nigel Jenkins’ Selected Poems (Parthian Books). Mae’r gyfrol hon ar ôl marwolaeth yn dwyn ynghyd ddetholiad o farddoniaeth Nigel Jenkins o bob rhan o’i yrfa, wedi’u dethol a’u golygu gan enillydd Llyfr y Flwyddyn, Patrick McGuinness.
Bydd y Noson hefyd yn cynnwys cyhoeddi enillydd 2023 a noddir gan Sefydliad Hmm ar gyfer Gwobr Nigel Jenkins ar gyfer yr MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
Am yr awdwr
Roedd Nigel Jenkins (1949-2014) yn un o brif lenorion Cymru: yn fardd ac yn draethawdydd, roedd hefyd yn weithredwr gwleidyddol, yn athro ac yn fentor. Daeth i amlygrwydd gyntaf fel un o Dri Bardd Eingl-Gymreig Ifanc Cyngor Celfyddydau Cymru (1974). Ym 1976, derbyniodd Wobr Eric Gregory gan Gymdeithas yr Awduron. Dilynwyd hyn gan gasgliadau barddoniaeth niferus, gan gynnwys Song and Dance (1981), Blue: 101 Haiku, Senryu and Tanka (2002) a Hotel Gwales (2006). Cyfieithwyd ei farddoniaeth i Ffrangeg, Almaeneg, Hwngari, Iseldireg a Rwsieg, ac mae ei gyfieithiadau o farddoniaeth Gymraeg fodern wedi ymddangos mewn nifer o gylchgronau a blodeugerddi ledled y byd, gan gynnwys The Bloodaxe Anthology of Modern Welsh Poetry (2003).
Yn gyn-newyddiadurwr papur newydd, roedd Jenkins yn awdur rhyddiaith medrus. Ym 1996, enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ei lyfr taith Khasia in Gwalia (1995) – hanes Cenhadaeth y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig i Fryniau Khasia yng ngogledd-ddwyrain India (1841–1969). Golygodd Jenkins hefyd flodeugerdd ategol o farddoniaeth a rhyddiaith o Fryniau Khasia, Khasia yn Gwalia. Yn 2001, cyhoeddodd ddetholiad o'i draethodau ac erthyglau fel Footsore on the Frontier ac, yn 2008, a chyhoeddwyd ei arweinlyfr seico-ddaearyddol cyntaf Real Swansea ac yna Real Swansea Two (2012) a Real Gower (2014).
Etholwyd Nigel yn fardd i Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn 1998. Roedd yn gyd-olygydd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (2008). Ac yntau’n arloeswr uchel ei barch o’r haiku yng Nghymru, bu hefyd yn cyd-olygu blodeugerdd genedlaethol gyntaf y wlad o farddoniaeth haiku, Another Country yn 2011.
Am y golygydd
Mae Patrick McGuinness yn awdur dau lyfr barddoniaeth blaenorol, dwy nofel, The Last Hundred Days a Throw Me to the Wolves , a llyfr ffeithiol am le, amser a chof, a thref fechan ei fam ar y ffin yng Ngwlad Belg, Bouillon - Other People's Countries - a gyrhaeddodd restr fer Gwobr PEN Ackerley a Gwobr James Tait Black, Llyfr y Flwyddyn, a Gwobr Duff Cooper. Mae’n Athro Ffrangeg a Llenyddiaeth Gymharol yng Ngholeg St Anne, Rhydychen.
Mewn partneriaeth â Cover to Cover
*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Iau 26 Hydref - 'Vulcana': Awdur Rebecca F. John yn sgwrsio ag Elaine Canning
18:00-19:00 - Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP
I’w gyhoeddi gan wasg Honno Welsh Women ym mis Mai 2023, mae Vulcana yn adrodd stori go iawn Kate Williams o Oes Victoria.
Ar noson stormus o aeaf 1892, mae Kate Williams, merch Gweinidog y Bedyddwyr, yn gadael ei thref fach enedigol yn Y Fenni, Cymru ac yn teithio i Lundain gyda dim byd ond cês teithio a chynllun gwyllt: mae hi am berfformio fel dynes gref.
Ond nid ei huchelgais yn unig y mae ganddi lygaid arno. Mae William Roberts, sy’n ddeuddeng mlynedd yn hŷn na Kate, ac yn arwain grŵp o ddynion a menywod cryf, wedi dal ei dychymyg a'i chalon. Yn Llundain, mae William yn creu hunaniaeth newydd i Kate, sef 'Vulcana – Most Beautiful Woman on Earth', ac yn galw ei hun yn 'Atlas'. Yn fuan maen nhw'n teithio o gwmpas Prydain a’r tu hwnt, yn perfformio mewn theatrau yn Ffrainc, yn Awstralia ac yn Algiers.
Wrth i seren Vulcana godi, fodd bynnag, mae seren Atlas yn pylu, ac mae Kate yn gorfod cynnal nid yn unig grŵp o berfformwyr, ond hefyd y teulu. Ond ydy hi wir yn awchu am enwogrwydd a ffortiwn? Sut mae hi'n gallu cysoni bod yn fam gyda theithio'r byd? Ydy hi wir yn gallu bod yn llais i fenywod ac, er gwaethaf y disgwyliadau a’r confensiynau, parhau'n driw iddi hi ei hun?
'Wedi'i hysgrifennu'n hyfryd, yn procio'r meddwl a stori garu deimladwy.' Tracy Rees
'Holl hudoliaeth a graean neuaddau cerdd. Portread gwirioneddol empathig o fenyw ifanc ddewr. annibynnol.' Essie Fox
Mae Rebecca F. John yn awdur pump llyfr i oedolion - Clown's Shoes, The Haunting of Henry Twist, The Empty Greatcoat, a Fannie. Yn flaenorol, cafodd ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Stori Fer The Sunday Times a Gwobr Nofel Gyntaf Costa. Yn 2022, cyhoeddodd ei llyfr cyntaf i blant, nofel oedran cynradd o'r enw, The Shadow Order, trwy Wasg Firefly.
Mae Rebecca yn byw yn Abertawe gyda'i phartner, eu mab a'u cŵn. Mae hi'n dwlu ar gerdded, y môr a darllen am gynifer o fydau gwahanol â phosibl.
Mewn partneriaeth â Cover to Cover
*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Iau 19 Hydref - Syniadau gan gyhoeddwr: Scott Pack ar bob peth yn cyhoeddi
18:00-19:00 - Waterstones Abertawe, SA1 3AG
Bydd Scott yn trafod yr holl faterion ynghylch cyhoeddi, ac yn rhoi cyngor arnynt, gan gynnwys ysgrifennu a golygu, cyflwyno a chyhoeddi llyfr.
O gyflwyniad hwylus i sut mae'r byd cyhoeddi'n gweithio, a sut mae awduron yn rhan o hyn, i awgrymiadau ymarferol ar ysgrifennu eich llyfr, strategaethau ar gyfer golygu ac ail-ysgrifennu, a chanllaw amhrisiadwy ar gyfer creu cyflwyniad perffaith, mae Tips from a Publisher yn llawn cyngor synhwyrol na ddylai unrhyw ddarpar awdur fod hebddo.
Mae Scott Pack bellach ar ei drydydd degawd yn gweithio ym myd y llyfrau. Yn ystod yr amser hwnnw, bu'n bennaeth prynu i Waterstones, gweithiodd i gyhoeddwyr mawr a bach - gan gynnwys cyfnod hir gyda HarperCollins - ac addysgu nifer o weithdai ar ddosbarthiadau sy'n cynnwys pob agwedd ar ysgrifennu. Y dyddiau hyn, mae'n rhannu ei amser rhwng ysgrifennu ei lyfrau ei hun, golygu llyfrau pobl eraill, addysgu golygyddion yfory fel rhan o radd MA Cyhoeddi Prifysgol Oxford Brookes, ac mae'n un o osodwyr cwestiynau pwnc arbenigol rhaglen Mastermind y BBC. Mae ei lyfrau'n cynnwys Tips from a Publisher, llawlyfr i ysgrifenwyr, a Literary Cats, hanes cathod mewn llenyddiaeth.
ARCHEBWCH DOCYNNAU AM DDIM YMA
*Sylwch: Digwyddiad a ddarperir yn Saesneg
Nos Iau 12 Hydref - Lansio llyfr: Blodeugerdd Stori Fer Rhys Davies 2023
18:00-19:00, Waterstones Abertawe, Hen Sinema’r Carlton, 17 Stryd Rhydychena SA1 3AG
Ymunwch a ni i ddathlu lansiad antholeg gwobr straeon byrion Rhys Davies 2023!
Bydd y beirniad gwadd Jane Fraser, y golygydd Elaine Canning a phrif enillydd Cystadleuaeth Straeon Byrion Rhys Davies 2023 yn trafod y casgliad a ffurf y stori fer.
Mae'r straeon sy'n rhan o restr fer gwobr stori fer Rhys Davies 2023 yn disgleirio â llais a safbwynt didwyll. Dyma straeon sydd wedi eu gosod yng Nghymru, yn ogystal â gwledydd megis Sbaen a Japan, ac maen nhw'n archwilio bod a pherthyn, gadael a dyheu.
Awduron yn yr antholeg hon: Ruairi Bolton, Ruby Burgin, Bethan Charles, JL George, Joshua Jones, Emma Moyle, Rachel Powell, Matthew G. Rees, Silvia Rose, Satterday Shaw, Emily Vanderploeg a Dan Williams.
Mewn partneriaeth â Parthian Books a Waterstones Abertawe
Sylwch fod y digwyddiad wedi'i gyflwyno yn Saesneg
ARCHEBWCH YMA
Dydd Mercher 11 Hydref - lansiad llyfr: Awdur Kathy Biggs yn siarad ag Elaine Canning a Gemma June Howell am ei nofel newydd 'Scrap', modern chwedl ddynol wedi ei gosod yn Abertawe.
14:00-15:00 - Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe SA2 8PP
Awdur Kathy Biggs yn siarad ag Elaine Canning a Gemma June Howell am ei nofel newydd Scrap, modern chwedl ddynol wedi ei gosod yn Abertawe. Gyda darlleniad a Holi ac Ateb.
Fel rhan o'r gyfres Salon Llenyddol, mae'r Sefydliad Diwylliannol a Gwasg Menywod Cymru Honno yn eich gwahodd i sgwrs dreiddiol rhwng yr awdur newydd Kathy Biggs a Dr Gemma June Howell. Ymunwch â ni i ddarganfod yr hud a geir yn nhudalennau nofel ddiweddaraf Kathy Biggs, Scrap. Mae'r stori afaelgar hon a leolir yn Abertawe yn eich tywys ar daith o wydnwch, goresgyn heriau a nerth diwyro'r ysbryd dynol. Byddwch yn barod i gael eich trochi ym myd cymeriadau tra lliwgar, emosiynau ingol a thwf personol sy'n ymestyn y tu hwnt i'r cyffredin. Gyda Dr Elaine Canning yn y Gadair, gyda'i gilydd byddant yn archwilio themâu cywrain a chymeriadau’r nofel a'r hyn a ysbrydolodd Scrap. Cewch gipolwg unigryw ar broses greadigol Biggs, yr heriau roedd yn eu hwynebu a'r dylanwadau llenyddol sydd wedi llywio ei gwaith arbennig.
Daw Kathy Biggs yn wreiddiol o Swydd Gaerefrog. Cafodd swydd dros yr haf yng nghanolbarth Cymru ym 1985 ac ni wnaeth byth adael. Mae ganddi ddau blentyn sydd wedi tyfu ac mae’n byw gyda’i gŵr. Ar ôl astudio nifer o gyrsiau Ysgrifennu Creadigol sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth, darganfu ddawn am ysgrifennu. Ym mis Hydref 2022, cyhoeddodd ei nofel gyntaf The Luck. Scrap yw ei hail deitl a gyhoeddwyd gan Honno.
Mewn partneriaeth â Cover to Cover
*Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg
Dydd Mercher 4 Hydref - The Half-life of Snails - Philippa Holloway yn siarad ag Elaine Canning, gyda darlleniad a sesiwn holi-ac-ateb
14:00-15:00 - Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP
Mae nofel gyntaf Phillippa Holloway'n archwilio goroesiad ac etifeddiaeth Chernobyl mewn rhaniad naratif rhwng gogledd Cymru a'r Wcràin yn ystod argyfwng Euromaidan.
“Two sisters, two nuclear power stations, one child caught in the middle...
When Helen, a self-taught prepper and single mother, leaves her young son Jack with her sister for a few days so she can visit Chernobyl’s Exclusion Zone, they both know the situation will be tense. Helen opposes plans for a new power station on the coast of Ynys Môn that will take over the family’s farmland, and Jennifer works for the nuclear industry and welcomes the plans for the good of the economy.
And Jack isn’t like other five-year olds... as they will both discover with devastating consequences.”
‘Shimmers with compassion…a tale that will linger longer than the half-life of many books you will read this year.’ Alex Lockwood, awdur The Chernobyl Privileges#
‘A transformative read in a time of heightened complexity and division.’ Wales Arts Review
Mae Philippa Holloway yn awdur ac yn academydd sy'n addysgu Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Swydd Stafford. Cafodd ei nofel gyntaf, The Half-life of Snails (ParthianBooks) ei chynnwys ar restr hir gwobr RSL Ondaatje 2023 am fod yn 'waith o fri sy'n dwyn i gof ysbryd lle,' cafodd ei chynnwys mewn podlediad rhyngwladol a'i chyfresu mewn papur newydd cenedlaethol.
Cyhoeddir ei ffuglen fer/ffeithiol arobryn yn rhyngwladol mewn cylchgronau llenyddol ac antholegau gwobrau, ac fel llyfrynnau gyda Nightjar Press (2018) a Broken Sleep Books (2023).
Mae'n cyd-guradu'r prosiect ysgrifennu byd-eang, 100 Words of Solitude, a chyd-olygodd 100 Words of Solitude: Global Voices in Lockdown 2020 (Rare Swan Press).
Mewn partneriaeth â Cover to Cover
*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Iau 25 Mai 2023 - 'Salt': Awdur Catrin Kean yn sgwrsio ag Alan Bilton
19:00-20:00 - Tabernacl y Mwmbwls, Heol Newton, Y Mwmbwls, SA3 4AR
Mae Catrin Kean wedi cael ei straeon byrion wedi'u cyhoeddi gan Riptide Journal, Bridge House Publishing a The Ghastling. Enillodd ei nofel gyntaf, Salt, Lyfr y Flwyddyn yng Nghymru yn 2021 ac mae wrthi'n gweithio ar ei hail nofel a fydd yn cael ei chyhoeddi yn 2024. Mae hi hefyd yn gweithio ar sgript ffilm a chasgliad o straeon arswyd byrion. Mae Kean yn byw yng Nghwm Garw gyda'i phartner a'u tri helgi Rhodesaidd.
Mae Salt yn seiliedig ar fywydau hen daid a hen nain Kean, a briododd ym 1878. Dyma ei stori gariad hwy.
Mae Caerdydd ar ddiwedd y 1800au yn lle budr, poblog a llwyd ac mae Ellen, gweithiwr domestig, yn breuddwydio am ddianc o'i bywyd diflas yno am y môr.Pan fydd yn cwympo mewn cariad â Samuel, cogydd ar long o Barbados, mae hi'n gallu gwireddu ei ffantasi drwy redeg i ffwrdd gydag ef ar long.Mae bywyd ar y môr yn anodd a pheryglus, ond mae'n lle y gallant fod yn rhydd... nes bod amgylchiadau'n gorfodi Ellen i ddychwelyd adref, ac mae caledi bywyd dosbarth gweithiol a hiliaeth yn dechrau gwenwyno eu bywydau.
Mewn partneriaeth â Cover to Cover
Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Wener 19 Mai 2023 - 'The Turning Tide & All the Wide Border': Jon Gower a Mike Parker mewn sgwrs
Tabernacl y Mwmbwls, Heol Newton, Y Mwmbwls, SA3 4AR
Cyn ohebydd celfyddydau a chyfryngau BBC Cymru, Jon Gower a hunan-gyfaddefiad sy'n gaeth i fapiau ac ambell gomig stand-yp Mike Parker yn sgwrsio.
Jon Gower yn gyn-ohebydd y celfyddydau a'r cyfryngau BBC Wales sydd wedi ysgrifennu dros 40 o lyfrau. Mae'r rhain yn cynnwys The Story of Wales, y darlledwyd cyfres deledu flaenllaw i gyd-fynd ag ef, y llyfr teithio, An Island Called Smith ac Y Storïwr a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru.
Ei lyfr diweddaraf yw The Turning Tide: A Biography of the Irish Sea, sy'n eich trochi yn hanes hyd tyngedfennol o ddŵr.
Disgrifiad Roddy Doyle oedd: ‘fascinating, spellbinding, erudite and great fun,’ Mae The Turning Tide yn emyn i fordaith o bwys hanesyddol byd-eang. Yn ôl y nofelydd Cynan Jones, mae'r llyfr yn ‘Contagious with delight and fascination. The seeming informality, the twinkle-in-the-eye in the telling, the gentle provocation make it a joy to read. Jon's perhaps brought into being a new class of book, for it's nothing if not a “Racontography.”’
Ac yntau'n cyfaddef ei fod yn ffan enfawr o fapiau ac yn ddigrifwr stand-yp achlysurol, mae Mike Parker yn ysgrifennu llyfrau ffeithiol naratif megis The Wild Rover a Real Powys sydd wedi'u hysbrydoli gan ymdeimlad dwfn o le. Roedd ei lyfr a gyhoeddwyd yn 2009, Map Addict yn llwyddiant ysgubol ac enillodd On the Red Hill, a gyhoeddwyd yn 2019, y categori llyfr ffeithiol yn Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru 2020.
Mae ei lyfr diweddaraf, All the Wide Border, yn fyfyrdod digrif, cynnes ac amserol am hunaniaeth a pherthyn, gan ddilyn y llwybr ar hyd y ffin rhwng Lloegr a Chymru â'i olygfeydd prydferth: ffawtlin dyfnaf Prydain
Mae All the Wide Border yn daith bersonol drwy leoedd ac ymhlith pobl y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac ar draws y pethau sy'n ein gwahanu. Mae'r rhanbarth hwn, sy'n cynnwys rhai o'n tirweddau mwyaf hyfryd a'n cyfrinachau mwyaf tywyll, yn llawn rhyfeddodau a diddordeb.
Dyma ymateb yr awdur John Sam Jones wrth ei ddarllen: “...was often overcome by 'fierce wonder'; there’s geography and topography enough to orientate and surprise; there’s history enough to fascinate but not to fog the senses; there are anecdotes that brought belly laughs and tears. Fine writing indeed.”
Mewn partneriaeth â Cover to Cover
Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Nos Fawrth 2 Mai 2023 - 'Birdsplaining': Jasmine Donahaye mewn sgwrs â Kirsti Bohata
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP
Yn Birdsplaining: A Natural History, mae Jasmine Donahaye, enillydd yng Ngwobrau New Welsh Writing 2021, yn ceisio teimlo'n ‘hynod fyw’, gan ddeall pethau ar ei thelerau ei hun a dadwneud hen wersi am sut i ymddwyn. Yma, mae'n wynebu o'r diwedd: ofn trais a bradychiad y corff, ac yn mentro o'r diwedd i gael pethau'n anghywir. Gan grwydro ar draws Cymru, yr Alban a Chaliffornia, mae'n canolbwyntio heb ymddiheuro ar naws unigryw profiad menywod o natur a'r cyfyngiadau a osodir arno. Weithiau'n bigog, bob amser yn foesegol, mae Birdsplaining yn gwrthdroi ffyrdd cyfarwydd o weld byd natur.“Ffres, modern, fforensig” – Gwyneth Lewis
Am yr awdur
Mae gwaith Jasmine Donahaye wedi ymddangos yn y New York Times a The Guardian, a chafodd ei rhaglen ddogfen, Statue No 1, ei darlledu ar BBC Radio 4. Mae ei llyfrau'n cynnwys yr hunangofiant, Losing Israel (2015), enillydd y categori ffeithiol yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn; bywgraffiad o'r awdur Lily Tobias, The Greatest Need (2015), sail i O Ystalyfera i Israel, a ddarlledwyd gan S4C; yr astudiaeth ddiwylliannol Whose People? Wales, Israel, Palestine (2012), a dau gasgliad o farddoniaeth: Misappropriations (2006) a Self-Portrait as Ruth (2009). Mae hi'n Athro rhan-amser Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Enillodd Jasmine Wobr New Welsh Writing yn 2021 gyda detholiad o Birdsplaining.
COFRESTRWCH YMA
Nos Fawrth 25 Ebrill 2023 - 'The Halfways': Nilopar Uddin mewn sgwrs â Kamand Kojouri
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP
Fel rhan o Gyfres Salonau Llenyddol, bydd Nilopar Uddin yn sgwrsio â Dr. Kamand Kojouri.
Crynodeb o Lyfr
Mae The Halfways yn ddrama deulu epig sy'n rhychwantu dros bedwar degawd, gan symud rhwng Llundain, Cymru, Efrog Newydd a Bangladesh. Dyma stori mamau a merched, tadau a merched, chwiorydd, gan archwilio perthyn, teulu a'r hyn sy'n gwneud maddeuant ac achubiaeth yn bosib.
Mae Nasrin a Sabrina yn ddwy chwaer sydd ar yr wyneb yn byw bywydau yn Llundain ac Efrog Newydd. Ar ôl i’w tad, Shamsur, farw'n sydyn, maent yn rhuthro i fod yn gwmni i'w mam yng nghartref a bwyty'r teulu yng Nghymru, ac yn dychwelyd yn gyndyn i fyd llethol eu plentyndod. Pan ddarllenir ewyllys Shamsur, datgelir cyfrinach ddinistriol sy'n herio popeth roedd pobl yn ei gredu a'i garu amdano. Yn ogystal, mae'n newid bywydau'r chwiorydd yn ddwfn, ac yn creu rhwyg diwrthdro yn y teulu ...
Am yr awdwr:
Ganwyd Nilopar Uddin yn Swydd Amwythig i rieni o Fangladesh a oedd, fel y teulu ffuglennol yn The Halfways, yn berchen ar fwyty Indiaidd yng Nghymru ac yn ei gynnal. Mae wedi cael gyrfa lwyddiannus fel cyfreithiwr ym maes gwasanaethau ariannol yn Llundain ac Efrog Newydd ac mae'n un o ymddiriedolwyr iProbono, elusen sydd â chenhadaeth i alluogi pobl i arfer eu hawliau wrth geisio sicrhau cymdeithas deg. Mae gan Nilopar MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol y Ddinas (City University) lle dechreuodd weithio ar The Halfways. Mae ei straeon byrion wedi cael eu cyhoeddi mewn antholegau amrywiol, gan gynnwys Jamal’s Pen, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Stori Fer The Asian Writer. Mae'n byw yn Llundain gyda'i gŵr a'i dwy ferch.
Plîs nodwch fod: Cynhelir y digwyddiad yn Saesneg.
COFRESTRWCH YMA
Nos Iau 30 Fawrth 2023 - 'The Silence Project': Carole Hailey mewn sgwrs â Alan Bilton
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP
Fel rhan o Gyfres Salonau Llenyddol, bydd Carole Hailey yn sgwrsio â Alan Bilton, awdur ac Uwch-ddarlithydd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
Crynodeb o Lyfr
DEWIS CLWB LLYFRAU BBC RADIO 2
'Engrossing and original, political and unpredictable, bydd The Silence Project yn gwneud i bobl siarad' - Bernardine Evaristo
Anghenfil. Merthyr. Mam.
Ar ben-blwydd Emilia Morris yn dair ar ddeg oed, mae ei mam yn symud i babell ar waelod yr ardd. O'r diwrnod hwnnw, nid yw hi byth yn dweud gair arall. Wedi'i hysbrydoli gan ei llw o dawelwch, mae menywod eraill yn ymuno â hi a chyda'i gilydd maen nhw'n adeiladu cymuned. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae Rachel a miloedd o'i dilynwyr ledled y byd yn llosgi eu hunain i farwolaeth.
Yn sgìl yr hyn a elwir yn 'y Digwyddiad/The Event', mae dylanwad byd-eang y Gymuned yn tyfu'n gyflym. O ganlyniad, mae gan y byd cyfan farn am Rachel - p'un ai eu bod yn ei gweld hi fel anghenfil croengaled neu ferthyr arwrol - ond nid yw Emilia erioed wedi lleisio ei barn hi'n gyhoeddus. Tan yn awr.
Pan fydd hi'n cyhoeddi ei chyfrif hi o fywyd ei mam mewn cofiant o'r enw The Silence Project, mae Emilia hefyd yn penderfynu datgelu pa mor sinistr y mae'r Gymuned wedi datblygu. Yn y broses, mae hi’n camu o gysgod Rachel unwaith ac am byth, fel y gellir clywed ei llais ei hun o'r diwedd.
Am yr awdwr:
Cwblhaodd Carole Hailey MA mewn Ysgrifennu Creadigol ac Ysgrifennu Bywyd yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain, a PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe cyn cael ei dethol gan Lyfrgell Llundain yn Awdur Datblygol 2020/21.Dewiswyd The Silent Project ar gyfer Clwb Llyfrau Radio 2 a gyflwynir gan Zoe Ball ar ei sioe amser brecwast ac ar BBC Sounds. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023 gan Corvus, sy'n enw masnachol gan Atlantic Books, ac mae'n Brif Nofel Gyntaf 2023 iddynt.Mae The Silence Project wedi ennill lle ar restr fer Gwobr Bridport am Nofel Gyntaf.
COFRESTRWCH YMA
Nos Lun 20 Mawrth 2023 - 'Border Memories': Edward Matthews mewn sgwrs â Alan Bilton
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP
Fel rhan o Gyfres Salonau Llenyddol, bydd Edward Matthews yn sgwrsio â Alan Bilton, awdur ac Uwch-ddarlithydd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
Crynodeb o Lyfr
Pam byw un bywyd pan allech chi fyw mil?
Mae Sol Andrews yn gweithio i gwmni newydd yn San Diego sy'n gweithio yn y fasnach atgofion danddaearol - sy'n cynaeafu atgofion gan roddwyr ym Mecsico ac yn eu mewnblannu mewn Americanwyr. Etifeddodd y swydd gan ei frawd, y mae ei hunanladdiad diweddar wedi gadael gwagle enfawr yn ei fywyd.
Client newydd Sol yw Mr Bray—hen, cyfoethog, digon o gysylltiadau, dall. Mae Mr Bray wedi clywed sïon am fynwent ddirgel yn Tijuana lle digwydd gwyrthiau, rhywle a allai adfer ei olwg. Mae wedi dod i wybod am lyfrgellydd ifanc sy'n adnabod y fynwent - Nora Rincón - ond mae ei lleoliad wedi'i gladdu mewn atgof plentyndod.
Mae tasg Sol yn un syml - dod o hyd i Nora, meithrin perthynas, echdynnu ei chof. Ei wobr: $100,000. Serch hynny, pan fydd Sol yn dechrau dod yn gyfaill i Nora, mae'n darganfod bod ganddi hi’r holl rinweddau nad oes ganddo ef - doniol, optimistaidd, deniadol - mae'n cael ei ddenu ati. Mae hi'n ei helpu i brosesu ei alar a'i ailgyflwyno i fywyd eto. Ond wrth iddynt agosáu, mae Sol yn dechrau deall pwy yw Mr Bray a'r hyn y mae'n gallu ei wneud - ac mae'n gwybod ei bod hi'n rhy hwyr i dynnu'n ôl o'u cytundeb...
Am yr awdwr:
Awdur yn San Diego, Califfornia yw Edward Matthews. Enillodd ei PhD mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe yn 2020. Mae wedi darllen a chyhoeddi'n helaeth ar y pwnc ailddychmygu lle ar hyd ffiniau UDA/Mecsico. Border Memories yw ei nofel gyntaf.
COFRESTRWCH YMA
Nos Iau 9 o Fawrth 2023 - 'Strange Animals': Emily Vanderploeg mewn sgwrs â Alan Bilton
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP
‘Reading Strange Animals feels a bit like rummaging around in someone's well-travelled backpack full of old photographs, seashells, tarot, and countless precious found objects collected for "the passing of knowledge”. A brilliant new voice.’ – Roberto Pastore, Hey Bert (Parthian Books, 2019)
Am yr awdur
Yn Strange Animals, mae Emily Vanderploeg, sydd o Ganada ac yn wyres mewnfudwyr o'r Iseldiroedd a Hwngari, yn archwilio materion iaith, defod, marwolaeth a hunaniaeth. Wedi iddi astudio Saesneg a Hanes Celf ym Mhrifysgol y Frenhines ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe (MA, PhD), mae hi bellach yn addysgu ysgrifennu creadigol i blant ac oedolion. Enwyd Emily yn Awdur wrth ei Waith yng Ngŵyl y Gelli (2018 a 2019) a derbyniodd Wobr Bwrsariaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru 2019 am ddarn o'i nofel a oedd newydd ei chwblhau. Enillodd ei phamffled, Loose Jewels, Gystadleuaeth Pamffledi Cinnamon Press a chafodd ei gyhoeddi yn 2020. Cyhoeddwyd 'Strange Animals' gan Parthian yn 2022 ac mae'n olrhain taith yr awdur o gartref ei phlentyndod i ymgartrefu ar ochr arall y cefnfor, gan symud trwy droeon cariad modern wrth iddi deithio i ddinasoedd newydd ac aeddfedrwydd newydd. Yn enedigol o Aurora, Ontario, mae hi bellach yn byw yn Abertawe.
COFRESTRWCH YMA
Nos Iau 16 Chwefror 2023 - 'The Library Suicides': Fflur Dafydd mewn sgwrs â Alan Bilton
Eglwys URC Tabernacl, Heol Newton, Y Mwmbwls, SA3 4AR
Mae’r gefeilliaid Ana a Nan ar goll ar ôl marwolaeth eu mam, awdur enwog a laddodd ei hun, yn ôl pob golwg, drwy neidio allan o ffenestr. Mae pawb yn gwybod pwy wthiodd Elena i ladd ei hun – ei beirniad llenyddol ers amser maith, Eben. Ond mae angen prawf ar y gefeilliaid os ydynt yn mynd i ddial.
Pan fydd Eben, sy’n daer am brofi nad yw ar fai, yn gofyn am gael gweld dyddiaduron Elena yn y Llyfrgell Genedlaethol lle mae'r gefeilliaid yn gweithio, gwelant gyfle. Drwy gynllunio gofalus ac ychydig o gymorth o'r tu allan, mae'r gefeilliaid yn cloi'r adeilad sydd fel labyrinth, gan gadw eu cydweithwyr, y cyhoedd ac, yn bwysicaf oll, Eben y tu mewn. Ond wrth i ddyn diogelwch ddechrau sbwylio’r cynllun a rhyddhau gwystlon, mae Ana, Nan ac Eben yn cael eu gwthio i'r dibyn. Ac mae'r hyn a ddechreuodd fel dial syml yn troi’n ymddatodiad cymhleth o deyrngarwch, cymhelliad a'r hyn sy'n ein gwneud ni y bobl rydym ni.
Wedi'i ysgrifennu'n hiraethus, gyda llais ffres, cyfareddol, mae The Library Suicides yn llyfr hynod gofiadwy a phryfoclyd i'r rhai sy'n dwlu ar nofelau cyffrous sy'n torri tir newydd, a llyfrau am lyfrau a chysyniad y gair ysgrifenedig.
Am yr awdur
Mae Fflur Dafydd yn nofelydd arobryn, yn ysgrifennwr sgriptiau ffilm ac yn gerddor, sy'n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae wedi cyhoeddi chwe nofel, un casgliad o straeon byrion ac wedi creu tua 50 awr o ddrama oriau brig i S4C a BBC iPlayer. Ysgrifennodd a chyd-gynhyrchodd y ffilm Y Llyfrgell/The Library Suicides, (BBC Films) yn seiliedig ar ei nofel, a enillodd nifer o wobrau yng ngwobrau BAFTA Cymru a Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin. Mae wedi cael ei henwebu ddwywaith am BAFTA Cymru ar gyfer yr ysgrifennwr sgriptiau ffilm gorau; ac mae ei gwobrau ffuglen yn cynnwys y Fedal Rhyddiaith (2006), Gwobr Goffa Daniel Owen (2009), Gwobr Awdur Newydd Gŵyl y Gelli Oxfam (2009), a Gwobr Big Read Cymru (2010). Enillodd hefyd Artist Benywaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau BBC Radio Cymru yn 2010. Graddiodd o raglen MA mewn Ysgrifennu Creadigol UEA, mae ganddi PhD o Brifysgol Bangor ar farddoniaeth R S Thomas, ac fe'i dewiswyd hefyd fel y cyfranogwr cyntaf o Gymru i gymryd rhan yn Rhaglen Ysgrifennu Rhyngwladol fyd-enwog Prifysgol Iowa. O 2006 i 2016, roedd hi'n ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
COFRESTRWCH YMA
Nos Iau 26 Ionawr 2023 - 'Slowing the Metabolism of Language': Poetry as Spiritual Practice - Dr Rowan Williams mewn sgwrs â'r Athro M. Wynn Thomas.
Cyn Archesgob Caergaint ac ysgolhaig a adnabyddir yn rhyngwladol, Dr Rowan Williams yn sgwrsio â'r Athro M Wynn Thomas
Ganwyd Dr Rowan Williams yn Abertawe a chafodd ei addysgu yn Ysgol Dynevor cyn astudio Diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt ac ymchwilio i syniadaeth grefyddol Rwsia yn Rhydychen. Bu'n addysgu yn y ddwy brifysgol a chafodd ei benodi'n Esgob Trefynwy ym 1992. Ym 1999, fe'i hetholwyd yn Archesgob Cymru ac yn 2002 daeth yn Archesgob Caergaint. Ar ôl iddo ymddeol o'r rôl hon, bu'n Feistr Coleg Magdalen, Caergrawnt nes iddo ymddeol a symud i Gaerdydd yn 2020. Mae wedi ysgrifennu'n helaeth am ddiwinyddiaeth, llenyddiaeth a materion cyfoes. Cyhoeddwyd ei gyfrol, Collected Poems, yn 2021 ac mae wedi cyhoeddi antholeg o farddoniaeth grefyddol fodern yn ddiweddar, A Century of Poetry.
Mae'r Athro M. Wynn Thomas yn Gymrawd yr Academi Brydeinig, yn Is-lywydd Sefydlu Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn Gymrawd Er Anrhydedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac ef yw prif ysgolhaig Cymru ym maes Llenyddiaeth Saesneg Cymru.
Dydd Gwener 2 Rhagfyr 2022 - 'The Shadow Order': Rebecca F. John mewn sgwrs gyda Sarah Samuel
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP
The Shadow Order
'Flwyddyn ar ôl i’r cysgodion symud a dechrau dangos, nid siapiau pobl ond nhw eu hunain, mae’r ffrindiau gorau Teddy, Betsy ac Effie’n bwriadu mentro popeth a gwylio haul y gaeaf yn codi dros Copperwell, er gwaethaf y Shadow Order.
Ond o’u man gwylio cuddiedig, mae’r tri ffrind syfrdan yn gweld menyw ryfedd yn gweiddi rhybudd arswydus, cyn cael ei harestio, ei churo a’i llusgo i ffwrdd mewn gefynnau.
Mae’r digwyddiad hwn yn eu harwain at gyfres anhygoel o anturiaethau peryglus wrth iddynt ddarganfod mwy am yr helbul yn y byd naturiol o amgylch Copperwell, y frwydr i achub eu dinas a dechrau adnabod eu hunain o’r newydd.'
Am yr awdwr
Ganwyd Rebecca F. John ym 1986, a chafodd ei magu ym Mhwll, pentref bach ar arfordir de Cymru. Mae ganddi BA mewn Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe, yn ogystal â TAR/AHO gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae ei straeon byrion wedi cael eu darlledu ar BBC Radio 4 a BBC Radio 4Extra. Yn 2015, cafodd ei stori fer, The Glove Maker's Numbers ei chynnwys ar restr fer Gwobr Stori Fer The Sunday Times/EFG. Enillodd hi Wobr New Voices PEN International yn 2015.
Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, Clowns's Shoes, drwy Parthian yn 2015.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Haunting of Henry Twist, drwy Serpent's Tail ym mis Gorffennaf 2017. Cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Costa am y Nofel Gyntaf Orau.
Yn ddiweddar mae hi wedi cyhoeddi dau lyfr arall i oedolion - The Empty Greatcoat (Aderyn Press) a Fannie (Honno Press) - The Shadow Order (Firefly Press) yw ei llyfr plant cyntaf’.
COFRESTRWCH YMA
Nos Iau 1 Rhagfyr 2022 - 'Nettleblack': - Nat Reeve mewn sgwrs â Marie-Luise Kohlke
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP
“To be blunt: I must escape.”
1893. Mae Henry Nettlebank yn dianc o gartref i osgoi cynlluniau ei chwaer hŷn i gael priod i Henry o blith yr aristocratiaeth. Gyda £50 a ffured yn unig, mae hi'n cael ei thwyllo, ei lladrata, ac yna ei hachub gan sefydliad dirgel sy'n cael ei gynnal gan fenywod - yn rhannol asiantaeth dditectif ac yn rhannol cynllun gwarchod cymdogaeth - ac mae hi'n ymuno â nhw. Mae Nettleblack yn mynd â ni ar daith danseiliol a chwareus (sy’n cynnwys beiciau, cnofilod a chwaer dirywiaethol sy'n siarad Cymraeg )trwy'r peryglon a'r pleser o ganfod eich lle yn y byd gan herio rhywedd cwiar - yn enwedig trawsrwydd - fel ffenomen fodern wrth ystyried ymarferoldeb mynegi persbectifau cwiar wrth chwilio am eiriau.
Am yr awduron
Mae Nat Reeve yn nofelydd o Benrhyn Gŵyr, sydd ar hyn o bryd yn gorffen doethuriaeth mewn Celf, Llenyddiaeth a Rhywedd Cwiar Fictorianaidd, yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Ar wedd academaidd, mae’n ysgrifennu'n bennaf am Elizabeth Siddal yn achosi hafoc gyda gwrthrychau canoloesol, neu wyddau erchyll yn heidio i waith celf Cyn-raffaëlaidd. Maent hefyd yn achlysurol wedi golygu, perfformio mewn, a chyfarwyddo dramâu ac operâu Fictorianaidd er mawr syndod i'w cynulleidfaoedd. Cafodd eu nofel gyntaf Nettleblack ei chyhoeddi gan Cipher Press yn 2022, gyda'r ail nofel i ddilyn yn 2024.
Mae gwaith Nat ar Siddal i'w gael yn Word & Image (Cyfrol 38, 2022) a Pre-Raphaelite Sisters: ArtPoetry and Female Agency in Victorian Britain, golygwyr Glenda Youde a Robert Wilkes (i ddod). Nat oedd hefyd Amy P 2020/21. Cymrawd Cyn-raffaëlaidd Goldman ym Mhrifysgol Delaware ac Amgueddfa Gelf Delaware.
COFRESTRWCH YMA
Nos Iau 24 Tachwedd 2022 - 'Bob Dylan and Dylan Thomas: The Two Dylans' - Jeff Towns
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP
Crynondeb
‘Here’s to a full life, a heck of a life… a Dylan life!’
A hwythau'n cynrychioli'r Prif Feirdd Roc a Rôl Go Iawn, mae Bob Dylan a Dylan Thomas hefyd yn cynrychioli dwy ochr yr un geiniog. Bob Dylan gynhyrchodd y gerddoriaeth! Dylan Thomas fu'n byw'r bywyd! Bu'r ddau'n perffeithio'r grefft o gyfansoddi llenyddiaeth. Gan ddod â dau o'r ysgrifenwyr mwyaf blaenllaw ar y ddau artist ynghyd am y tro cyntaf, mae The Two Dylans yn mynd â ni ar lwybr llenyddol a llythrennol a ddilynwyd gan Bob Dylan a Dylan Thomas.
Mae cynifer o gysylltiadau a chyd-ddigwyddiadau rhyfedd a gwych; hoffterau cyffredin a chysylltiadau sy'n cysylltu'r ddau eicon diwylliannol Bob Dylan a Dylan Thomas â'i gilydd. Mae'n cynnig tapestri cyfoethog - o chwedlau gwerin hynafol y Mabinogi i gerddi Cenhedlaeth y Bitniciaid; o Stravinsky i John Cale; o Johnnie Ray i Charlie Chaplin. Rimbaud a Lorca, Sgt. Pepper’s a ‘The Bells of Rhymney’, Nelson Algren a Tennessee Williams a llawer mwy.
Ac mae'r cysylltiadau gwych rhwng yr awduron K G Miles a Jeff Towns yn creu partneriaeth wych i ysgrifennu'r llyfr hwn. Pum deg a dwy o flynyddoedd yn ôl, agorodd Jeff Towns ei siop lyfrau gyntaf yn Abertawe - gan enwi'r siop yn Dylans Bookshop - teyrnged fywiog i'r bardd Dylan Thomas a gafodd ei eni a'i fagu yn Abertawe. Wyth mlynedd cyn hynny, ym 1962, (pan nad oedd wedi clywed am Dylan Thomas hyd yn oed), prynodd LP cyntaf Bob Dylan o'r enw Bob Dylan a oedd yn cynnwys rhestr o ganeuon gan gynnwys y canlynol; In My Time of Dyin’, Fixin’ to Die, See That My Grave is Kept Clean ac ati; tair ar ddeg o ganeuon pwerus. Darllenodd Jeff fod ei arwr newydd wedi cael ei eni'n Robert Zimmerman ond ei fod wedi newid ei enw i BOB DYLAN i dalu teyrnged i'r bardd o Gymru, Dylan Thomas. O'r eiliad honno, daeth Y Ddau Dylan yn gefndir parhaus ym mywyd Jeff. A bu'r ddau Dylan yn parhau i roi - ar glawr albwm Sgt. Pepper y Beatles. Roedd Peter Blake, a ddyluniodd glawr Pepper, yn ffan mawr o ddrama radio Dylan Thomas, Under Milk Wood. Aeth Jeff i weld Peter, daethant yn ffrindiau ac maent yn ffrindiau o hyd. Rhoddodd Peter ei ganiatâd i ddefnyddio'i lun Tiny Tina gwych ar gyfer clawr y llyfr hwn.
Ysbrydolwyd y cyd-awdur K G Miles o Lundain gan Bob Dylan ers gweld Bob yn ei Ŵyl ar Ynys Wyth ym 1969. Bellach ef yw cyd-guradur Ystafell Dylan yng Nghlwb Troubadour yn Llundain a chafodd y pleser o siarad yn nghynhadledd agoriadol Archif Tulsa yn 2019.
‘…why, you can’t swing a cat without hitting a Dylan… male and female, such are the influences of these two cultural giants. Why did Dylan choose Dylan as his name, where do the worlds of these colossal culture vultures and wordsmiths collide? Some of the answers are found in the pages of this book and a lot more besides. I hope you enjoy the trip as much as I do.’ O'r Rhagair gan Cerys Matthews
Am yr awduron
Jeff Towns yw un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ar Dylan Thomas. Mae'n siaradwr, yn wneuthurwr rhaglenni dogfen, yn sylwebydd yn y cyfryngau, ac mae'n gweithio fel gwerthwr hen lyfrau yn nhref gartref y bardd yn Abertawe. Yn wreiddiol, adwaenid Jeff yn lleol ac yn fyd-eang dan yr enw Jeff the Books. Bellach fe'i hadwaenir yn annwyl ac yn broffesiynol fel The Dylan Thomas Guy. www.dylans.com
Mae'r cyd-awdur K G Miles yn awdurdod blaenllaw ar Bob Dylan ac yn gyd-guradur yn Ystafell Dylan yng Nghlwb Troubadour yn Llundain. Trwy ysgrifennu, podlediadau a theithiau Dylan, mae K G Miles yn gallu rhannu ei wybodaeth a'i brofiad o Bob Dylan â'r rhai sy'n dwlu ar gerddoriaeth ym mhedwar ban byd.
Twitter: @barberville
COFRESTRWCH YMA
19 Hydref 2022 - 'Connective Tissue': Jane Fraser mewn sgwrs â Alan Bilton
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP
Fel rhan o Gyfres Salonau Llenyddol, bydd Jane Fraser yn sgwrsio â Alan Bilton, awdur ac Uwch-ddarlithydd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
Crynodeb o Lyfr
Mae'r casgliad hwn o ffuglen fer yn ceisio diffinio'r anniffiniol a rhoi llais i'r rhai sy'n ymaflyd wrth geisio gwneud synnwyr o'r hyn y mae bywyd yn ei daflu atynt. Mae rhai hynny sy'n teithio mewn cylch parhaus ar system danddaearol Llundain ac eraill yn dawnsio gyda'r hwyr gyda'r ymadawedig. Mae menyw yn wynebu ei hun mewn drych ystafell wely ar ôl degawdau o wadu ac mae gweddw'n canfod cysur mewn ystafell ymgynghori osteopath. Ac yna ceir creadur rhyfedd sy'n syrthio i'r ddaear; breuddwydion a rhyfeddodau; brain a llên gwerin, a llawer mwy.
Mae'r straeon hyn yn drasig ac yn drasig gydag elfen ddigri, ac maent oll yn datgelu cryfder a chymhlethdod yr ysbryd dynol. Maent yn taflu goleuni ar alar, colled a hiraeth a dyfnder a hynodrwydd yr enaid dynol a sut rydym yn goroesi ac o’r braidd yn ymdopi.
Am yr awdwr
Mae Jane Fraser yn byw, yn gweithio ac yn ysgrifennu ffuglen mewn tŷ sy'n wynebu'r môr ym mhentref Llangynnydd, ar Benrhyn Gŵyr, de Cymru. Yn 2017, cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Ffuglen Manceinion ac yn 2018 enillodd Wobr Fish am hunangofiant ac fe'i dewiswyd yn Ysgrifennwr wrth ei Waith Gŵyl y Gelli. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o ffuglen fer, The South Westerlies, gan SALT, gwasg annibynnol yn y DU, yn 2019. Yn 2022, cafodd ei chomisiynu gan BBC Radio 4 am y tro cyntaf i ysgrifennu stori fer a ddarlledwyd fel rhan o'r gyfres Short Works. Yn 2022, derbyniodd Wobr Goffa Paul Torday am ei nofel gyntaf, Advent, a gyhoeddwyd gan wasg menywod Cymru, HONNO, yn 2021. Mae ganddi PhD mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe, mae'n wraig i Philip ac yn gyd-gyfarwyddwr NB:Design, busnes y maent yn ei rannu, ac yn bwysicach, yn fam-gu i Megan, Florence ac Alice. Mae'n gredwr cryf bod amser iawn i wneud pethau mewn bywyd, yn hytrach nag oedran cywir. Mae hi wrth ei bodd bod SALT wedi ail-fuddsoddi ynddi am ei hail gasgliad o straeon byrion, Connective Tissue, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Hydref 2022.
17 Mehefin 2022 - 'All That's Lost': Ray Cluley yn sgwrsio â Dr Alan Bilton
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe SA2 8PP
*Sylwch mai digwyddiad personol yw hwn*
Ray Cluley yn sgwrsio â Dr Alan Bilton, awdur ac Uwch-ddarlithydd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
"Mae yna fwlch bach iawn rhwng y straeon rydym yn eu hadrodd i’n hunain a’r straeon rydym yn eu hadrodd i bobl eraill a dyna lle cewch chi’r gwir."
All That's Lost yw’r ail gasgliad gan yr awdur arswyd arobryn Ray Cluley, gan ddod ag 17 o straeon ynghyd i archwilio pethau sy’n llawn ysbrydion, sy’n rhyfedd ac sy’n annaearol.
Ymgollwch yn y tywyllwch yma, a byddwch wedi’ch newid...
"Does dim amheuaeth mai dyma’r deunydd gorau ym maes arswyd " (Stephen Volk)
Mae gwaith Ray Cluley wedi ymddangos mewn cylchgronau ac antholegau amrywiol ac mae wedi cael ei ailargraffu sawl gwaith, gan gynnwys yng nghyfres Ellen Datlow, Best Horror of the Year, Wilde Stories: The Year’s Best Gay Speculative Fiction gan Steve Berman, ac yng nghyfres Benoît Domis, Ténèbres. Mae ei waith wedi cael ei gyfieithu i Ffrangeg, Pwyleg, Hwngareg, Eidaleg a Tsieinëeg. Enillodd Wobr Ffantasi Prydain am y Stori Fer Orau (‘Shark! Shark!’) ac mae ef wedi cael ei enwebu ers hynny am y Nofel Fer Orau (Water For Drowning) a’r Casgliad Gorau (Probably Monsters). Bydd ei ail gasgliad, All That’s Lost, ar gael ym mis Mai 2022.
9 Mehefin 2022 - 'Some Sort of Twilight': Carolyn Lewis yn sgwrsio â'r Alan Bilton
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe SA2 8PP
Sut mae'n teimlo i fyw ar ymyl eich bywyd eich hun? Mae Cassie yn darganfod ei bod yn gallu hedfan ond does ganddi neb i ddweud wrtho am hyn. Mae Christine wedi bod yng nghysgod ei ffrind yn rhy hir, mae Bernard yn colli ei swydd er nad oes unrhyw fai arno ef ac, yn y stori sydd â'r un teitl â'r casgliad, mae Hannah yn brwydro â'r pwysau o wybod bod ei thad yn aros iddi hi roi trefn ar ei fywyd ef.
Gan amrywio o brofiadau pobl ifanc yn eu harddegau yn y 1960au i fenyw hŷn yn edrych yn ôl ar ei bywyd ac yn myfyrio ar y cyfleoedd wnaeth hi ddim achub arnynt, mae'r casgliad ingol iawn hwn o straeon byrion yn cyflwyno cast cyfoethog o gymeriadau sy'n teimlo nad ydynt byth yn perthyn yn llwyr, sydd ar y tu allan yn edrych i mewn wrth i'w bywydau ymddatod mewn ffyrdd cynnil o'u cwmpas. Gan gyfuno pathos, hiwmor a doethineb, mae'r 12 stori hyn yn archwilio sut gall y cyffredin fod yn rhyfedd, y beunyddiol yn dorcalonnus a'r trasig yn ddigrif.
Am y Awdur
Ganwyd Carolyn yng Nghaerdydd ac mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn antholegau blaenorol Honno. Cafodd ei nofel gyntaf, Missing Nancy, ei chyhoeddi gan Accent Press yn 2008. Enillodd ei MPhil mewn Ysgrifennu ym Mhrifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru bellach). Mae ei straeon wedi ennill gwobrau cenedlaethol a lleol ac wedi cael eu cyhoeddi yn The New Welsh Review, Mslexia a Route Magazine ymysg eraill. Mae hi wedi gweithio fel tiwtor ysgrifennu creadigol am flynyddoedd maith a chyhoeddwyd dau lyfr testun yn seiliedig ar ei dulliau addysgu. Ar hyn o bryd, mae hi'n ysgrifennu nofel newydd er mwyn ennill ei PhD ym Mhrifysgol Abertawe.
Dydd Iau 26 Mai 2022 - 'Land of Change: Stories of Struggle & Solidarity from Wales'
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe SA2 8PP
Fel rhan o'r gyfres Salon Llenyddol, mae'r Sefydliad Diwylliannol a Culture Matters yn eich gwahodd i lansiad Land of Change: Stories of Struggle and Solidarity from Wales. Wedi'i golygu gan Gemma June Howell, mae Land of Change yn antholeg liwgar o waith celf beiddgar a ffotograffiaeth ddogfennol, yn ogystal ag ysgrifennu creadigol, areithiau, newyddiaduraeth a hunangofiant, treiddiol, goleuol a theimladwy. Mae'n dathlu'r casgliad amrywiol o leisiau pobl sydd wedi'u tangynrychioli ac o gefndiroedd dosbarth gweithiol yng Nghymru.
Mae aelodau'r panel yn cynnwys cyfranwyr at yr antholeg, Kate Cleaver, Rhoda Thomas a Rhys Trimble, Gemma June Howell, Golygydd Cysylltiol yn Culture Matters a Daniel G. Williams, Athro Llenyddiaeth Saesneg a cyd-gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Kate Cleaver yn awdur Eingl-Indiaidd sy'n astudio am PhD ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi'n ymchwilio i fywydau pobl gyffredin a gafodd eu carcharu yng Ngwallgofdy Llansawel, Vernon House. Mae hi'n creu straeon ac wedi canfod bod cysylltu ei straeon â ffeithiau hanesyddol yn ffordd o adfywio pobl o'r gorffennol. Yn 2019 cafodd ei chynnwys ar restr hir Gwobrau New Welsh Writers ac mae Parthian wedi cyhoeddi hunangofiant ganddi, Just So You Know a chafodd un arall ei gyhoeddi, Painting the Beauty Queens Orange: Women's Lives in the 1970s gan Wasg Honno, 2021.
Mae gan Rhys Trimble, sy'n niwroamrywiol ac yn ddwyieithog, amrywiaeth o rolau: bardd, athro, cyfieithydd, perfformiwr, beirniad, cerddor, artist sain, artist gweledol, pastynwr, artist perfformio, cyhoeddwr, golygydd ac ymgyrchydd, a rhoddodd araith yng ngwrthdystiad 'ban the bill' ym Mangor. Cafodd ei eni yn Sambia a'i fagu yn ne Cymru, bellach mae'n byw yng ngogledd Cymru ac mae'n awdur dros 20 llyfr.
Rhoda Thomas: Un o Lundain yn wreiddiol, mae Rhoda'n byw yng Nghymru ers 40 o flynyddoedd, gan gyfrannu at hyfforddiant gweithwyr cymdeithasol, cwnselwyr a meddygon a hithau'n seicolegydd ac yn gymdeithasegydd. Mae hi wedi cyflawni sawl rôl mewn undebau myfyrwyr ac undebau llafur. Ar y cyd â Tim Evans, mae hi'n trefnu Gŵyl Flynyddol Coffáu Streic Rheilffordd Llanelli 1911. Mae hi'n un o aelodau sefydlu'r Live Poets Society, sy'n dod â beirdd o bob rhan o dde Cymru ynghyd ar gyfer gweithdai a digwyddiadau meic agored. Mae hi'n aelod o Blaid y Gweithwyr Sosialaidd, gan roi sgyrsiau ac ysgrifennu am bynciau megis bywydau chwyldrowyr benywaidd a'r niwed i'n hiechyd o'r diwydiant bwyd. Mae hi'n darllen yn rheolaidd mewn grwpiau a digwyddiadau barddoniaeth. Hi yw awdur 'Survive and grow in difficult times' a gellir darllen ei barddoniaeth mewn antholegau diweddar, yn Red Poets ac yn ei chasgliadau barddoniaeth. Yn y darn hwn o ryddiaith, mae hi'n ysgrifennu am yr heriau mae hi wedi'u hwynebu yn ei bywyd fel menyw o'r dosbarth gweithiol a gwerth solidariaeth.
Mae Gemma June Howell (Golygydd) yn ymgyrchydd ar lawr gwlad, yn ysgrifennwr, yn diwtor, yn academydd ac yn Olygydd Cysylltiol ar gyfer Culture Matters. Mae hi hefyd yn ysgrifennu'n rheolaidd ar gyfer Nation Cymru. Mae hi'n gyd-sefydlydd y CSOS ac yn un o drefnwyr y Sister March (Caerdydd 2017). Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Onward/Ymlaen! ac mae hi'n perfformio gyda'r Red Poets yng ngŵyl flynyddol Merthyr Rising. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi gan Bloodaxe Books (2015), yn The London Magazine (2020) ac ar y rhaglen Tongue & Talk, (a gynhyrchwyd ym Manceiion ar gyfer BBC Radio 4 yn 2021).Yn ddiweddar, mae Gemma wedi cyflwyno ei PhD: prosiect rhyddfreiniol sy'n archwilio trawma torfol a goresgyn. Teitl y prosiect yw Concrete Diamonds, sef nofel hybrid sy'n cynnwys chwedl eco-ffeministaidd a myth-grëol sy'n frith o farddoniaeth goncrid, arddull pync. Yn y bôn, teyrnged polyffonig ydyw i bobl dosbarth gweithiol sy'n byw ym Mhrydain ôl-ddiwydiannol. Mae'r gwaith yn portreadu bydoedd a bywydau pum cenhedlaeth ac yn rhychwantu amrywiaeth o arddulliau llenyddol: o lif ymwybod i bolemig, melodaidd a barddonol, realistig a di-flewyn-ar-dafod a digrifwch tywyll. Wedi'i thanategu gan ddamcaniaeth feirniadol, mae'r nofel hon yn taflu goleuni ar y ffactorau yn y gorffennol sydd wedi arwain at dlodi, gwahaniaethu, gormesu pobl ar yr ymylon a dangynrychiolir, a'u cyflyrau heddiw.
Mae Daniel G. Williams yn Athro Llenyddiaeth Saesneg ac yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe. Ef hefyd yw cyd-gyfarwyddwr CREW – y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru. Mae wedi golygu sawl llyfr ac ef yw awdur Ethnicity and Cultural Authority: From Arnold to Du Bois (2006), Black Skin, Blue Books: African Americans and Wales (2012) a Wales Unchained: Literature, Politics and Identity in the American Century (2015). Yn 2021 cyhoeddwyd golygiad newydd o’i gasgliad o ysgrifau gan Raymond Williams, Who Speaks for Wales? Ymddangosodd y gyfrol gyntaf yn 2003 ac mae’r argraffiad estynedig newydd yn nodi Canmlwyddiant geni Raymond Williams.
Nos Wener 20 Mai 2022 - 'Cymru, Cynefin a Chanonau: Sut Mae Llenyddiaethau'n Llunio ein Byd'
*Digwyddiad Ar-lein*
Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod chwaethau llenyddol Cymru - hyd yn oed yn Saesneg - yn wahanol i rai gweddill y DU. Sut mae darllenwyr Cymreig yn gweld y byd yn wahanol? Pa rolau sydd gan gymunedau darllen ac ysgrifennu lleol yn hyn?
Fel rhan o brosiect y Big Book Review a ariennir gan yr AHRC, ymunwch â'r awduron Cynan Jones a Manon Steffan Ros yn sgwrsio â'r Athro Kirsti Bohata a Dr Richard Robinson (Prifysgol Abertawe) a Dr Aidan Byrne (Prifysgol Wolverhampton) wrth iddynt drafod y berthynas rhwng stori a lle, pwysigrwydd ysgrifennu Cymraeg a Chymreig a hunaniaeth lenyddol Gymraeg a Chymreig.
Bydd Aidan hefyd yn datgelu canfyddiadau am arferion darllen yng Nghymru a awgrymir gan ein gwaith gyda rhestr y BBC o'r nofelau a luniodd ein byd, ac yn eich gwahodd chi i gymryd rhan yn ein hymchwil drwy ddweud wrthym beth yw hanfodion llyfr gwirioneddol dda.
Mae Cynan Jones yn ysgrifennwr ffuglen nodedig o Gymru. Mae ei waith wedi'i gyhoeddi mewn dros 20 gwlad, mewn cyfnodolion a chylchgronau, gan gynnwys Granta a The New Yorker. Mae wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr genedlaethol y BBC am stori fer a Gwobr Jerwood am ffuglen, ac mae hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer y teledu a'r radio.
Manon Steffan Ros is an author and scriptwriter. She has written more than 40 books and has been awarded prizes including Wales Book of the Year and the Tir Na N’Og prize for children’s literature. Her novel, Llyfr Glas Nebo, has been translated into eight languages. She lives in Meirionnydd with her sons.
Mae'r Athro Kirsti Bohata yn ysgolhaig blaenllaw ym maes Llenyddiaeth Saesneg Cymru, ac mae hi wedi cyhoeddi ar ddamcaniaeth ôl-drefedigaethol, llenyddiaeth cwiar, astudiaethau anabledd a daearyddiaeth lenyddol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg tan y presennol. Ei llyfrau diweddaraf yw Queer Square Mile, sef antholeg o straeon byrion cwiar o Gymru (Parthian, 2022) a Disability in Industrial Britain (Manchester University Press, 2020) sy'n gyhoeddiad mynediad agored llawn. Hi yw Cyd-gyfarwyddwr CREW (Y Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru) ym Mhrifysgol Abertawe a Chanolfan Ryngddisgyblaethol Richard Burton ar gyfer Astudio Cymru ym Mhrifysgol Abertawe ac mae hi'n gyd-Gadeirydd Cymdeithas Llên Saesneg Cymru.
Mae Dr Richard Robinson yn Athro Cyswllt yn yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Mae’n gweithio ym maes llenyddiaeth yr ugeinfed ganrif a llenyddiaeth gyfoes, gan ymddiddori’n benodol mewn moderniaeth a’i bywyd tragwyddol, dull, ysgrifennu Gwyddelig a chynrychioliadau llenyddol o ganolbarth Ewrop. Mae’n awdur dau fonograff, Narratives of the European Border: A History of Nowhere (Palgrave, 2007) a John McGahern and Modernism (Bloomsbury, 2017). Mae wedi cyhoeddi’n eang ar awduron fel John McGahern, Kazuo Ishiguro, James Joyce, Italo Svevo, Elena Ferrante, Rebecca West, Ian McEwan ac Edward St Aubyn.
Mae Dr Aidan Byrne yn uwch-ddarlithydd Llenyddiaethau Saesneg ym Mhrifysgol Wolverhampton. Mae ei feysydd ymchwil yn cynnwys llenyddiaethau Cymru, ffuglen gwleidyddion a diwylliant poblogaidd. Ar hyn o bryd mae'n gyd-ymchwilydd ar brosiect y dyniaethau digidol a ariennir gan yr AHRC am ganfyddiadau o'r nofel. Mae'r prosiect yn archwilio pryderon canonaidd, chwaethau llenyddol a syniadau poblogaidd am safon lenyddol. Mae'n ysgrifennydd Cymdeithas Llen Saesneg Cymru a gellir cysylltu ag ef yn @plashingvole.
Dydd Mawrth 17 Mai 2022 - 'Editing the Harlem Renaissance': Dr Rachel Farebrother yn cynnal sgwrs â Dr Miriam Thaggert
Yn y digwyddiad arbennig ar-lein hwn, bydd Dr Rachel Farebrother a Dr Miriam Thaggert yn trafod cyd-olygu A History of the Harlem Renaissance (Cambridge University Press, 2021) ac African American Literature in Transition, 1920-1930 (CUP, 2022).
Mae'r Cambridge History of the Harlem Renaissance yn cyflwyno ysgrifau newydd sy'n archwilio blodeuo digynsail mynegiant diwylliannol Affricanaidd Americanaidd yn y 1920au a'r 1930au sy'n cael ei adnabod erbyn hyn fel Adfywiad Harlem. Wrth roi sylw i amrywiaeth eang o genres a ffurfiau - o'r roman à clef a'r bildungsroman i ddawns a darluniadau llyfr - mae'r gyfrol hon yn ceisio, ar yr un pryd, rychwantu a dadansoddi eclectigiaeth mynegiant diwylliannol Adfywiad Harlem. Mae'n archwilio bron canrif o "astudiaethau Adfywiad Harlem" ac yn ystyried beth mae'r dyfodol yn ei argoeli ar gyfer astudio'r "Negro Newydd”.
Mae African American Literature in Transition, 1920-1930 yn cyflwyno ysgrifau gwreiddiol sy'n olrhain datblygiadau ideolegol, hanesyddol a diwylliannol yn y 1920au. Gan gymhlethu'r dehongliad cyfarwydd o'r 1920au fel degawd a ddechreuodd gyda ffyniant rhyfeddol ac a ddaeth i ben gyda dadrithio a dirwasgiad, mae'r casgliad yn archwilio ehangder ac amrywiaeth allbwn diwylliannol y gymuned ddu. Gan bwysleisio cyferbyniad cynhyrchiol rhwng rhinweddau byrhoedlog cyfnodolion, dillad a décor a sefydlogrwydd cymharol testunau'r canon, mae'r gyfrol yn disgrifio dynameg mudiad diwylliannol a oedd yn hylif ac yn eang.
Mae Miriam Thaggert yn Athro Cysylltiol mewn Llenyddiaeth Affricanaidd America yn SUNY-Buffalo. Hi yw awdur Images of Black Modernism: Verbal and Visual Strategies of the Harlem Renaissance (University of Massachusetts Press, 2010). Ar y cyd â Rachel Farebrother, mae'n gyd-olygydd A History of the Harlem Renaissance ( Cambridge University Press, 2021) ac African American Literature in Transition, 1920-1930 (Cambridge University Press, 2022). Mae ei thraethodau wedi ymddangos yn African American Review, American Quarterly, American Literary History, Feminist Modernist Studies, Meridians: Feminism, Race, Transnationalism, a'r gyfrol a olygwyd, New Modernist Studies. Cyhoeddir ei monograff newydd, Riding Jane Crow: African American Women on the American Railroad (Prifysgol Illinois) ym mis Mehefin, 2022.
Mae Rachel Farebrotheryn Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Hi yw awdur The Collage Aesthetic in the Harlem Renaissance (Ashgate, 2009). Mae ei thraethodau wedi ymddangos yn Comparative American Studies, Journal of American Studies, MELUS, Modernism/modernity, a chasgliadau amrywiol a olygwyd. Ar y cyd â Miriam Thaggert (SUNY-Buffalo), mae hi wedi cyd-olygu The History of the Harlem Renaissance (Cambridge University Press, 2021) ac African American Literature in Transition, 1920-1930 (Cambridge University Press, 2022).
Dydd Mercher 6 Ebrill 2022 - 'Brittle with Relics': Richard King yn sgwrsio â'r Athro Kirsti Bohata
Ar y cyd â Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe SA2 8PP
Bydd Richard King yn sgwrsio â Kirsti Bohata, Athro Llenyddiaeth Saesneg a Chyfarwyddwr CREW (y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru) ym Mhrifysgol Abertawe.
Llyfr sy'n torri tir newydd am hanes pobl Cymru yn ystod cyfnod o newid cenedlaethol mawr.
Yn ystod traean olaf yr ugeinfed ganrif, profodd Cymru effeithiau dad-ddiwydiannu, colli cyflogaeth a chydlyniad cymunedol yn sgil hyn, a brwydr am ei hiaith a'i hunaniaeth, i gyd ar yr un pryd. I raddau helaeth, gorfodwyd y newidiadau hyn ar y wlad a bu'n rhaid i'w llais ei hun, na cheir cytundeb yn ei gylch braidd byth o fewn ei ffiniau, frwydro i gael ei glywed y tu allan i Gymru.
Mae Brittle with Relics yn adrodd hanes pobl Cymru wrth iddynt fynd drwy rai o ddigwyddiadau mwyaf seismig a thrawmatig y wlad: trychinebau Aberfan a Thryweryn; twf mudiad yr iaith Gymraeg; Streic y Glowyr a'i sgil-effeithiau; a'r bleidlais o drwch blewyn o blaid datganoli rhannol.
Gan gynnwys lleisiau Neil Kinnock, Rowan Williams, Leanne Wood, Gruff Rhys, Michael Sheen, Nicky Wire, Siân James, ymgyrchwyr dros y Gymraeg, aelodau'r hen gymunedau glo a llawer mwy, dyma stori hollbwysig am genedl sy'n benderfynol o oroesi, gan goleddu'r gobaith y bydd Cymru, ryw ddydd, yn ffynnu ar ei thelerau ei hun.
Am y awdwr
Richard King yw awdur Original Rockers (a gafodd ei gynnwys ar restr fer Gwobr Gordon Burn ac ar restr Rough Trade, The Times ac Uncut o lyfrau'r flwyddyn), How Soon is Now? (Llyfr Cerddoriaeth y Flwyddyn The Sunday Times) a The Lark Ascending (Un o lyfrau'r flwyddyn Rough Trade, Mojo a'r Evening Standard, a llyfr rhestr fer Gwobr Penderyn) y cyhoeddwyd pob un ohonynt gan Faber & Faber. Cafodd ei eni i deulu dwyieithog yn ne Cymru a bu'n byw yng nghefn gwlad Powys am yr 20 mlynedd diwethaf.
Dyyd Mawrth 5 Ebrill 2022 - 'Ticking': Ellie Rees yn sgwrsio â Dr Alan Bilton
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe SA2 8PP
Ellie Rees yn sgwrsio â Dr Alan Bilton, awdur ac Uwch-ddarlithydd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae'r cerddi yn Ticking yn fap dwfn o lain o arfordir yn ne Cymru sy'n hardd ond yn wag sy'n edrych dros Fôr Hafren i Exmoor. Gallai'r casgliad gael ei ddosbarthu fel ysgrifennu am natur, ond mae'r term mapio dwfn yn ddisgrifiad mwy cywir o'r pwnc eclectig: ceir ysbrydion, hunanladdiadau ac adfeilion yn ogystal â chorynnod y dom, seiri maen ac ofn pryfed. Mae llawer o'r cerddi'n canolbwyntio ar hanes a daearyddiaeth, archeoleg a bywyd gwyllt dwy filltir o arfordir Cymru. Serch hynny, mae'r mapio yn Ticking nid yn unig yn cael ei gyfyngu i'r diriaethol neu ddeunydd, mae'n cynnwys yr anniriaethol, y breuddwydion a'r gobeithion, dychmygion ac ofnau ei breswylwyr yn y gorffennol a'r presennol.
Am y awdwr
Ar ôl ymddeol fel athro yn 2009, sylweddolodd Ellie fod mwy i fywyd na garddio, felly penderfynodd fod yn fyfyriwr unwaith yn rhagor. Enillodd MA a PhD mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe, ac mae ei gwaith yn cael ei gyhoeddi'n helaeth erbyn hyn. Mae hi'n ysgrifennu cofiannau ffeithiol creadigol a thraethodau ond ei phrif gariad yw barddoniaeth. Mae cerddi Ellie wedi cael eu cyhoeddi yn y lleoedd canlynol The New Welsh Review, Poetry Wales, The Lonely Crowd, Black Bough Poems, The Cabinet of Heed, Trestle Ties a The Broken Spine. Mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer sawl cystadleuaeth o fri ac yn 2020, enillodd y Gystadleuaeth Selected or Neglected a gynhelir gan The Hedgehog Press. Cyhoeddwyd casgliad cyntaf o farddoniaeth Ellie o'r enw Ticking ar 14 Ionawr 2022 gan The Hedgehog Press.
Dydd Mercher 2 Chwefror 2022 - 'Painting the Beauty Queens Orange: Women’s Lives in the 1970s'
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe SA2 8PP
Doedd y 70au ddim yn fflêrs, glam roc a phync i gyd... Yn Painting the Beauty Queens Orange, mae'r menywod a fu'n byw drwy'r degawd yn datgelu sut brofiad oedd gwthio'r ffiniau, hawlio eich hunaniaeth a mynnu lle i chi eich hun yn y gaeaf o anfodlonrwydd, haf crasboeth '76 a thwf Thatcheriaeth. Mae un fenyw'n ffarwelio â'i baban newydd-anedig yn erbyn ei hewyllys. Mae un arall yn achub ar gyfleoedd newydd ac yn hwylio bant ar dancer LGP gyda chriw o ddynion. Mae trydedd yn datgan ei hunaniaeth rywiol. Mae pedwaredd yn sefydlu busnes yn ei chegin sy'n lansio brand rhyngwladol. Mae'r straeon hyn am uchelgais ac antur, mamolaeth a phriodas yn dorcalonnus, yn ddigrif ac yn onest yn eu tro.
Bydd y cyfranwyr, Carolyn Lewis 'The Sound of Water' a Kate Cleaver 'Firsts', ynghyd â golygydd y llyfr, Rebecca F. John, yn sgwrsio â Dr Alan Bilton, awdur ac Uwch-ddarlithydd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
Kate Cleaver
Mae Kate Cleaver yn awdur Eingl-Indiaidd sy'n astudio am PhD ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi'n ymchwilio i fywydau pobl gyffredin a gafodd eu carcharu yng Ngwallgofdy Llansawel, Vernon House. Mae hi wedi dechrau creu straeon ac wedi canfod bod cysylltu ei straeon â ffeithiau hanesyddol yn ffordd o adfywio pobl o'r gorffennol; mae hi'n gofyn a oes modd ail-greu'r ysbrydion hyn drwy straeon a hanes creadigol. Yn 2019, cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobrau New Welsh Writing ac mae ei hunangofiant, 'Just So You Know', newydd gael ei gyhoeddi gan Parthian.
Carolyn Lewis
Ganwyd Carolyn yng Nghaerdydd ac mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn antholegau blaenorol Honno. Cafodd ei nofel gyntaf, Missing Nancy, ei chyhoeddi gan Accent Press yn 2008. Enillodd ei MPhil mewn Ysgrifennu ym Mhrifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru bellach). Mae ei straeon wedi ennill gwobrau cenedlaethol a lleol ac wedi cael eu cyhoeddi yn The New Welsh Review, Mslexia a Route Magazine ymysg eraill. Mae hi wedi gweithio fel tiwtor ysgrifennu creadigol am flynyddoedd maith a chyhoeddwyd dau lyfr testun yn seiliedig ar ei dulliau addysgu. Ar hyn o bryd, mae hi'n ysgrifennu nofel newydd er mwyn ennill ei PhD ym Mhrifysgol Abertawe.
Rebecca F. John
Ganwyd Rebecca F. John ym 1986, a chafodd ei magu ym Mhwll, pentref bach ar arfordir de Cymru. Mae ganddi BA mewn Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe, yn ogystal â TAR/AHO gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae ei straeon byrion wedi cael eu darlledu ar BBC Radio 4 a BBC Radio 4Extra. Yn 2015, cafodd ei stori fer, 'The Glove Maker's Numbers' ei chynnwys ar restr fer Gwobr Stori Fer The Sunday Times/EFG. Enillodd hi Wobr New Voices PEN International yn 2015. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, Clowns's Shoes, drwy Parthian yn 2015. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Haunting of Henry Twist, drwy Serpent's Tail ym mis Gorffennaf 2017. Cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Costa am y Nofel Gyntaf Orau. Yn 2022, bydd hi'n cyhoeddi ei llyfr cyntaf i blant gyda Firefly Press,yn ogystal ag ail nofel i oedolion, The Empty Greatcoat, a nofel fer, Fannie, gyda Gwasg Honno.
Dydd Mercher 26 Ionawr 2022 - Patrick Jones a Susie Wild
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe SA2 8PP
Ymunwch â'r beirdd Patrick Jones a Susie Wild, sy'n gyn-fyfyrwyr o Abertawe, wrth iddynt ddarllen o'u casgliadau diweddaraf, 'Fuse/Fracture (Poems 2001-2021) a 'Windfalls'.
Mae Patrick Jones yn awdur chwe drama, tri albwm gair llafar, naw llyfr barddoniaeth ac awdur geiriau'r caneuon ar yr albwm Even in Exile (James Dean Bradfield). Ar hyn o bryd, ef yw'r Awdur Preswyl gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru ac mae'n addasu ei ddrama o 2016, Before I Leave, i'w ffilmio. Cafodd ei eni yn Nhredegar, Cymru. Ei lyfr diweddaraf yw argraffiad arbennig o Fuse/Fracture (Poems 2001-2021) i ddathlu 20 mlynedd ers ei gyhoeddi. Mae ganddo bedwar o blant a dwy gath ac mae'n byw wrth odre mynydd.
patrick-jones.info
twitter: @heretic101
FUSE / FRACTURE (POEMS 2001-2021):
Argraffiad i ddathlu 20 mlynedd ers cyhoeddi’r casgliad, â rhagair gan James Dean Bradfield. Drwy'r galarganeuon, y caneuon protest a'r rhyfelgrïoedd hyn, mae Jones yn annerch ac yn siarad ar ran y rhai ar yr ymylon, gan dystio i faterion cyfoes a gwleidyddol. Mae 28 cerdd newydd hefyd yn ymdrin â materion personol; cânt eu haflonyddu gan ysbrydion y byw a'r meirwon. Dyma fap o greithiau lle trigai cariad unwaith.
Mae Susie Wild yn awdur dwy flodeugerdd, Windfalls a Better Houses, y casgliad o straeon byrion, The Art of Contraception, a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Edge Hill, a'r nofel fer, Arrivals. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi'n ddiweddar yn Poetry Wales, ym mhrosiect y pandemig Carol Ann Duffy, Write Where We are Now, The Atlantic Review ac Ink, Sweat & Tears. Mae hi hefyd yn Olygydd Cyhoeddi yn Parthian Books, gan arbenigo mewn barddoniaeth a ffuglen. Ar hyn o bryd, mae'n byw mewn croglofft ar rodfa ddeiliog yng Nghaerdydd.
http://susiewild.blogspot.com
twitter: @Soozerama
WINDFALLS:
Yn Windfalls, mae Wild yn ysgrifennu am ffrwythau wedi'u bwrw i'r ddaear gan y gwynt, am enillion annisgwyl a heb eu hennill sy'n adnewyddu harddwch a llawenydd bywyd. Dyma straeon hefyd am arwresau sy'n cwympo neu'n neidio o bedestal, gan fentro mewn byd sydd yn aml yn beryglus i fenywod, ond yn gwrthod bodloni ar fywyd confensiynol. Mae Wild yn parhau i gyflwyno ei safbwynt anghyffredin a ffres ar fywyd, boed drwy ddadansoddi'r byd domestig, gwleidyddol neu amgylcheddol.
Dydd Mercher 1 Rhagfyr - 'Dusking Through Waves': Wendy Holborow mewn sgwrs â Jon Gower
Creu Taliesin, lawr gwaelod adeilad Taliesin, Prifysgol Abertawe
Mae Dusking Through Waves yn gymysgedd eclectig o straeon byrion a ysgrifennwyd dros nifer o flynyddoedd. O fynyddoedd a pharciau Cymru i diroedd prysgwydd Affrica; o Gymru Dylan Thomas i Corfu Lawrence Durrell. Mae rhai wedi cael eu cynnwys ar restrau byr cystadlaethau a'u cyhoeddi mewn cyfnodolion llenyddol uchel eu parch, mae eraill wedi cael eu haddasu'n ddramâu llwyfan a'u llwyfannu gan gwmni theatr proffesiynol. Mae'r straeon yn ymdrin â phynciau megis trais domestig, unigrwydd, dementia, rhyfel a newyn, a chariad.
Am yr Awdur
Ganwyd Wendy Holborow yn ne Cymru lle mae hi'n byw bellach, ond bu'n byw yng Ngwlad Groeg am 14 o flynyddoedd lle sefydlodd a chyd-olygodd Poetry Greece. Mae hi wedi ennill gwobrau am ei straeon byrion - ymhlith y rhai mwyaf nodedig y mae Gwobr Goffa Philip Good, Cystadleuaeth Cwm Afan, y cylchgrawn The Island ac, yn ddiweddaraf wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Allen Rayne. Mae ei straeon wedi'u cyhoeddi mewn cyfnodolion niferus. Mae hi wedi cwblhau gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae 10 o'i chasgliadau barddoniaeth wedi'u cyhoeddi, ynghyd â dwy nofel i blant a chasgliad o straeon byrion, Dusking Through Waves. Mae nifer o'i dramâu wedi'u llwyfannu'n broffesiynol hefyd.
Sefydliad Diwylliannol 'Cyfres Salon Llenyddol'
Dydd Mercher 17 Tachwedd - 'Human Beings': Rachael Llewellyn mewn sgwrs â Alan Bilton
Dydd Mercher 17 Tachwedd, 13:00-14:00 GMT
Creu Taliesin, lawr gwaelod adeilad Taliesin, Prifysgol Abertawe
Yn y casgliad hwn o straeon byr arswydus, mae Rachael Llywellyn yn archwilio ymylon pellach profiad dynol yn fedrus, a’r arswyd sy’n dod gyda hynny’n aml iawn. Gan ymdroelli rhwng yr hyn sy’n gythryblus, yn ddoniol a’r hyn sy’n torri calon, bydd Human Beings yn newid y ffordd rydych chi’n ystyried eich cymydog, yn trin eich cydweithiwr a bydd hyd yn oed yn gwneud i chi ofyn cwestiynau am y person sy’n gorwedd yn y gwely wrth eich ochr . Oherwydd nid yw angenfilod ar y teledu’n hwyr gyda’r nos . . . mae’r angenfilod go iawn yn byw rownd y gornel.
Am yr Awdur
Mae Rachael Llywellyn yn nofelydd sy’n byw yng Nghymru. Mae ei gwaith yn cynnwys y gyfres Red Creek, Down Red Creek ac Impulse Control (Sulis International Press, 2019/2020), a Human Beings (Bear Hills Books, 2021), sef casgliad o straeon byr. Mae ei gwaith ffuglen wedi cael ei drafod mewn sawl cylchgrawn a chyfnodolyn, gan gynnwys The Heartland Society of Women Writers, The Spectre Review, a Crow & Cross Keys, yn ogystal ag ymddangos mewn detholiadau gan gynnwys Creating In Crisis (Polari Press, 2021), Twisted Love (Jazz House Publications, 2021), a The Speculative Book 2021 (Speculative Books, 2021). Ar hyn o bryd, mae’n cwblhau PhD mewn cof, trawma a llên gwerin ym Mhrifysgol Abertawe.
Dydd Iau 4 Tachwedd - 'Voice and Form in Contemporary Fiction': Women Authors from Wales and Europe in conversation
Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn lle bydd pum awdur benywaidd uchel eu parch o Gymru ac Ewrop yn trafod ac yn darllen eu gwaith. Bydd Rebecca F. John, Caryl Lewis ac Efa Lois (Cymru) yn dod ynghyd â Nora Ikstena (Latfia) ac Alena Mornštajnová (Gweriniaeth Tsiec) i archwilio dulliau o ffuglennu hanes ac ysgrifennu am deulu, cymuned a lle.
Cadeirydd: Dr Kathryn Jones
Panelwyr:
Nora Ikstena yw un o'r awduron rhyddiaith mwyaf amlwg a dylanwadol Latfia. Ar ôl ennill gradd mewn Athroniaeth o Brifysgol Latfia ym 1992, aeth i astudio llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Columbia. Mae Nora Ikstena yn aml yn myfyrio ar fywyd, cariad, marwolaeth a ffydd yn ei rhyddiaith. Soviet Milk (2015, oedd ar restr fer Gwobr Llenyddiaeth Flynyddol am ryddiaith orau a'i chyfieithu i nifer o ieithoedd gan gynnwys Japaneeg, Almaeneg, Croateg, Saesneg, Hwngari, Eidaleg a Rwseg), Besa (2012), Celebration of Life (1998, wedi'i gyfieithu i Norwyeg, Eidaleg, Daneg, Sweden), a The Virgin's Lesson (2001) yw rhai o'i nofelau a werthfawrogir ehangaf. Mae'r nofel Amour Fou wedi'i haddasu ar gyfer theatr a'i chyhoeddi yn Rwseg (2010). Mae Ikstena hefyd yn awdur toreithiog ar ffuglen fywgraffyddol, ffeithiol, sgriptiau, traethodau a chasgliadau o ryddiaith byr. Mae hi’n cyfrannu’n fywiog ym mywyd diwylliannol a gwleidyddol Latfia ac yn gyd-sylfaenydd y International Writers and Translators’ House yn Ventspils. Yn 2006, derbyniodd Wobr Cynulliad Baltig mewn llenyddiaeth.
Mae Alena Mornštajnová yn athrawes Saesneg, cyfieithydd ac awdur pum nofel lwyddiannus. Mae ei nofel ddiweddaraf, Tiché roky (Blynyddoedd o Dawelwch, 2019), wedi cadarnhau ei safle fel nofelydd uchel ei pharch, boblogaidd gyda mwy na 500,000 o gopïau o’i llyfrau wedi’u gwerthu yn y Weriniaeth Tsiec yn unig. Mae hawliau ar gyfer ei nofel fwyaf llwyddiannus Hana wedi cael eu gwerthu i bedair gwlad ar bymtheg gan gynnwys y Deyrnas Unedig, Awstria, yr Eidal, Ffrainc, Gwlad Pwyl, Yr Iseldiroedd a Rwsia.
Ganwyd Rebecca F. John ym 1986, ac fe’i magwyd yn Pwll, pentref bach ar arfordir de Cymru. Mae ganddi BA mewn Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe, yn ogystal â PCET TAR o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae ei straeon byrion wedi'u darlledu ar BBC Radio 4 a BBC Radio 4Extra. Yn 2015, roedd ei stori fer ‘The Glove Maker’s Numbers’ ar restr fer Gwobr Stori Fer EFG y Sunday Times. Hi yw enillydd Gwobr Lleisiau Newydd Rhyngwladol PEN 2015. Cyhoeddwyd ei chasgliad stori fer gyntaf, Clown's Shoes, gyda Parthian yn 2015. Roedd ei nofel gyntaf, The Haunting of Henry Twist, (Serpent's Tail, 2017) ar restr fer Gwobr Nofel Gyntaf Costa. Yn 2022, bydd yn cyhoeddi ei llyfr plant cyntaf gyda Firefly Press, yn ogystal ag ail nofel i oedolion, The Empty Greatcoat, a nofel fer, Fannie, gyda Honno.
Mae Efa Lois yn arlunydd ac awdur sy’n dod yn wreiddiol o Geredigion. Mae ei gwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar chwedloniaeth, hanes menywod Cymru, a byd natur a phwysigrwydd ei warchod. Derbyniodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru yn 2020. Hi oedd arlunydd swyddogol Tafwyl yn 2018, 2019, 2020 a 2021. Mae ei gwaith arlunio wedi ymddangos yn Menywod Mentrus Cymru gan Cadw, Henriet y Syffrajet gan Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch, 2018), 10 o Sir Benfro (Amgueddfa Narberth, 2021), ac Y Stori Orau gan Lleucu Roberts (Ennillydd y Fedal Ryddiaith 2021, Y Lolfa). Bydd ei darluniau hefyd yn ymddangos yn nghyfrol Jon Gower Cymry o Fri (Y Lolfa, 2021). Ar hyn o bryd mae hi wrthi'n gweithio ar ysgrifennu ac arlunio dwy gyfrol i blant.
Mae’r awdures Caryl Lewis wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn ddwywaith am ein ffuglen llenyddol a gwobr Tir na n-Og yn 2004 a 2015. Addaswyd ei nofel Martha, Jac a Sianco yn ffilm a enillodd 6 BAFTA Cymru a Gwobr Ysbryd yr Ŵyl, Gŵyl Cyfryngau Celtaidd yn 2010. Mae ei gwaith yn cael ei astudio fel rhan o’r cwricwlwm addysg ac mae hi’n sgrin-awdur llwyddiannus (yn gweithio ar ddramâu BBC/S4C Y Gwyll a Craith). Bydd ei nofel Saesneg gyntaf, DRIFT yn cael ei chyhoeddi gan Penguin yn Ebrill 2022 a Seed, ei nofel Saesneg gyntaf ar gyfer darllenwyr 8+ yn cael ei gyhoeddi gan MacMillan Uk a MacMillan US yn Mai 2022. Mae hi’n byw gyda’i theulu ar fferm ger Aberystwyth.
Mae Dr Kathryn Jones yn Athrawes Gyswllt Ffrangeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n cadeirio’r panel cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd Modern cyfrwng Cymraeg. Mae hi wedi cyhoeddi ym meysydd diwylliant cyfoes Ffrengig ac Almaenig, awduresau Ffrangeg ôl-wladychol ac awduresau taith, astudiaethau gwrthdaro ac astudiaethau cof. Cyhoeddwyd ei llyfr diweddaraf, Hidden Text, Hidden Nation: (Re)Discoveries of Wales in Travel Writing in French and German (1780-2018), a ysgrifennodd gyda Carol Tully a Heather Williams, gan Wasg Prifysgol Lerpwl yn 2020.
Mae ‘European Writers' yn brosiect tymor hir gan EUNIC Llundain yr amcan yw hyrwyddo Llenyddiaeth Ewropeaidd yn y DG. Cefnogir y digwyddiad hwn gan Ganolfan Tsiec Llundain, Llenyddiaeth Latfia a Llysgenhadaeth Latfia.
Mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru a Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe.
Dydd Mercher19 Mai 2021 - Marianne Tuckman yn sgwrsio gyda David Britton
Marianne Tuckman yn sgwrsio gyda David Britton
Sgrinio, trafodaeth ac yna Holi ac Ateb
Crynodeb:
Yn rhyfedd, mae cartref menyw wedi dod yn frwnt iawn. Yn fochaidd, mewn gwirionedd. Yn llawn ofn, mae hi’n ffonio ei glanhawr, pync sydd ar fin cael ei hel allan o’i thŷ, i ddod i helpu, ond er gwaethaf eu holl ymdrechion, mae’r tŷ yn mynd yn fwyfwy brwnt... Yfory, roedd hi wedi cynllunio cael plant a chwarae gyda nhw. Tybed a fydd hyn yn bosibl?
Themâu:
Y cwestiwn rydw i’n ei ofyn yn y prosiect hwn yw: os bydd grymoedd o’r tu allan megis newid yn yr hinsawdd yn ymwthio i gartref ac yn ei ddifwyno, sut mae ein gweledigaeth o’r dyfodol yn newid? Trafodir cwestiwn llosg sy’n wynebu fy nghenhedlaeth i: ydy cael plant yn dal i fod yn opsiwn?
BYWGRAFFEG:
Mae Marianne yn berfformiwr, yn ddyfeisiwr, yn artist dawns ac yn ysgrifennwr sy’n byw rhwng Berlin a’r DU lle mae hi’n astudio MPhil ymchwil mewn ysgrifennu creadigol (Prifysgol Abertawe), gan ganolbwyntio ar y berthynas rhwng testunau a pherfformiadau byw ymgorfforedig.
Ei chenhadaeth: gwneud i eiriau chwysu.
Ei dull: caru drwy sgwrsio.
Cyfathrebu straeon sy’n ysgogi Marianne i greu gwaith sy’n cyfuno hiwmor, trosiadau barddonol, dawnsio gyddfol a.... sgwrsio.
Yn gyffredinol, mae Marianne yn awdur neu’n gydawdur i brosiectau y mae hi’n eu perfformio eu hunan ac mae hi wedi cyflwyno gwaith mewn lleoliadau gan gynnwys Neuadd Gyngerdd Megaron Athens, Vorspiel -CTM - Gŵyl Transmediale (Berlin), Theatr y Blue Elephant (Llundain), Hasta Trilce (Buenos Aires) a’r Arts Printing House (Vilnius). Mae hi wedi gweithio'n berfformiwr yn Theatr Genedlaethol Reinickendorf (Vinge/ Muller, Berliner Festspieler), Manque La Banca (ffilm), 12 Days (Film 4), Punderson Gardens (ymgyrch Nadolig Arket) a João Cidade (theatr ddawns) ymhlith eraill.
Gwyliwch y rhagolwg: https://youtu.be/IdD_V40AkrM
Nos Iau 29 Ebrill 2021 - 'Many Rivers to Cross:' Dylan Moore mewn sgwrs â Jon Gower
Many Rivers to Cross yw nofel gyntaf Dylan Moore, golygydd the welsh agenda sy’n un o Gymrodorion Rhyngwladol Gŵyl y Gelli. Mae'r nofel, a ysgrifennwyd yn dilyn cyfnod yn gwirfoddoli mewn prosiect yng Nghasnewydd, The Sanctuary, ac sy'n seiliedig yn rhannol ar gyfweliadau â cheiswyr lloches a ffoaduriaid, yn olrhain cyfres o deithiau - symudiadau ar draws amser a lle - o strydoedd Pillgwenlly yng Nghasnewydd i wersyll y 'Jyngl' yn Calais, ac o Ethiopia i ynys Lampedusa.
Am y Awdur
Mae Dylan Moore wedi gweithio fel golygydd cylchgrawn, athro ysgol gyfun, gweithiwr cymorth ffoaduriaid a'r tu ôl i'r cownter mewn siop sglodion. Roedd ei lyfr cyntaf, Driving Home Both Ways, yn gasgliad o ysgrifau am deithio; mae ei waith newyddiadurol wedi ymddangos yn Lonley Planet, Vanity Fair, Times Educational Supplement ac ar BBC Radio 4. Mae'n un o Gymrodorion Rhyngwladol Gŵyl y Gelli.
Cultural Institute 'Cyfres Salon Llenyddol'
Dydd Llun 8 Mawrth 2021 - 'Dathliad Barddoniaeth Rhyngwladol Diwrnod y Merched' - Lizzie Fincham a Natalie Ann Holborow
Contained in Ice gan Lizzie Fincham
Teimladwy, cain ac amserol, mae synhwyrau craff a rhythmau imagistaidd Lizzie Fincham yn rhoi cipolwg i ni o dan arwyneb bywyd, i'r cysylltiadau dyfnach. A phob amser yn rhedeg drwy'r harddwch a’r delweddau sy’n dwyn byd natur i gof naturiol, y mae rhybuddion: 'The woods are turning to smoke'; 'As it always has, the bell tolls'… mae sensitifrwydd y farddoniaeth yn cuddio pwysigrwydd y themâu: y colledion a'r gobaith - mae Contained in Ice yn cynnwys 'yr holl bethau bychain. a'r holl bethau mawr.'
Small gan Natalie Ann Holborow
Mae gan bawb eu hoff ddemoniaid. Wedi'i wau drwy gerddi am fytholeg, ffigurau llenyddol a glannau estron, ni all yr adroddwr ddianc rhag ei demon mwyaf oll: y demon cawraidd Small. Drwy iaith gignoeth a gonest, mae natur guddiedig byw gydag anhwylder bwyta yn cael ei llusgo i'r awyr agored a rhoddir iddi ffurf gorfforol a llais. Drwy berthnasoedd sy'n chwalu, amserau bath, tanbeidrwydd byddarol Delhi a chlosrwydd ystafelloedd aros ysbytai, mae Small yno yn swatio'n slei ar ysgwyddau menyw sy'n rhedeg am filltiroedd i ddianc - ond yn cael ei phlagio byth a beunydd gan gysgod sy'n llawer mwy na'i un ei hun.
Bywgraffiadau'r Awduron
Mae Lizzie Fincham, a anwyd ym mro Gŵyr, yn astudio am PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd. Mae 80 o'i cherddi wedi cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion a chasgliadau amrywiol, gan gynnwys New Welsh Review, Poetry Wales, North, French Literary Review, New Zealand Review. Mae Lizzie wedi cyrraedd rhestrau byr llawer o wobrau, gan gynnwys gwobr nodedig y Bridport Prize am farddoniaeth deirgwaith. Yn 2017 dyfarnwyd y wobr gyntaf iddi am Brexit Blues yng Nghystadleuaeth Farddoniaeth Brighton. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf, Green Figs and Blue Jazz, gan Cinnamon Press yn 2017. Cyhoeddwyd ei phamffled diweddaraf, Contained in Ice, gan Cinnamon Press yn 2020.
Mae Natalie Ann Holborow yn ysgrifennwr arobryn y cafodd ei chasgliad cyntaf, And Suddenly You Find Yourself, ei lansio yng Ngŵyl Lenyddol Ryngwladol Kolkata a'i chynnwys yn rhestr 'Goreuon 2017' Wales Arts Review. Mae hi'n gyd-awdur yr antholeg Cheval. Enillydd Gwobr Terry Hetherington 2015 ac ymgeisydd ar restr fer cystadleuaeth y Gair Llafar Cursed Murphy, cyhoeddwyd ei hail lyfr Small (Parthian) a phamffled cydweithredol gyda Mari Ellis Dunning, The Wrong Side of the Looking Glass (Black Rabbit Press), yn 2020.
Dydd Mercher 17 Chwefror 2021 - 'The New Face of Russian Literature' - Yr Athro Aleksey Varlamov
BYDD Y DIGWYDDIAD HON YN CAEL EI CARU ALLAN YN Y CANOLIG RWSIAIDD, GYDA CYFIEITHU SAESNEG SYML
Mae llenyddiaeth Rwsieg yn mynd drwy gyfnod - sy'n unigryw yn ei hanes - o ryddid ac annibyniaeth lwyr ar yr awdurdodau. Yn y ddarlith hon, bydd yr Athro Aleksey Varlamov yn trafod tueddiadau newydd mewn llenyddiaeth Rwsieg, gan gynnwys rôl yr ysgrifennydd fel adroddwr straeon, yn hytrach na phroffwyd neu ideolegwr, yn ogystal â'r dirwedd lenyddol bresennol yn Rwsia. Bydd y pwyslais ar lenyddiaeth ffeithiol, gwaith bywgraffyddol a statws mudiadau megis Realaeth, Ôl-realaeth ac Ôl-foderniaeth. Trafodir hefyd i ba raddau y gallwn ddeall y presennol drwy weithiau Zakhar Prilepin, R Senchin, A Salnikov a Grigorij Sluzhitel.
Yr Athro Aleksey Varlamov yw Rheithor Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky, Moscow. Mae ef hefyd yn ysgrifennydd blaenllaw, yn gyhoeddwr ac yn ymchwilydd i hanes llenyddiaeth Rwsieg yr 20fed ganrif ac mae ei lyfrau wedi cael eu cyfieithu i sawl iaith.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Pontio Creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia 2020-21 a drefnwyd gan Adran Ddiwylliannol ac Addysg Llysgenhadaeth Prydain ym Mosgo gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Gweinidogaeth Diwylliant Ffederasiwn Rwseg - Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky Moscow
Nos Iau 11 Chwefror 2021 - 'Advent' - Jane Fraser
Crynodeb o Lyfrau
Gaeaf 1904, ac mae Ellen, 21 oed a llawn ysbryd, wedi cael ei galw yn ôl o'i bywyd newydd yn Hoboken, New Jersey, i ddychwelyd i fferm ei theulu ar benrhyn Gŵyr gwyntog, mewn ymgais olaf i achub bywyd ei thad alcoholig. Mae hi'n dychwelyd i deulu sydd mewn anhrefn llwyr. Wrth i’w iechyd ddirywio, mae William yn colli rhannau helaeth o dir y teulu Thomas drwy gamblo; yn rhwystredig, mae Eleanor yn galaru am y gŵr roedd yn ei adnabod ers talwm; ac mae brodyr iau Ellen - gefeilliaid - yn wynebu dewisiadau anodd. Yn ei hymdrech i roi trefn ar fywydau ei theulu, mae Ellen yn brwydo yn wyneb un penderfyniad amhosib ar ôl y llall. A hithau'n ddyfeisgar, yn angerddol ac yn ddi-flewyn ar dafod, a ddylai hi aros ym Mro Gŵyr lle mae cynifer o gyfyngiadau ar fywyd menyw o hyd? A fydd hi'n gallu dioddef bod mor agos at ei chariad coll? A fydd hi'n dewis cartref a dyletswydd, neu gyffro a chyfle, ochr draw'r Iwerydd?
Am y Awdur
Mae Jane Fraser, yn byw, yn gweithio ac yn ysgrifennu ar benrhyn Gŵyr, de Cymru, mewn tŷ sy'n wynebu'r môr. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o ffuglen fer, 'The South Westerlies', gan SALT yn 2019. Bydd ei nofel gyntaf, 'Advent', yn cael ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2021 gan HONNO, y wasg annibynnol hynaf yn y DU sy'n arbenigo mewn ysgrifennu gan fenywod. Yn 2017, cyrhaeddodd restr fer Gwobr Ffuglen Manceinion; ac yn 2018, bu ymhlith enillwyr Gwobr Fish Publishing am Hunangofiant. Graddiodd o Brifysgol Abertawe â gradd MA (rhagoriaeth) a PhD mewn Ysgrifennu Creadigol. Bu'n un o Ysgrifenwyr wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli yn 2018 ac yn 2019. Mae hi'n fam-gu i Megan, Florence ac Alice.
www.janefraserwriter.com
Twitter @jfraserwriter
Mewn cysylltiad â Honno Press
5 Chwefror 2021 - ‘Poetry of the 19th Century: Alexander S. Pushkin’ - yr Athro Elena A. Keshokova
Gelwid Alexander S. Pushkin yn “Sun of Russian Poetry” gan ei gyfoedion. Roedd gan y bardd dras ryfeddol. Roedd hen-dadcu ei fam, un o'r bobl fwyaf hyddysg ei gyfnod, yn ddisgynnydd teulu Abysinaidd tywysogaidd nodedig gan wasanaethu'n ffyddlon y Pedr Fawr, Tsar Rwsia. Mae cofiannau cyndeidiau Pushkin mor ddiddorol â nofelau'r 18fed a'r 19eg ganrif. Ysgrifennodd Pushkin:
My pride of blood I have subdued;
I'm but an unknown singer
Simply Pushkin, not Moussin,
My strength is mine, not from court:
I am a writer, a citizen.
Dywedodd yr ysgrifennwr blaenllaw o Rwsia, Ivan Turgenev, mai un o nodweddion arbennig barddoniaeth Pushkin oedd symlrwydd rhadlon a chlyfar. Yn ei ysgrifennu, roedd yn ymgysylltu mewn deialog greadigol foddhaus â beirdd y Gorllewin - Shakespeare, Voltaire, Byron, a Walter Scott yn eu plith.
Dylanwadodd barddoniaeth bolyffonig Pushkin yn helaeth ar nifer fawr o feirdd Rwsia gan greu iaith farddonol newydd. Roedd y bardd yn hanesydd effeithlon hefyd: gosododd ei arwyr o gynfyd Rwsia'r sylfeini ar gyfer y nofel hanesyddol Rwsiaidd.Helpodd disgrifiadau dynamig y bardd o gymeriadau amrywiol ei fywyd a'i oes i greu delwedd hynod animeiddiedig o Rwsia gan ei gwneud hi'n bosib i alw ei brif waith, Eugene Onegin, yn “wyddoniadur bywyd Rwsia". Bydd y ddarlith hefyd yn esbonio pam mae barddoniaeth Pushkin mor anodd i'w chyfieithu, a pham nad yw ei ysgrifennu wedi datblygu'n ddatguddiad i ddarllenwyr y Gorllewin.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Pontio Creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia 2020-21 a drefnwyd gan Adran Ddiwylliannol ac Addysg Llysgenhadaeth Prydain ym Mosgo gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Gweinidogaeth Diwylliant Ffederasiwn Rwseg
Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky Moscow
28 Ionawr 2021 - 'The Book of Jem' - Carole Hailey
Crynodeb o Lyfrau
Yn sgîl nifer o ryfeloedd crefyddol trychinebus, mae Duw wedi’i wahardd. Wrth i’r eira gwympo, mae menyw ifanc – Jem – yn cyrraedd Underhill. Mae’r gymuned ddiarffordd ac ynysig yn rhoi lloches iddi, ond yn ddiarwybod iddyn nhw bydd hyn yn cychwyn cyfres o ddigwyddiadau fydd yn peryglu’u bodolaeth a’u heinioes. Mae Jem yn rhoi gwybod i’r gymuned bod Duw wedi’i hanfon i Underhill i baratoi’r pentrefwyr at gyflawni perwyl dinistriol ac ysgubol. Mae rhai o’r farn mai proffwyd yw hi ac maen nhw’n herio’r gyfraith er mwyn ymuno â’i chrefydd, sef Edafedd Duw. Mae pobl eraill yn bendant ei bod yn rhaffu celwyddau. Eileen yw’r gyntaf a’r selocaf ymhlith y ffyddloniaid, ac wrth iddi weld bod cymuned fregus y pentref yn dechrau dadfeilio, mae hi’n penderfynu cofnodi geni’r grefydd newydd hon yn ei Llyfr Jem ei hun. Wrth i ffyddloniaid Edafedd Duw ymgasglu i weld diwedd y byd, bydd y geiriau mae Eileen wedi’u hysgrifennu’n pennu ffawd Underhill a Jem ei hunan yn y pen draw. Ond oes modd ymddiried yn Eileen i ddweud y gwir? A sut gall unrhyw un wybod beth i’w gredu?
Am y Awdur
Wedi blynyddoedd o fethu ysgrifennu yng nghanol y nos, rhoddodd Carole Hailey y gorau i yrfa broffidiol fel cyfreithwraig i fod yn nofelydd tlawd. Wedi hynny, enillodd radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Goldsmiths ac yna ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn 2020. Cafodd Carole ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Nofel Gyntaf Cystadleuaeth Bridport 2020 ac mae hi’n un o’r Awduron sy’n dod i’r brig a gafodd gymorth gan y London Library ar gyfer 2020/21. The Book of Jem yw ei nofel gyntaf.
Mewn cysylltiad â Watermark Press
26 Ionawr 2021 - 'Crime Fiction and Legal Truth'
Yn y digwyddiad ar-lein arbennig hwn, bydd panel o arbenigwyr ym maes ffuglen droseddol, ysgrifennu nofelau cyffrous a'r Gyfraith yn trafod y croestoriad rhwng ffuglen droseddol a'r gwir cyfreithiol. Beth yw'r berthynas rhwng ffuglen droseddol a throsedd wirioneddol? I ba raddau y mae'n rhaid i'r awdur nofelau ditectif ddod yn arbenigwr cyfreithiol? Sesiwn llawn gwewyr sy'n canolbwyntio ar ffuglen droseddol Ewropeaidd yng nghwmni'r bargyfreithiwr amlwg a Phennaeth Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton Prifysgol Abertawe, yr Athro Elwen Evans CB, ynghyd â Philip Gwynne Jones, a anwyd yn Abertawe sy'n awdur y nofelau trosedd hynod lwyddiannus "Nathan Sutherland" (a leolir yn Fenis) a'r cyfieithydd a'r golygydd Dr Kat Hall, arbenigwr mewn nofelau cyffrous Almaenaidd a chrëwr 'Mrs Peabody Investigates.' Mewn sgwrs â'r Athro D.J. Britton, Dramodydd a Phennaeth Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
Y Panelwyr
Mae'r Athro Elwen Evans CB yn Ddirprwy Is-ganghellor ac yn Ddeon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae hi hefyd yn gyfrifol am bortffolio Iaith a Diwylliant Cymraeg y Brifysgol.
Astudiodd Elwen y Gyfraith yng Ngholeg Girton Caergrawnt gan raddio â dosbarth cyntaf dwbl: M.A. (Cantab). Roedd hi'n ffodus i dderbyn amrywiaeth o ysgoloriaethau gan ei Choleg, ei Phrifysgol a'i chorff proffesiynol. Ar ôl graddio, mynychodd Ysgol y Gyfraith Ysbytai'r Frawdlys a chafodd ei galw i'r Bar yn Ysbyty Gray ym 1980. Fe’i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines yn 2002. Mae Elwen wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus iawn fel bargyfreithiwr gan ddewis ymarfer yng Nghymru yn bennaf. Mae hi wedi ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith cyfreithiol, gan arbenigo mewn cyfraith trosedd ar lefelau treial ac apeliadau. Mae ei gwaith wedi cynnwys llawer o achosion difrifol, cymhleth, sensitif a phroffil uchel, megis arwain y tîm erlyn yn achos April Jones a'r tîm amddiffyn yn achos trychineb Glofa Gleision. Mae hi'n Gofiadur Llys y Goron ers cael ei phenodi yn 2001. Bu'n Bennaeth Iscoed Chambers am dros 15 mlynedd, gan ymddiswyddo adeg ei phenodi ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi'n Feinciwr yn ei Hysbyty, cafodd ei hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd am ei gwasanaethau i'r Gyfraith yng Nghymru a bu'n Gomisiynydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Mae hi wedi gwasanaethu ar amrywiaeth eang o gyrff a phwyllgorau allanol, gan adlewyrchu ei meysydd profiad a diddordeb proffesiynol. Yn 2018, cafodd ei chynnwys ymhlith y 10 uchaf ar restr yn dathlu 100 o fenywod mwyaf ysbrydoledig Cymru.
Ymunodd Elwen â Phrifysgol Abertawe yn 2015 pan gafodd ei phenodi'n Bennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg lle mae hi wedi cefnogi’r Coleg i dyfu a thrawsnewid yn ganolfan gyffrous a dynamig ar gyfer dysgu, addysgu, ymchwil, effaith ac ymgysylltu. Heddiw, cydnabyddir bod Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton y Brifysgol ar flaen y gad o ran arloesi ym maes addysg ac ymarfer y gyfraith.
Ym mis Hydref 2020, penodwyd Elwen i'w rôl newydd - Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Ganwyd Philip Gwynne Jones yn Abertawe ym 1966, a bellach mae ef yn gweithio fel ysgrifennydd, athro a chyfieithydd yn Fenis. Ei nofel gyntaf, 'The Venetian Game', oedd Nofel Gyffrous Waterstones y Mis ar gyfer mis Mawrth 2018, a nofel lwyddiannus ymhlith y 5 Orau yn ôl y Times.Mae ei nofel ddiweddaraf, 'Venetian Gothic' bellach ar gael, ac mae pedair nofel ychwanegol ar y gweill.Mae ef wedi ysgrifennu ar gyfer y Sunday Times a'r Big Issue, ac mae ef yn westai cyson ar BBC Radio Wales. Yn ei amser hamdden mae ef yn mwynhau coginio, celf, cerddoriaeth glasurol ac opera; ac yn achlysurol gellir ei weld a'i glywed yn canu bas gyda'r Cantori Veneziani. Cyhoeddwyd Philip gan Little, Brown dan yr argraffnod Constable.
Mae Dr Kat Hall yn gyfieithydd ac yn olygydd. Mae hi'n Gyswllt Ymchwil Er Anrhydedd mewn Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe, lle bu'n gweithio fel darlithydd am flynyddoedd lawer. Mae hi'n olygydd Crime Fiction in German: Der Krimi (UWP 2016) ac mae'n cynnal y blog ditectif ‘Mrs Peabody Investigates’. Ar hyn o bryd, mae hi'n cyfieithu Punishment gan Ferdinand von Schirach, bargyfreithiwr o'r Almaen sydd bellach yn nofelydd ditectif.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Pontio Creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia 2020-21 a drefnwyd gan Adran Ddiwylliannol ac Addysg Llysgenhadaeth Prydain ym Mosgo gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Gweinidogaeth Diwylliant Ffederasiwn Rwseg
Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky Moscow
Dydd Mercher 20 Ionawr - ‘Anna Karenina: Screen Adaptations of the Novel’ - Andrey Gelasimov
‘Anna Karenina: Screen Adaptations of the Novel’ - Andrey Gelasimov
Gwnaed yr addasiad cyntaf ar y sgrin o “Anna Karenina” ar ddechrau’r 20fed ganrif. Ers hynny mae’r nofel Rwsiaidd hon wedi dod yn un o’r ffynonellau mwyaf poblogaidd i ffilmwyr ledled y byd gymryd ysbrydoliaeth ohoni. Roedd yr actoresau harddaf a mwyaf chwedlonol ynghlwm wrth roi gwedd weledol i’r cymeriad trawiadol a dioddefus hwnnw a grëwyd gan Leo Tolstoy bron i ganrif a hanner yn ôl. Yn ystod ein sgwrs byddwn ni’n ceisio deall beth yw’r rhesymau sy’n esbonio pam mae’r atyniad wedi parhau cyhyd ac i wneud hyn, byddwn ni’n cymharu fersiynau gwahanol o'r ffilm â’i gilydd ac yna â’r nofel ei hun.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Pontio Creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia 2020-21 a drefnwyd gan Adran Ddiwylliannol ac Addysg Llysgenhadaeth Prydain ym Mosgo gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Gweinidogaeth Diwylliant Ffederasiwn Rwseg - Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky Moscow
Dydd Iau 14 Ionawr - 'Max Porter on Myth, Hybridity and Voice'
Yn ystod y digwyddiad ar-lein arbennig hwn bydd Max Porter yn siarad am ei yrfa fel golygydd, gwerthwr llyfrau ac ysgrifennydd o Brydain a dderbyniodd glod gan feirniaid, cyn trafod newidiadau yn ffurf y nofel Seisnig, mythau a ffurfiau modern, ei waith mwyaf poblogaidd a’i ymagwedd at ysgrifennu a’r berthynas rhwng llenyddiaeth a llythrennedd. Bydd y digwyddiad yn cynnwys darlleniadau arbennig gan Max o’i waith arobryn Grief is the Thing with Feathers a Lanny, yn ogystal â’i lyfr newydd The Death of Francis Bacon, 'an attempt to write as painting, not about it'.
Mewn sgwrs â Dr Elaine Canning, Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae’r awdur arobryn, Max Porter, yn un o ysgrifenwyr mwyaf gwreiddiol ac arloesol Prydain. Enillodd nofel gyntaf Max, Grief Is the Thing with Feathers, Wobr Ryngwladol Dylan Thomas, Wobr Awdur Ifanc y Flwyddyn The Sunday Times/Peters, Fraser + Dunlop, Europese Literatuurprijs a Gwobr Darllenwyr BAMB. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfr Cyntaf The Guardian a Gwobr Goldsmiths. Cafodd ei chyfieithu i 29 o ieithoedd. Bu addasiad llwyfan Enda Walsh gyda Cillian Murphy yn y brif rôl ar daith yn 2019. Roedd ail nofel Max, Lanny (Faber 2019) yn un o ddeg gwerthwyr gorau’r Sunday Times ac wedi cyrraedd y rhestr hir ar gyfer Gwobr Booker 2019. Bydd ei drydydd llyfr y mae disgwyl mawr amdano, The Death of Francis Bacon, yn cael ei gyhoeddi gan Faber ym mis Ionawr 2021. Mae Max yn byw yng Nghaerfaddon gyda’i deulu.
‘It’s hard to express how much I loved Lanny. Books this good don’t come along very often. It’s a novel like no other, an exhilarating, disquieting, joyous read. It will reach into your chest and take hold of your heart. It’s a novel to press into the hands of everyone you know and say, read this.’ - MAGGIE O’FARRELL
A luminous reading experience - (Grief is the Thing with Feathers) (TLS)
An agile, life-affirming account of mourning. (Grief is the Thing with Feathers) (Sunday Times)
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Pontio Creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia 2020-21 a drefnwyd gan Adran Ddiwylliannol ac Addysg Llysgenhadaeth Prydain ym Mosgo gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Gweinidogaeth Diwylliant Ffederasiwn Rwseg
Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky Moscow
9 Rhagfyr 2020 - ‘Margery Kempe’s Spiritual Medicine' - Laura Kalas
Crynodeb o'r Llyfr
Margery Kempe, a aned ym 1373, yw'r fenyw gyntaf hysbys i ysgrifennu hunangofiant yn yr iaith Saesneg. A hithau’n fenyw weledigaethol, afieithus, yn afreolus yn aml, a fu'n byw yn y gymuned leyg, nid oedd ei ffurf arbennig ar ysbrydolrwydd bob amser yn cael ei chymeradwyo mewn amgylchedd diwylliannol a oedd yn aml yn tybio bod mynegiant 'gormodol' gan fenyw yn annormaledd neu'n heresi. Margery Kempe’s Spiritual Medicine: Suffering, Transformation and the Life-Course (D.S. Brewer) yw'r astudiaeth lawn gyntaf o The Book of Margery Kempe o safbwynt y dyniaethau meddygol. Gan harneisio'r syniad canoloesol hollbresennol o Grist y Meddyg, mae'n cynnig ffordd newydd o ddarllen y lyfr fel hanes ymgysylltiad personol Kempe â pharadeimau meddygol lle bu’n destun goddefol o’r blaen. Gan ganolbwyntio ar ryngweithiadau meddygaeth, cyfriniaeth ac atgenhedlu fel prosiect ffeministaidd, mae'r llyfr hwn yn ddarlun eang o gylch bywyd, gan archwilio ymwybyddiaeth barhaus Kempe am ei chorff cyfriniol a'u gwrthodiad i gyfaddawdu ar ei greddf i ddangos sut mae hi’n teimlo yn ddi-flewyn ar dafod.
Am yr Awdur
Mae Laura Kalas yn Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Ganoloesol yn yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi wedi cyhoeddi mewn sawl cyfnodolyn academaidd, wedi cyfrannu at The Literary Encyclopedia a chyhoeddi erthyglau yn The Conversation a The Independent. Mae ei gwaith ar y rysáit feddygol ar ddiwedd The Book of Margery Kempe wedi cael sylw yn The Guardian a'r BBC History Magazine. Margery Kempe’s Spiritual Medicine yw ei llyfr cyntaf.
Mewn cydweithrediad â Boydell and Brewer.
3ydd Rhagfyr 2020 - 'The Murenger and Other Stories' - Jon Gower
‘In Jon Gower's fifth collection of short fiction, he has unleashed a motley crew of rambunctious characters... These unique stories are a melting pot of wild imagination and inventive language, conjured up with a drop of magic realism, a hint of the surreal and a soupçon of fable.’ - Madeleine D’Arcy, awdur Waiting for the Bullet
Am yr Awdur
Mae Jon Gower yn awdur mwy na 30 o lyfrau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys The Story of Wales a fu’n gydymaith i gyfres drobwynt y BBC, An Island Called Smith a enillodd iddo Wobr Ysgrifennu Teithio John Morgan, ac Y Storïwr a enillodd Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru. Mae’n gyn-ohebydd y celfyddydau a’r cyfryngau i BBC Cymru ac am flynyddoedd lawer, bu’n cyflwyno rhaglen gelfyddydol Radio Cymru, First Hand. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig Sarah a’i ferched Elena ac Onwy.
'Cyfres Salon Llenyddol' Sefydliad Diwylliannol
26 Tachwedd 2020 - ‘Entering the Yellow Hous' - Alan Bilton'
Crynodeb o Lyfrau
Ganolbarth Rwsia, 1919, sanatoriwm a ynyswyd gan anhrefn rhyfel sifil Rwsia. Mae llofruddiaeth y prif feddyg yn cychwyn cyfres hunllefus o ddigwyddiadau gan gynnwys arbrofion dirgel, yr heddlu dirgel, dyblwr y Tsar, ‘ymwelydd’ llawn enigma, cyrff meirw enfawr, cathod cythreulig, dewindabaeth a gwallgofrwydd llethol rhyfel, yn y nofel hanesyddol ryfeddol a hynod o doreithiog hon.
Adolygiada
"A bold and confident novel that throws us into the deep end of post-revolutionary Russian life with fervour and wit. There are knowing nods to Gogol and Bulgakov but the voice is entirely original, with a gem of a phrase on every page. I love the quizzical, querulous, dry voice and it’s a satisfying whilst sometimes disorientating experience... the characters are larger than life, but the mud is real. Alan Bilton has a real talent for the unexpected left-hand turn, with lines that turn on a sixpence and surreal narrative twists. It reads like a very modern translation of a 19th century Russian classic – if that sounds like your kind of thing, you will love this book." - Mark Blayney
'Cyfres Salon Llenyddol' Sefydliad Diwylliannol
4 Tachwedd 2020 - ‘Cross Currents: The Fiction of History' - Dai Smith CBE
Mae Dai Smith yn adfyfyrio ar y cerrynt croes deallusol yn ei fywyd fel hanesydd a nofelydd wrth iddo lansio ei nofel ddiweddaraf, The Crossing, mewn sgwrs â Jon Gower.
Mae’r nofel yn adeiladu ar drioleg Dai ar hanes ffugiol De Cymru ddiwydiannol gan ei chwblhau. Mae The Crossing, polyffonig ac aml-leisiol, yn gymysgedd trawiadol a phryfoclyd o’r gwirionedd a’r dychmygol wrth gydblethu tynghedau unigol, rhai go iawn a rhai ffug, gyda cyfeiriad tynghedlon a ffurfiol cymdeithas.
Mae Dai bellach yn ysgrifennu gwaith creu atgofion nid yw’n hunangofiant nac yn gofiant yn ei farn ef ond, yn hytrach, y ddwy ffurf yn hongian yn yr atgof.
Mewn cysylltiad â PARTHIAN
'Cyfres Salon Llenyddol' Sefydliad Diwylliannol
3 Mehefin 2020 - 'Skirrid Hill' - Owen Sheers
Mae Skirrid Hill yn amgylchynu dwy gerdd sef Y Gaer a The Hillfort, ac mae’r teitlau eu hunain yn awgrymu’r bwlch ieithyddol yng Nghymru, o gerddi sy’n ymwneud â phlentyndod, tirwedd a theulu Cymreig, i weledigaeth fwy allanol yn ddaearyddol ac yn hanesyddol.