Trosolwg
Rwy'n ddarlithydd yn yr Adran Fathemateg ym Mhrifysgol Abertawe.
Caiff fy ymchwil ei hysbrydoli gan bynciau biolegol ac ecolegol ac rwyf yn archwilio'r pynciau hyn drwy ddatblygu a dadansoddi modelau mathemategol. Yn fwy penodol, yn fy ymchwil rwyf yn disgrifio ymddygiad rhywogaethau sy'n rhyngweithio â'i gilydd drwy systemau hafaliadau adwaith-trylediad sy'n ymgorffori naill ai croes-drylediad, cemotacsis neu dermau llorfudol anleol. Rwyf yn cyfuno amrywiaeth fawr o offer dadansoddol a rhifiadol i ddatgelu'r mecanweithiau
y tu ôl i ffenomena cydgrynhoad a welir ym myd natur. Yn bennaf rwyf wedi gweithio ar fodelau cemotacsis-adwaith-trylediad ar gyfer clefydau llidiol ac awtoimiwnedd, megis sglerosis ymledol, yn ogystal â gweithio ar fodelau llorfudiad-trylediad anleol sy'n disgrifio dosbarthiad gofod-amser rhywogaethau sy'n rhyngweithio â'i gilydd mewn ecosystemau.