Trosolwg
Mae Paula wedi bod yn aelod o'r tîm Biocemeg ers 2007. Mae ei hymchwil bresennol yn canolbwyntio ar weithgarwch gwrthfacterol olewau hanfodol a meddyginiaethau llysieuol a'r posibilrwydd o'u defnyddio i drin syndrom coluddyn llidus, y mae'n hysbys erbyn hyn fod newidiadau i facteria perfedd yn gysylltiedig ag ef. Mae hi'n aelod o'r tîm sy'n goruchwylio myfyriwr meddygaeth sy'n ymchwilio i'r defnydd o drawsblaniadau ysgarthol er mwyn trin llid briwiol y coluddyn. Enillodd Paula ei gradd gyntaf, sef BSc mewn Biocemeg gyda blwyddyn allanol, o Goleg y Brenin Llundain (gradd anrhydedd dosbarth cyntaf) ac roedd ei PhD a'i hymchwil ôl-ddoethurol i gyd yn ymwneud â chludo pilenni (sut cludir proteinau i'r lle cywir mewn celloedd). Mewnforio proteinau cloroplast oedd testun ei PhD o Adran Gwyddorau Planhigion Prifysgol Caergrawnt. Mae Paula yn cyflwyno, neu'n addysgu, nifer o fodiwlau biocemeg craidd.