Institute of Life Science 2 Internal Atrium.jpg
Dr Salvatore Ferla

Dr Salvatore Ferla

Uwch-ddarlithydd
Pharmacy
256
Llawr Cyntaf
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Darlithydd mewn Cemeg Fferyllol ar y cwrs MPharm newydd-anedig yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe yw Salvatore. Ar ôl profiad byr mewn cwmni fferyllol yn gweithio ar amgylchedd GMP, enillodd Salvatore ei PhD mewn Cemeg Feddyginiaethol yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd, gan weithio ar brosiect 4 blynedd a ariannwyd gan CRUK. Ers hynny mae wedi canolbwyntio ei ymchwil ar ddyluniad silico a synthesis cemegol moleciwlau bach newydd gyda gweithgareddau biolegol posibl, gan gynnwys cyfryngau gwrthganser, gwrthfeirysol ac anthelmintig newydd. Yn 2015, cafodd Salvatore ei bendoi’n gyd-gyfrifol o Lwyfan Modelu Moleciwlaidd WCADD ac yn ystod y cyfnod hwn cymerodd ran weithredol mewn mwy na 40 o brosiectau ymchwil, yn cynnwys grwpiau ymchwil academaidd a biotechnoleg bach ledled ybyd. Yn 2018, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil Unigol fawreddog SÊR CYMRU iddo, i weithio ar ddatblygu moleciwlau bach newydd fel imiwnofodylyddion posibl ar gyfer trin gwahanol ganserau. Ers 2008, mae Salvatore yn Fferyllydd cofrestredig yn yr Eidal

Meysydd Arbenigedd

  • Dyluniad cyffuriau mewn silico
  • Modelu Moleciwlaidd
  • Cemeg organig synthetig
  • Cemeg Feddyginiaethol
  • Gwrthganser ac Imiwnotherapi
  • Cyffuriau gwrthfeirysol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae gan Salvatore fwy na deng mlynedd o brofiad o gymhwyso methodolegau â chymorth cyfrifiadur i nodi moleciwlau bach gweithredol newydd gan ddechrau o darged biolegol. Mae rhai o’i brosiectau ymchwil cyfredol yn cynnwys:

  • Cynllunio a syntheseiddio atalyddion pwynt gwirio imiwn-moleciwl bach newydd i drin canser
  • Datblygu cyffuriau gwrthfeirysol newydd ar gyfer amrywiaeth o glefydau firaol, gan gynnwys norofeirws dynol a choronafirysau 
  • Cynllunio a syntheseiddio moleciwlau bach newydd yn erbyn gwahanol dargedau biolegol fel triniaethau gwrthganser posibl.
Cydweithrediadau