Dr Valeria Giunta

Dr Valeria Giunta

Darlithydd Dadansoddi Rhifiadol Hafaliadau Differol Rhannol, Mathematics
304
Trydydd Llawr
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy'n ddarlithydd yn yr Adran Fathemateg ym Mhrifysgol Abertawe.

Caiff fy ymchwil ei hysbrydoli gan bynciau biolegol ac ecolegol ac rwyf yn archwilio'r pynciau hyn drwy ddatblygu a dadansoddi modelau mathemategol.  Yn fwy penodol, yn fy ymchwil rwyf yn disgrifio ymddygiad rhywogaethau sy'n rhyngweithio â'i gilydd drwy systemau hafaliadau adwaith-trylediad sy'n ymgorffori naill ai croes-drylediad, cemotacsis neu dermau llorfudol anleol.  Rwyf yn cyfuno amrywiaeth fawr o offer dadansoddol a rhifiadol i ddatgelu'r mecanweithiau

y tu ôl i ffenomena cydgrynhoad a welir ym myd natur. Yn bennaf rwyf wedi gweithio ar fodelau cemotacsis-adwaith-trylediad ar gyfer clefydau llidiol ac awtoimiwnedd, megis sglerosis ymledol, yn ogystal â gweithio ar fodelau llorfudiad-trylediad anleol sy'n disgrifio dosbarthiad gofod-amser rhywogaethau sy'n rhyngweithio â'i gilydd mewn ecosystemau.

Meysydd Arbenigedd

  • Modelu Mathemategol
  • Bioleg Fathemategol
  • Hafaliadau Differol Rhannol Aflinol
  • Systemau cemotacsis-adwaith-trylediad
  • Systemau cydgrynhoad anleol
  • Ffurfio patrymau
  • Dadansoddiad Fforchogedd
  • Bodolaeth atebion i broblemau a'u hunigrywiaeth a'u sefydlogrwyd