Trosolwg
Mae gan Dr Webber ddiddordeb hirsefydlog yn y broses o reoleiddio ffenoteip celloedd stromatig. Gwnaeth gwblhau PhD yn Sefydliad Arenneg Prifysgol Caerdydd yn 2009. Ar ôl hynny, cyflwynodd ddealltwriaeth o ddynodi beta TGF (ffactor twf trawsnewidiol) i faes canser drwy archwilio rôl fesiclau allgellol (EVs) bach, a elwir fel rheol yn ecsosomau, wrth fodylu microamgylchedd tiwmorau.
Yn 2014, derbyniodd Dr Webber gymrodoriaeth datblygu gyrfa uchel ei bri, wedi'i hariannu gan Prostate Cancer UK (2014 – 2020). Rhoddodd hon y cyfle iddo archwilio defnyddio fesiclau allgellol mewn modd trawsfudol, yn bennaf fel biofarcwyr i ganfod tiwmorau ymosodol (y prostad ac eraill) yn gynnar. Atgyfnerthwyd y profiad hwn gan hyfforddiant ychwanegol yng Nghanolfan Feddygol Prifysgol Erasmus yn Rotterdam.
Mae diddordebau ymchwil presennol Dr Webber yn parhau i ganolbwyntio ar rôl fesiclau allgellol wrth i diwmorau ddatblygu a datblygu biofarcwyr sy'n seiliedig ar fesiclau allgellol. Mae mentrau cydweithredol diweddar wedi rhoi cyfle iddo ehangu'r gwaith ymchwil hwn i gynnwys clefydau megis canser y fron, mesothelioma a sglerosis cnapiog (tuberous scleroris). Mae Dr Webber yn aelod presennol o fwrdd yr elusen UK Society for Extracellular Vesicles.
Mae Dr Webber yn goruchwylio nifer o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ar lefel MSc a PhD, ac mae'n cyfrannu at addysgu amrywiaeth o raglenni yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.