Trosolwg
Hyfforddwyd Laura yn wyddonol ym Mhrifysgol Birmingham, DU (israddedig) a Phrifysgol Caerdydd (ôl-raddedig) i ddeall y mecanweithiau moleciwlaidd sy'n tanategu datblygiad tiwmorau mewn syndromau tiwmorau etifeddol. Cwblhaodd Laura ei hastudiaethau ôl-ddoethurol a'i chymrodoriaeth HCRW gyda'r Athro Julian Sampson yn Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd. Mae hi bellach wedi sefydlu ei grŵp ymchwil ei hun yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad tiwmorau yn y coluddyn yn y syndromau polypedd etifeddol o'r coluddyn; Polypedd tyfiannol etifeddol (FAP) a pholypedd sy'n gysylltiedig â MUTYH (MAP).