Trosolwg
Mae Dr Emma Kenyon yn ddarlithydd Niwrowyddoniaeth. Mae hi wedi bod yn gweithio ym maes Niwrowyddoniaeth Synhwyraidd ers 10 mlynedd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar glyw a chydbwysedd gan ddefnyddio pysgod rhesog fel system enghreifftiol. Mae gan Emma 20 mlynedd o brofiad o ddefnyddio pysgod rhesog mewn nifer o feysydd biolegol gwahanol. Yn 2019 dyfarnwyd iddi Gymrodoriaeth Pauline Ashley gan yr RNID (AOHL gynt) i ymchwilio i rôl RabGTPases o ran symudiad mewngellol gwrthfiotigau aminoglycosid mewn celloedd gwallt synhwyraidd. Yn 2022, dechreuodd yn Ysgol Feddygaeth Abertawe fel darlithydd Niwrowyddoniaeth.