Fadi Baghdadi

Dr Fadi Baghdadi

Swyddog Ymchwil
Health Data Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513409
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Fadi Baghdadi yn gymrawd ymchwil ôl-ddoethurol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Mae'n arbenigo mewn ymchwil gymhwysol drwy Ymchwil Weithredu Gyfranogol i gryfhau systemau amddiffyn plant yng Ngogledd Affrica. Mae Fadi hefyd yn rheoli'r astudiaeth a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), "BE SURE," gan archwilio defnydd o’r gwasanaeth gofal brys gan unigolion o leiafrifoedd ethnig ar gyfer anafiadau.

Enillodd Dr Baghdadi PhD mewn Cymdeithaseg o Brifysgol Sydney, gan ganolbwyntio ar brofiadau o ymfudo ac anheddu mewn cymuned Libaneaidd yn Awstralia. Yn ystod y cyfnod hwn, bu hefyd yn addysgu 58 modiwl dros 25 cwrs ym Mhrifysgol Sydney a Phrifysgol Technoleg Sydney. Yn dilyn ei astudiaethau doethurol, cafodd Fadi brofiad ymarferol o gefnogi cyrff anllywodraethol yn Taroudant, De Morocco, gan weithio ar brosiectau diogelu plant a ariennir gan y Cenhedloedd Unedig, UNICEF, a'r UE.

Ar hyn o bryd mae Fadi yn cydweithio â rhanddeiliaid sy'n gweithio ym maes iechyd a diogelu plant ym Mauritania, Moroco, Tunisia a'r DU. Nod ei ymchwil yw cefnogi rhanddeiliaid lleol i ddatblygu ymyriadau i leihau cam-drin a sefydliadu plant yn y rhanbarth.

Meysydd Arbenigedd

  • Ymchwil Weithredu Gyfranogol
  • Iechyd Cyhoeddus Plant Byd-eang
  • Diogelu Plant a Gwaith Cymdeithasol mewn Gwledydd Incwm Isel a Chanolig (LMIC)
  • Dulliau Ymchwil Ansoddol
  • Astudiaethau Mudo
  • Astudiaethau Rhywedd a Diwylliannol
  • Dinasyddiaeth, Ethnigrwydd a Chenedl

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Addysgu ôl-raddedig Materion Cyfoes mewn Gwyddor Feddygol.

Mae Dr Baghdadi yn addysgu modiwl ar iechyd plant byd-eang sydd â'r nod o wella dealltwriaeth myfyrwyr ôl-raddedig o roi Ymchwil Weithredu Gyfranogol ar waith mewn cyd-destunau yn y byd go iawn. Mae'r modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr gynllunio ymyriadau wedi'u llywio gan y gymuned a fyddai'n cael effaith ystyrlon ar iechyd plant byd-eang ac yn mynd i'r afael â heriau gwyddor feddygol cyfoes.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau