Trosolwg
Mae Dr Amy Isham yn Ddarlithydd mewn Seicoleg. Mae'n Seicolegydd Amgylcheddol sy'n ymchwilio i'r cysylltiad rhwng lles seicolegol a chynaliadwyedd ecolegol. Mae'r gwaith hwn yn ymdrin â'r ffactorau a all helpu pobl i fyw'n iach ac yn gynaliadwy neu eu hatal rhag byw'n iach ac yn gynaliadwy. Mae ganddi ddiddordeb penodol yn effaith diwylliant defnyddwyr ar les personol a chymdeithasol, yn ogystal â'r ffordd y gall cyflyrau seicolegol megis llif (ymgolli mewn gweithgaredd) neu ymwybyddiaeth ofalgar helpu i gefnogi pobl i ffynnu mewn modd llai materoliaethol.
Cwblhaodd Amy ei PhD ym Mhrifysgol Surrey, gan weithio yn CUSP (Centre for the Understanding of Sustainable Prosperity). Archwiliodd ymchwil ei PhD i berthnasedd ‘llif’ seicolegol i'r cysylltiad rhwng materoliaeth a lles personol gwaeth. Mae Amy yn parhau i gydweithredu â CUSP ar ymchwil sy'n ymwneud â dimensiynau seicolegol ffyniant cynaliadwy.
Cyn dechrau ei PhD, cwblhaodd Amy BSc (Anrh) mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Warwick ac MSc mewn Seicoleg Hysbysebu ym Mhrifysgol Lancaster. Mae hi'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.