Dr Georgina Marsh

Dr Georgina Marsh

Uwch-ddarlithydd (Ymarfer Fferylliaeth/Fferylliaeth Glinigol) Addysgu Uwch
Pharmacy

Cyfeiriad ebost

264
Llawr Cyntaf
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Georgina Marsh yn gweithio fel Uwch-ddarlithydd mewn Fferylliaeth Glinigol ar hyn o bryd. Mae diddordebau ymchwil Georgina'n canolbwyntio ar ddatblygu ffurfiau newydd o bennu dognau wedi’u teilwra i anghenion y claf, gan gynnwys: gweithgynhyrchu haen-ar-haen fferyllol (argraffu 3D), paediatreg, biomimeteg ac addysg fferylliaeth. Mae Georgina yn addysgu ar y rhaglenni MPharm a Fferylliaeth gyda blwyddyn sylfaen.

Enillodd Georgina radd Meistr mewn Fferylliaeth gydag anrhydedd (Anrh. MPharm ) â gradd dosbarth cyntaf ym Mhrifysgol Nottingham yn 2012, a dilynwyd hyn gan flwyddyn ddiwydiannol cyn cofrestru a PhD yn y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol ym Mhrifysgol Nottingham yn y gwyddorau fformiwleiddio a therapiwteg wedi’i thargedu, gan werthuso ymlyniad gronynnau wrth strwythurau sydd wedi'u hargraffu'n 3D ar raddfa micronau. Ers hynny, mae Georgina wedi gweithio i AstraZeneca fel uwch-wyddonydd fformiwleiddio ym maes datblygu cynnyrch yn ogystal â bod yn Athro Cynorthwyol ym Mhrifysgol Nottingham, Malaysia, lle roedd Georgina'n Rheolwr Rhaglen ar gyfer y Cynllun cyntaf i Entrepreneuriaid Ifanc Malaysia yn 2021.

Mae hi'n aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, yn fferyllydd cofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol ac yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch.

Meysydd Arbenigedd

  • Argraffu 3D fferyllol
  • Biomimeteg
  • Paediatreg
  • Addysg fferylliaeth
  • Nodweddu deunyddiau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau
  • Siaradwr Marchnata'r Flwyddyn yn 2022, FOSE Prifysgol Nottingham, Malaysia 
  • Gwobr Rhagoriaeth Addysgu 2021, FOSE Prifysgol Nottingham, Malaysia
  • Gwobr Allgymorth ac Ymgysylltu Allanol Proffesiynol 2021, 2022, FOSE Prifysgol Nottingham, Malaysia
  • Enillydd Cystadleuaeth Biodechnoleg YES 2015
  • Tystysgrif cynllun PDC BPSA 2009, 2011
  • Gwobr Cyflawniad BP 2010 am ragoriaeth yn y gwyddorau.