Trosolwg
Rwy'n uwch ymchwilydd yn y Ganolfan Llaetha, Bwydo Babanod ac Astudiaethau Cyfieithiadol (LIFT). Fy swydd, a ariennir gan HEFCW, yw datblygu prosiectau ymchwil newydd ym maes bwydo babanod a sicrhau cyllid allanol ar eu cyfer. Rwy'n #ActuallyAutistic, Anabl ac yn ddefnyddiwr cadair olwyn. Rwy'n dod o gefndir dosbarth gweithiol ac roeddwn yn gweithio fel gofalwr a nyrs ategol cyn ymgymryd â fy ngradd israddedig. Mae'r profiadau hyn yn fy ngadael ag awydd cryf i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac i herio anghydraddoldeb yn fy ymchwil ac addysgu.
Yn ôl cefndir, rydw i'n wyddonydd cymdeithasol, gydag MSc mewn Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithas a PhD mewn Polisi Cymdeithasol (Prifysgol Caerdydd, 2011) yn canolbwyntio ar anabledd, gwaith a diwygio lles. Yn ogystal â fy ymchwil academaidd, mae gen i brofiad o wneud ymchwil ar gyfer Llywodraethau’r Alban a Chymru, y trydydd sector a’r GIG.
O 2013-2015 gweithiais yn y Sefydliad Gofal Sylfaenol ac Iechyd y Cyhoedd (Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd) gan ganolbwyntio ar iechyd cyhoeddus y blynyddoedd cynnar, ac yn arbennig bwydo babanod. Symudais i'r Ganolfan Ymchwil Treialon, Prifysgol Caerdydd (2016-2018), gan ddefnyddio dulliau ansoddol mewn treialon clinigol, yn enwedig gan weithio ar yr astudiaeth PUMA, a oedd yn cynnwys arsylwadau ethnograffig ar wardiau ysbytai plant.
Rhwng 2018 a Mawrth 2021, cymerais absenoldeb anabledd.
Yn 2019, cyhoeddwyd fy llyfr cyntaf gan Routledge, Doing Excellent Social Research with Documents, canolbwyntio ar ymarferoldeb gwneud ymchwil gan ddefnyddio dadansoddiad dogfennol (mae Pennod 8 ar gael am ddim yma). Bydd fy ail lyfr, Doing Your Research Project with Documents: A Step-by-step guide to take you from start to finish yn cael ei gyhoeddi gan Policy Press yn 2022.