Professor Phil Reed

Yr Athro Phil Reed

Athro
Psychology

Cyfeiriad ebost

939
Nawfed Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
Sylwebydd y Cyfryngau

Trosolwg

Enillodd yr Athro Phil Reed radd D.Phil. o Brifysgol Efrog, cafodd Gymrodoriaeth Ymchwil gan Brifysgol Rhydychen, a Darllenyddiaeth mewn Dysgu ac Ymddygiad yng Ngholeg y Brifysgol Llundain, cyn cael Cadair Prifysgol mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. 

Mae’r diddordebau ymchwil eang a chymhwysol sydd gan Phil yn cynnwys: Dysgu ac Ymddygiad; Awtistiaeth, Anghenion Arbennig, ac Ymyriadau Addysgol; a Seicoleg a Meddygaeth, gan gynnwys bod yn gaeth i’r we ac iechyd wro-gynaecolegol.  Mae Phil wedi ysgrifennu sawl llyfr (yn ddiweddar, Interventions for Autism: Evidence for Educational and Clinical Practice), mae wedi cyhoeddi dros 230 o bapurau, ac mae wedi cael ei wahodd i gyflwyno’i waith mewn cynadleddau rhyngwladol. Am ragor o wybodaeth, gweler y safleoedd ResearchGate a Google Scholar sydd gan Phil.

Mae gwaith ymchwil Phil yn cynnwys gwerthuso ymyriadau, gwasanaethau a chynnyrch o ran ffactorau seicolegol ac ymddygiadol sy’n effeithio ar effeithiolrwydd. Mae Phil a’i dîm wedi cyflwyno eu gwaith ynghylch Iechyd Menywod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gwobrwywyd ‘Medal Arlywydd Gweriniaeth’ yr Eidal iddynt yn 2016 am eu cyfraniad gwyddonol i’r gymdeithas. 

Mae Phil yn ymddangos yn rheolaidd yn y cyfryngau, ac mae wedi ymddangos ar: ‘Through the Wormhole with Morgan Freeman’ ar y Science Channel, ‘ITV Wales’, ‘BBC Wales’, a ‘BBC Radio Wales’. Mae dwy raglen radio arbennig am waith ymchwil Phil ynghylch bod yn gaeth i’r we wedi cael eu darlledu ar sianeli radio cyffredin yn yr Unol Daleithiau (Richie Allen; Katherine Albrecht), ac mae’n ymddangos yn Time Magazine, Cosmopolitan, The Sunday Times, The Daily Mail, ac yn lleol yn y Swansea Evening Post a’r Western Mail. 

Mae Phil yn aelod o Fyrddau Adolygu ar gyfer y prif gylchgronau, ac mae wedi derbyn penodiadau gan yr Adrannau Iechyd ac Addysg, a Chyngor Polisi Plant yng Nghymru. Mae gan Phil brofiad cadarn o weithio gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus, elusennau meddygol ac addysgol, busnesau preifat, ac mae wedi derbyn cyllid gan gymdeithas Gofal Canser Tenovus, y GIG, awdurdodau addysg lleol, Cronfa Baily Thomas, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Ymddiriedolaeth Leverhulme, a Sefydliad Mechner.

Meysydd Arbenigedd

  • Dysgu ac Ymddygiad
  • Rhestrau Atgyfnerthu
  • Awtistiaeth
  • Anghenion Arbennig, ac Ymyriadau Addysgol
  • Seicoleg a Meddygaeth
  • Bod yn gaeth i’r we
  • Iechyd wro-gynaecolegol
  • Sgitsotypy

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau
  • Medal Arlywydd Gweriniaeth yr Eidal am Gyfraniad Gwyddonol i’r Gymdeithas (2016).
  • Llywydd Etholedig: Cymdeithas Dadansoddi Ymddygiad Ewrop (2002-2004; 2004-2006; 2006-2008).
  • Aelod Cynnal Etholedig: Cymdeithas y Dadansoddwyr Ymddygiad (2001).
  • Gwobr K.M. Stott: Thesis Doethur Rhagorol, Prifysgol Efrog (1990).
Cydweithrediadau