Trosolwg
Cymhwysodd Dr Wahida Kent yn weithiwr cymdeithasol ym 1999. Mae ei phrofiad o ymarfer wedi canolbwyntio'n bennaf ar gefnogi plant a theuluoedd yng Nghymru. Yn ystod y 13 blynedd diwethaf o ymarfer, bu'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl, a phlant a phobl ifanc o grwpiau Du a Lleiafrifoedd Ethnig â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. Mae hi wedi addysgu Gwaith Cymdeithasol ers 2018.
Bu ymchwil PhD Dr Kent ym Mhrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar ofalwyr plant a phobl ifanc BME â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. Yn ddiweddar, mae hi wedi gweithio fel rhan o dîm a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i lunio canllawiau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gyda rhieni ag anableddau dysgu sy'n mynd drwy broses yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus.