Trosolwg
Ar ôl graddio o Brifysgol Caerfaddon yn 2011 gyda BSc (Anrh) mewn Seicoleg symudodd Steff i Fangor, Gogledd Cymru a chwblhau MSc yn Sylfeini Seicoleg Glinigol. Mae Steff wedi gweithio fel Cynorthwyydd Ymchwil i Brifysgol Bangor ers pum mlynedd gan gynnwys gyda'r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ar nifer o astudiaethau heneiddio a dementia gan gynnwys yr Astudiaethau Heneiddio Swyddogaeth Wybyddol.
Mae Steff wedi gweithio’n rhyngwladol fel Cynorthwyydd Ymchwil i Brifysgol Otago gan ddarparu cymorth ymchwil ar draws nifer o astudiaethau iechyd meddwl. Mae gan Steff ddiddordeb arbennig mewn datblygu ymchwil yn enwedig o fewn y boblogaeth oedolion hŷn ac mae'n arwain ar gydlynu rhwydwaith i hyrwyddo a hwyluso mwy o ymchwil mewn cartrefi gofal ledled Cymru.
Ochr yn ochr â'r rôl hon, cychwynnodd Steff ei hymgeisyddiaeth PhD yn llawn amser ym mis Hydref 2019. Pwrpas y PhD hwn yw archwilio rôl a datblygiad ymarfer rhwng cenedlaethau o fewn gofal cymdeithasol, gan gymryd persbectif byd-eang gyda ffocws penodol ar gyd-destun y DU a Chymru.