A view of Singleton Campus including Singleton Park and the beach, with the sea stretching into the horizon.
Proffil llun o Dr Ian Goh

Dr Ian Goh

Uwch-ddarlithydd
Classics

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 215
Ail lawr
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Ian yn arbenigwr llenyddiaeth Ladin ac mae ganddo ddiddordeb cryf mewn hanes diwylliannol Rhufeinig. Gwnaeth prosiect ei radd PhD, 'Lucilius and the Archaeology of Roman Satire' ganolbwyntio ar Gaius Lucilius (c. 180-103/2 CC), a ddyfeisiodd ddychan ar ganu Rhufeinig. Mae'r ymchwil hon wedi'i chyhoeddi mewn nifer o erthyglau cyfnodolion a phenodau llyfrau. Yn 2021 derbyniodd Ian Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu gan Brifysgol Abertawe. Bu'n Ymddiriedolwr y Gymdeithas Rhufeinig rhwng 2019 a 2022 ac mae bellach yn aelod o Gyngor y Gymdeithas Glasurol. 

Ar hyn o bryd mae Ian wrthi'n ymgymryd â phrosiect mawr i lunio monograff, "Scipionic Family History in the Roman Republic and Beyond" dan gontract ar y cyd â Bloomsbury.  Dyma'r dadansoddiad cyntaf erioed yn Saesneg o'r dreftadaeth lenyddol, a nodweddir gan ddryswch, o'r gens Cornelia.  Rhoddir pwyslais penodol ar wydnwch y teulu yn wyneb methiannau milwrol a gwleidyddol. Mae Ian hefyd yn gweithio ar amryw bynciau ym maes barddoniaeth Ladin, gan gynnwys golygu casgliad ar yr marwnadwr Tibullus, a dau ddarn a gwblhawyd yn ddiweddar ar Ennius.  Ei brosiect mawr nesaf fydd sylwebaeth ar gyfrol olaf, Llyfr 12, llawlyfr amaethyddol cyfnod Neronaidd Columella sef De Re Rustica. Dyfarnwyd cymrodoriaeth ymchwil iddo gan Sefydliad Astudiaethau Uwch Ffrainc yn Lyon, Collegium de Lyon, gyda chymorth Laboratoire HiSoMA. Hefyd dyfarnwyd cyllid iddo drwy Gyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil i’r Dyniaethau a’r Celfyddydau at ddibenion cysylltu â chynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru mewn perthynas â'r gwaith hwn. Ganwyd Ian ym Melbourne, Awstralia ac roedd yn byw yn Sydney tan yn 18 oed, lle bu'n mynychu Ysgol Ramadeg Sydney. Gwnaeth ei radd israddedig yn Harvard, wedyn MPhil a PhD yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Cyn dod i Abertawe yn 2017, bu gan Ian swyddi dros dro yng Ngholeg y Brenin Llundain, Manceinion, Birkbeck a Chaerwysg. Yn y gorffennol bu'n chwarae'r fiolín yn lled-broffesiynol ac mae'n angerddol am fwyd, fel y gellir gweld yn ei gyfres cyfnod y pandemig ar gyfer sianel YouTube yr Adran, ‘The Food of Roman Verse’.

Meysydd Arbenigedd

  • dychan Rhufeinig a'r traddodiad difrïaeth rethregol
  • testunau tameidiog Lladin
  • llenyddiaeth Weriniaethol ac Awgwstaidd gynnar (yn enwedig Horace, Fyrsil, marwnad )
  • hanes gwleidyddol a deallusol Rhufeinig
  • Derbyniad y cynfyd yn operâu’r 17eg a'r 18fed

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Yn Abertawe mae Ian wedi addysgu'r modiwl blwyddyn gyntaf ar Metamorphoses Ofydd, modiwlau anrhydedd ar farddoniaeth serch a phenillion dychan Rhufeinig, modiwl MA ar farddoniaeth hanesyddol, a nifer o fodiwlau iaith seiiedig ar destun yn darllen gweithiau o Georgics Fyrsil i Histories Tegid. Mae wedi goruchwylio traethawdau hir Israddedig ac Ôl-raddedig ar amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys drysau mewn barddoniaeth Rufeinig, myth yr Arwr Ifanc yn niwylliant 'griot' Homer a Gorllewin Affrica, prosopograffeg yn Silvae Statius, a dylanwadau clasurol ar hip-hop.

Ymchwil Prif Wobrau