Trosolwg
Darlithydd yn y Grŵp Microfioleg a Chlefydau Heintus yw Dr Lydia C Powell yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae gwaith ymchwil Lydia sy'n gweithredu ar y rhyngwyneb rhwng peirianneg a'r gwyddorau biofeddygol wedi bod yn ganolog i ddeall natur bioffisegol a mecanyddol celloedd bacterol a strwythurau bioffilm. Mae Lydia wedi trosi'r ddealltwriaeth hon i ddylunio a chyflwyno therapïau newydd ar gyfer ffibrosis systig a heintiadau mewn clwyfau sy'n gysylltiedig â bioffilmiau cronig lle mae'r gwaith ymchwil hwn wedi llywio patentu a datblygu therapiwteg gwrthbioffilm newydd mewn treialon clinigol (AlgiPharma AS a Qbiotics). Yn ogystal, mae Lydia'n archwilio rôl ymwrthedd i gyffuriau gwrthficrobaidd (AMR) mewn dynameg fioffisegol bioffilm i ddiffinio targedau therapiwtig newydd/rolau sy'n hollbwysig i ddatblygu strategaethau triniaeth newydd ar gyfer heintiadau bioffilm AMR.