Trosolwg
Yn Abertawe, mae Blair yn Uwch-ysgrifennwr Ceisiadau gyda'r rhwydwaith GREAT, sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo ymchwil i gamblo a strategaethau i leihau niwed.
Ers ennill ei PhD yn 2022 - astudiaeth ethnograffig ar ymfudwyr Roma yr UE yn yr Alban - mae Blair wedi arbenigo mewn anghydraddoldebau cymdeithasol, gyda ffocws ar ymchwil i ymfudo a gamblo, yn enwedig y croestoriad rhwng chwaraeon, gemio, a gamblo.
Ochr yn ochr â'i rôl ym Mhrifysgol Abertawe, mae Blair yn Gydymaith Ymchwil ac yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Glasgow, lle mae'n cynnull grŵp o Wyddonwyr Cymdeithasol mewn Iechyd y Sefydliad Iechyd a Lles. Mae ei waith gyda Grŵp Ymchwil i Gamblo Glasgow yn cynnwys:
- Y Prosiect FFAB - Football Fans and Betting
- Comisiwn 'The Lancet Public Health' ynghylch Gamblo
- Words Matter: A Language Guide for respectful reporting on gambling
- Asesiad Anghenion ynghylch Niwed yn sgîl Gamblo ar gyfer Awdurdod Lleol Blackburn a Darwen