Trosolwg
Dechreuais ddysgu Ffrangeg yn yr ysgol gynradd yn saith oed wrth i'r DU baratoi i ymuno â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (a elwir bellach yn UE). Dechreuais ddysgu Almaeneg pan oeddwn yn 12 oed a datblygais fy chwilfrydedd yn y ddwy iaith drwy ymweliadau cyfnewid yn yr ysgol gyda Hamburg ac ymweliadau â Ffrainc. Wrth addysgu iaith, llenyddiaeth a sinema'r Almaen yn Abertawe rydw i’n ceisio cyfleu fy mrwdfrydedd am gyfathrebu ac am ddarganfod sut mae pobl wedi byw a meddwl yn yr Almaen yn ogystal â gwledydd Ewropeaidd cyfagos drwy gyfnod stormus a phoenus yn aml yn yr ugeinfed ganrif. Rwy'n draddodiadol yn fy null, gan gredu nad oes dim yn cymryd lle darllen manwl ac astudio ieithegol, ond hefyd (rwy’n gobeithio) yn arloesol yn fy mharodrwydd i gofleidio syniadau newydd ac archwilio deunydd anarferol. Yn 2019, fe'i hetholwyd yn Gymrawd Academi Ddysgedig Cymru.