Trosolwg
Maes arbenigedd Jonathan yw macroeconomeg. Yn y maes hwn mae wedi cynhyrchu a chyhoeddi nifer o bapurau gyda chyd-awdur sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ddylunio’r gyfundrefn ariannol optimaidd yn enwedig o ran a ddylai banc canolog ddatgelu i'r cyhoedd ei asesiad ei hun o gyflwr yr economi. Mae un llwybr ymchwil y mae Jonathan wedi cyfrannu ato yn ymwneud â damcaniaeth facro-economaidd economïau undebol, tra bod ei waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi ymchwilio i oblygiadau cynllunio polisi pan fo asiantau yn cael gwybod mewn modd heterogenaidd am ergydion macroeconomaidd (er enghraifft, gostyngiadau mewn mewn teimladau defnyddwyr neu hyder busnes sy'n effeithio ar alw cyfanredol, neu ddatblygiadau ochr gyflenwi sy'n dylanwadu ar gynhyrchiant, fel epidemigau firws yn amharu ar rwydweithiau cyflenwi neu ddigwyddiadau tywydd sy'n effeithio ar gynnyrch cnydau). Mae’r cyfnodolion academaidd sydd wedi cyhoeddi papurau a gafodd eu cyd-ysgrifennu gan Jonathan yn cynnwys American Economic Review, Journal of Money, Credit & Banking, a Journal of Economic Behavior.