Trosolwg
Mae Diane Owen yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae Diane yn cynnal ymchwil ym maes Addysg Feddygol, yn enwedig sgiliau cyfathrebu clinigol a datblygu sgiliau clinigol. Ei phrosiect presennol yw ‘Datblygu rhesymu clinigol drwy ymgynghori rhyngweithiol mewn meddygaeth israddedig’. Mae ei diddordebau mewn ymchwil ansoddol, canfyddiadau myfyrwyr o'r cwricwlwm a sut maent yn datblygu craffter a rhesymu clinigol. Yn ogystal â bod yn Feddyg Teulu, mae hi hefyd yn feddyg SAS mewn meddygaeth frys.