Trosolwg
Cymhwysais mewn meddygaeth ym 1983 ac rydw i wedi bod yn feddyg teulu ers 34 o flynyddoedd.
Mae cyfran gynyddol o’m gyrfa yn ystod y 25 mlynedd ddiwethaf wedi bod ym maes addysg feddygol.
Cafodd fy safle strategol uwch ym maes addysg feddygol ei gydnabod pan gefais fy mhenodi yn brif gymrawd yr academi addysg uwch yn 2018.
Enillais gymhwyster meistr mewn addysg proffesiynau iechyd yn Masstricht, yr Iseldiroedd. Yna cefais Ddoethuriaeth mewn archwilio dysgu myfyriol ym maes addysg feddygol israddedig.
Fel cyfarwyddwr blwyddyn a deon addysg feddygol, roeddwn yn mynd yn fwy a mwy ymwybodol o nifer y myfyrwyr meddygol a oedd â chyflyrau iechyd meddwl difrifol ac mae fy ngwaith ymchwil mwy diweddar wedi canolbwyntio ar ddarparu cymorth ar gyfer myfyrwyr meddygol a meddygon iau sydd â salwch meddwl. Yn 2012, arweiniais dîm o ymchwilwyr a oedd wedi’u comisiynu gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol i ymchwilio i ffynonellau o gymorth ar gyfer myfyrwyr meddygol sydd â chyflyrau iechyd meddwl. Mae ein hadroddiad terfynol yn sail i ganllawiau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer myfyrwyr meddygol ar y pwnc hwn.