Trosolwg
Mae Dr Pier-Luc Dupont yn Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Hunaniaeth ac yn Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Wleidyddiaeth Gymharol a Pholisi ym Mhrifysgol Abertawe. Mae e'n ysgolhaig rhyngddisgyblaethol ym meysydd hiliaeth, amrywiaeth a hawliau dynol, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cyflogaeth ac addysg fel meysydd cymdeithasol a gwleidyddol. Mae ei waith yn cael ei ysgogi'n bennaf gan awydd i ddadorchuddio ffynonellau sefydliadol o anghydraddoldebau hiliol ac anghydraddoldebau eraill, yn ogystal â damcaniaethu camau cyfreithiol a gwleidyddol tuag at gyfiawnder cymdeithasol. Cyhoeddwyd ei waith ymchwil mewn amryw gasgliadau ar y cyd a chyfnodolion a nodir ym mynegeion Scopus megis Ethnic and Racial Studies, Identities: Global Studies in Culture and Power, Journal of Muslims in Europe, Crossings: Journal of Migration and Culture, The Sociological Review, and Nordic Journal of Human Rights. Mae ei lyfr newydd, Anti-Racism, Multiculturalism and Human Rights, dan gontract gyda Palgrave.
Mae gan Pier-Luc rôl Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bryste, lle mae wedi gweithio ar brosiectau ar raddfa fawr sy'n archwilio cyfiawnder o safbwynt ymfudwyr a lleiafrifoedd (prosiect ETHOS Horizon 2020, 2017-2019), ymagweddau polisi at amrywiaeth ddiwylliannol (prosiect PLURISPACE HERA, 2020-22), ac ysgogwyr arwahanu a chymysgu ethnig (prosiect Shared Spaces yr ESRC, 2022-23). Archwiliodd ei ymchwil ddoethurol, a gynhaliwyd yn Sefydliad Hawliau Dynol Prifysgol Valencia ac a gefnogwyd gan ysgoloriaeth FPU pedair blynedd gan Weinyddiaeth Addysg Sbaen, y rhyngweithio rhwng hawliau cydraddoldeb a gydnabyddir yn rhyngwladol, polisïau cyhoeddus a hiliaeth yn y cyd-destun Ewropeaidd.