Kirsty Thomas

Ms Kirsty Thomas

Darlithydd
Therapies

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd

Trosolwg

Mae Kirsty Thomas yn ymuno â Phrifysgol Abertawe o elusen iechyd meddwl flaenllaw yng Nghymru lle bu'n gweithio fel Prif Therapydd Galwedigaethol gydag oedolion sydd â thrawma cymhleth. Fel ymarferydd, mae Kirsty wedi gweithio ym maes gofal sylfaenol, iechyd meddwl acíwt yn y GIG yn ogystal â gwasanaethau fforensig cymunedol. Mae Kirsty yn ymddiddori'n fawr mewn addysg, gan gynnwys addysgu myfyrwyr yn ogystal â pharhau i ddysgu ac arbenigo mewn integreiddio synhwyraidd. Yn sgîl y gwaith hwn, cofrestrodd fel ymarferydd preifat yn 2020 gydag oedolion sydd ag anableddau dysgu.

Ynghyd â'r profiad helaeth hwn ym meysydd iechyd meddwl ac anableddau dysgu, yn ogystal â chysylltiadau lleol ag ymarfer, ymunodd Kirsty â Phrifysgol Abertawe yn 2022 er mwyn helpu i ddarparu'r radd BSc newydd mewn Therapi Galwedigaethol wedi'i hachredu gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol. Nod Kirsty yw tywys myfyrwyr therapi galwedigaethol drwy'r cwricwlwm gan ganolbwyntio ar leoliadau ymarfer. Felly, Kirsty yw Tiwtor Lleoliadau Ymarfer y rhaglen therapi galwedigaethol. Mae ei rôl yn cynnwys cysylltu â phartneriaid yn y GIG, mewn lleoliadau gofal iechyd, y trydydd sector a’r sector preifat er mwyn sicrhau'r lleoliadau ymarfer gorau i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Meysydd Arbenigedd

  • Integreiddio synhwyraidd gydag oedolion.
  • Gwasanaethau iechyd meddwl elusennau.
  • Galwedigaethau i oedolion sy'n ategu lles.

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Defnyddio dulliau addysgu ‘World Café’.

Ymchwil