Trosolwg
Graddiodd Dr Bethan R Thomas gyda Gradd mewn Peirianneg Feddygol (BEng) yn 2010, gan ddysgu egwyddorion peirianneg electronig, fecanyddol a chemegol/bio-beirianneg. Yna cwblhaodd ei Doethuriaeth mewn technoleg ddiagnostig fel rhan o’r Ganolfan Nanoiechyd ym Mhrifysgol Abertawe, gan ganolbwyntio ar briodweddau bioffisegol ceuladau gwaed ac imiwnoleg.
Ers ennill Doethuriaeth, mae wedi gweithio fel ymchwilydd ar nifer o grantiau sylweddol, yn cynnwys Partneriaethau Effaith Gofal Iechyd EPRSC ac aeth ymlaen i fod yn ymchwilydd a enwir ar grant Platfform EPRSC mewn Peirianneg ym maes Diagnosteg Gwaed.
Mae gan Bethan bortffolio amrywiol o waith ymchwil a datblygu ar gyfer busnesau bach a chanolig a chwmnïau rhyngwladol, ac mae hefyd yn cydweithio ar brosiectau amrywiol gyda chlinigwyr, fferyllwyr, a gweithwyr proffesiynol yn y maes gofal iechyd. Mae ei phrofiad yn cynnwys rheoleg gwaed, ffyrdd newydd o ddadansoddi deunyddiau biogydweddu a ffabrigo a phrofion micro-electronig.