Trosolwg
Mae gen i ddiddordeb hirsefydlog yng nghanlyniadau niwed i'r ymennydd ar swyddogaethau gwybyddol penodol (niwroseicoleg wybyddol) - yn benodol, anhwylderau darllen (dyslecsia), cynhyrchu lleferydd (affasia), cof (amnesia) a phrosesu wynebau (prosopagnosia). Ymhob achos mae'r gwaith yn ceisio goleuo cydrannau prosesu'r swyddogaethau penodol hyn yn well yn y boblogaeth arferol.
Fi yw Cyd-gyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil Dementia Seicoleg (a sefydlwyd gan yr Athro Andrea Tales) a Chyd-sylfaenydd labordy Face Research Swansea (FaReS). Yn ogystal â bod yn Seicolegydd Siartredig Cofrestredig (C. Psychol.), Cymrawd Cymdeithas Seicolegol Prydain (FBPsS), aelod o'r Cyngor Gweithwyr Iechyd Proffesiynol a Chymrawd yr Academi Addysg Uwch (AAU).
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymchwil wyneb ac yr hoffech ddysgu mwy neu hyd yn oed gymryd rhan mewn arbrofion - yna ewch i wefan Face Research Swansea (FaReS).