Trosolwg
Mae Dr Sophie Reed yn ddarlithydd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gan addysgu'n bennaf ar y cwrs BSc Ffarmacoleg Feddygol. Dyfarnwyd PhD i Sophie gan is-adran Heintiau ac Imiwnedd Prifysgol Caerdydd yn 2022. Yn ystod y cyfnod hwn, canolbwyntiodd ei hymchwil ar fudiad celloedd T mewn heintiadau ffliw. Yna ymunodd Sophie â grŵp ymchwil yr Athro Cathy Thornton fel cymrawd ymchwil ôl-ddoethurol yn 2022, gan ymchwilio i effeithiau llygredd aer yn ystod beichiogrwydd fel rhan o gonsortiwm RESPIRE.
Penodwyd Sophie yn ddarlithydd mewn Ffarmacoleg Feddygol yn 2023 ac mae'n parhau i ymchwilio i faes imiwnoleg yn ystod beichiogrwydd.