Professor Ashley Akbari

Yr Athro Ashley Akbari

Athro
Health Data Science

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
306
Trydydd Llawr
Yr Adeilad Gwyddor Data
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Ashley Akbari yn Uwch Reolwr Ymchwil a Gwyddonydd Data ym Mhrifysgol Abertawe, Health Data Research UK (HDR-UK) Cymru a Gogledd Iwerddon, Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADR) Cymru, Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield (NFJO) Partneriaeth Data ac eraill. Mae gan Ashley brofiad o weithio ar amrywiaeth o gysylltiadau data a phrosiectau ymchwil ac mae ganddo gefndir mewn cyfrifiadura a disgyblaethau ymchwil amrywiol sydd wedi esblygu dros amser gyda’i brofiad o weithio gyda data dienw ym Manc Data SAIL ers 2008, yn ogystal â chyda mathau eraill o ddata o genhedloedd y DU, ac fel rhan o brosiectau gyda’r GIG, y llywodraeth, polisi ac eraill. Mae Ashley yn cyflawni ei waith ymchwil ei hun yn ogystal â chydweithio â dadansoddwyr ac ymchwilwyr i ddatblygu a mynd ar drywydd eu prosiectau a’u hymchwil, ac yn cefnogi eu datblygiad a’u hyfforddiant parhaus, gan eirioli’r broses o gymhwyso canlyniadau ymchwil ar ffurf polisïau ar draws y byd academaidd, y llywodraeth a’r GIG. 

Meysydd Arbenigedd

  • Gwyddor Data Poblogaeth
  • Iechyd Poblogaethau
  • Iechyd y Cyhoedd
  • Epidemioleg
  • Data a chysylltiadau arferol
  • Iaith Ymholiadau Strwythuredig (SQL)
  • Rheoli Prosiectau a Rhaglenni
  • Rheoli prosiectau yn Ystwyth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae gan Ashley ddiddordeb mewn addysgu a datblygu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr ac ymchwilwyr data drwy gyfrwng cymysgedd o gyfleoedd theori ac ymarferol, a chefnogi a datblygu arbenigedd drwy gyfryngau amrywiol yn cynnwys addysgu ffurfiol, sefyllfaoedd gweithdy a chyflawni prosiectau. Mae Ashley hefyd yn arwain y sefydliad a’r gwaith o ddarparu’r rhaglen Interniaeth Gwyddor Data Poblogaeth sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddatblygu eu sgiliau drwy leoliad gwaith wedi’i ariannu yn ystod eu gwyliau haf rhwng blynyddoedd academaidd, gan ddod yn rhan o un o’r timau ymchwilio mwyaf blaenllaw yn y byd, sy’n darparu a datblygu canlyniadau technegol ac ymchwil.

Ymchwil Cydweithrediadau