Dr Martin Clift

Yr Athro Martin Clift

Athro
Biomedical Sciences
Swyddfa Academaidd - 427
Pedwerydd Llawr - DNA/Genetics
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Enillodd Martin Ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Napier Caeredin yn 2009, mewn Tocsicoleg In Vitro Nanoronynnau. Rhwng 2008 a 2015, treuliodd gyfnod ei astudiaethau ôl-ddoethurol yn y Swistir ym Mhrifysgol Bern, yn ogystal ag yn yr Adolphe Merkle Institute, Prifysgol Fribourg. Ymunodd Martin ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ym mis Rhagfyr 2015.

Mae Martin yn llawn cymhelliant a brwdfrydedd, ac mae ei gymwyseddau craidd mewn tocsicoleg gronynnau a ffibrau. Mae gwaith ymchwil Martin yn canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng nanoronnynau (mamolaidd) a chelloedd, gyda’r bwriad o bennu’r effeithiau mecanistig tocsicolegol, imiwnolegol a genotocsig y gallai nanoronynnau, sydd â nodweddion ffisio-gemegol amrywiol, eu hachosi ar lefel celloedd drwy ddefnyddio systemau in vitro lefel-nesaf, uwch ynghyd â dulliau microsgopeg a bioddadansoddol o’r radd flaenaf. Mae diddordebau arbennig Martin yn cynnwys gallu geometreg nanoronynnau a phriodweddau rhyngwynebau i amharu ar y system imiwnedd dynol a llif y gwaed. Un o uchafbwyntiau eraill gwaith ymchwil Martin yw creu, astudio a hybu modelau in vitro amgen sy’n dynwared amgylcheddau in vivo, er mwyn cael dealltwriaeth fecanistig o’r ffordd y gallai nanoronynnau, o bosibl, fod yn andwyol i iechyd pobl. Rhoddir pwyslais arbennig hefyd ar greu modelau in vitro sy’n seiliedig ar glefydau a rôl nanoronynnau pan fydd clefydau’n cychwyn a/neu’n gwaethygu.

Yn ogystal â’i ddiddordebau ymchwil, mae Martin yn Gyd-gyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig ac yn Gyd-gadeirydd Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae Martin hefyd yn goruchwylio nifer o fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig ar lefel MSc a Doethuriaeth. Mae e hefyd yn cyfrannu’n weithredol at addysgu’r cwrs MSc mewn Nanofeddygaeth ar y Rhaglen Meistr a Addysgir ac yn addysgu ar y rhaglenni BSc mewn Geneteg-Biocemeg a’r Gwyddorau Meddygol Cymhwysol.

Meysydd Arbenigedd

  • Systemau Cellol In Vitro Uwch
  • Dulliau Cysylltu Uwch (h.y. Rhyngwyneb aer-hylif)
  • Nanodocsicoleg
  • Tocsicoleg Gronynnau a Ffibrau
  • Llygredd Aer
  • Ysgyfaint
  • Imiwnoleg
  • Rhyngweithio rhwng Nanoronynnau a Chelloedd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae arbenigedd a diddordebau ymchwil Martin yn cynnwys astudio’r rhyngweithio rhwng deunyddiau nanofaint ag amrywiaeth o systemau biolegol gwahanol, a phennu’r ffordd y mae’r rhyngweithio dan sylw yn effeithio ar eu mecanweithiau moleciwlaidd, gan sefydlu cysylltiadau rhwng strwythur a gweithgarwch. Yn ychwanegol, drwy greu modelau amlgellog in vitro soffistigedig o wahanol organau dynol ynghyd â dadansoddiadau microsgopig a biocemegol o’r radd flaenaf, gall Martin gael dealltwriaeth fecanistig o’r peryglon iechyd a achosir gan nanoddeunyddiau dan amodau realistig, yn ogystal â chael dealltwriaeth werthfawr o bosibiliadau in vitro fel systemau profi amgen i fethodolegau in vivo.

Prif Wobrau Cydweithrediadau