Dr Holly Morse

Dr Holly Morse

Darlithydd mewn Bydwreigiaeth
Midwifery

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 1265

Cyfeiriad ebost

126
Llawr Cyntaf
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ar ôl cwblhau gradd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, dechreuodd Holly astudio iechyd a lles menywod a theuluoedd wrth weithio ym maes gwasanaethau cymdeithasol yn 2004.

Gwnaeth genedigaeth ei babi cyntaf yn 2005 sbarduno brwdfrydedd am addysg magu plant a geni, ynghyd â chyfeillgarwch gydol oes a feithrinwyd drwy ddosbarthiadau cynenedigol NCT. Aeth hi ymlaen i astudio am Ddiplomâu Addysg Uwch mewn addysg cynenedigol a chymorth geni, a graddiodd hi hefyd o Brifysgol Abertawe â gradd Meistr mewn Lles Plant yn 2007.

Ar ôl cymhwyso hefyd fel Bydwraig o Brifysgol Abertawe, symudodd Holly i faes ymchwil, gan gwblhau ei PhD yn 2023. Gwnaeth ei hymchwil ddoethurol archwilio mewnbwn bydwreigiaeth i gymorth ar-lein ar gyfer bwydo ar y fron, gan lunio cyfres o bum papur.

Dechreuodd Holly swydd darlithydd bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn 2020. Mae hi'n frwdfrydig am ymgysylltu â bydwragedd, myfyrwyr ac academyddion ynghylch y defnydd creadigol o arloesiadau digidol ar gyfer addysg bydwreigiaeth, ac mae hi wedi cyflwyno'r rhain mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol. Yn 2023, cyrhaeddodd hi'r rhestr fer ar gyfer dwy Wobr Coleg Brenhinol y Bydwragedd am ragoriaeth mewn ymchwil a rhagoriaeth mewn addysg bydwreigiaeth.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfryngau digidol a chymdeithasol
  • Bwydo ar y Fron
  • Iechyd Cyhoeddus

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Creadigrwydd digidol

Ysgrifennu academaidd

Bwydo ar y Fron

Iechyd Cyhoeddus

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau