Trosolwg
Mae Dr Ali Blebil yn Uwch-ddarlithydd Ymarfer Fferylliaeth a Fferylliaeth Glinigol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ddiddordebau ymchwil mewn ymarfer fferylliaeth yn cynnwys ansawdd wrth ddefnyddio meddyginiaethau, iechyd y cyhoedd a gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â meddygaeth.
O'r blaen, ef oedd Arweinydd Ffrwd unedau Gofal Cynhwysfawr yn yr Ysgol Fferylliaeth, Prifysgol Monash Malaysia. Mae Dr Blebil wedi'i hyfforddi'n fferyllydd ac mae ganddo PhD mewn Fferylliaeth Glinigol. Dyfarnwyd y wobr "Rhagoriaeth mewn Addysg, Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu" iddo gan Is-ganghellor Prifysgol Monash Malaysia.
Mae hefyd yn Gymrawd (FHEA) o'r Academi Addysg Uwch gan gydnabod ei ymrwymiad a'i ymroddiad i faes addysg a dysgu. Mae gan Dr Blebil gydweithrediadau a chysylltiadau ymchwil gweithredol â sawl prifysgol ledled y byd.