Trosolwg
Diddordebau ymchwil Lucy yw macro-economeg gymhwysol, twf economaidd ac economi wleidyddol.
Mae rhywfaint o’i gwaith diweddar yn edrych ar gyllid llywodraeth leol yn Tsieina a’i pherthynas â thwf ac anghydraddoldeb rhanbarthol. Mae’r ymchwil hon yn rhan o brosiect rhyngwladol ar fancio cysgodol ac economi Tsieina. Mae Lucy yn Gyd-Ymchwilydd ar y prosiect, sy’n cael ei ariannu gan ESRC, Cronfa Newton a Sefydliad Cenedlaethol Gwyddoniaeth Naturiol Tsieina. Mae’n cydweithio ar hyn gydag ymchwilwyr o Brifysgol Fudan a Phrifysgol Economeg a’r Gyfraith Zhongnan yn Tsieina, ac o Ysgol Fusnes Caerdydd a Phrifysgol Manceinion yn y DU.
Mae prosiectau eraill sydd ar waith yn ymwneud â rhyngweithiadau polisi ariannol ag anghydraddoldeb cyfoeth a defnydd, a chyda’r farchnad dai.
Mae gwaith cyhoeddedig cynharach Lucy yn ymchwilio i effeithiau polisi arloesi ar allbwn a chynhyrchiant y DU dros amser, gan ddefnyddio econometreg sy’n seiliedig ar efelychu (casgliad anuniongyrchol).
Anogir myfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio ar gyfer PhD mewn macro-economeg gymhwysol i wneud cais.
Graddiodd Lucy o Brifysgol Rhydychen yn 2007 ac mae ganddi PhD mewn Economeg o Brifysgol Caerdydd, wedi’i hariannu gan Wobr Cystadleuaeth Agored ESRC. Bu’n gymrawd ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2015 cyn ymuno ag Adran Economeg Abertawe fel Darlithydd ym mis Rhagfyr 2016.
Mae’n gymrawd o’r Academi Addysg Uwch ac mae ganddi Dystysgrif Ȏl-raddedig mewn Addysg Uwch o Brifysgol Abertawe.