Trosolwg
Mae grŵp ymchwil Dr Khan yn gweithio i wneud gwahaniaeth pendant i bobl sy'n dioddef o glefydau'r cymalau fel osteoarthritis. Mae eu gwaith yn amrywio o ran cwmpas o ddeall rôl bôn-gelloedd yn natblygiad a chlefydau cartilag cymalog a meinweoedd cartilagaidd eraill a geir yn y trwyn, y glust a'r tracea, i beirianneg meinweoedd cartilag newydd ar gyfer trwsio ac adfywio diffygion cartilag. Mae llawer o'r astudiaethau hyn yn cael eu cynnal gan grŵp gwych o israddedigion, myfyrwyr gradd Meistr a PhD ôl-raddedig ac ymchwilwyr sy'n fyfyrwyr meddygol.
Mae myfyrwyr sy'n ymuno â'r labordy yn cael cyfleoedd i ymweld a gweithio nid yn unig yn y cyfleusterau o'r radd flaenaf yn y Ganolfan Nanoiechyd, ond hefyd gyda'n cydweithwyr yn y DU, Ewrop a ledled y byd.
Un o'r agweddau pwysicaf ar y gwaith yw trosi ein datblygiadau a'n llwyddiannau sydd ar flaen y gad yn y fyd-eang i'r clinig ac er mwyn gwneud hyn rydym wrthi'n gweithio gyda'n cydweithwyr yn y GIG i gyflymu'r broses hon.