Trosolwg
Astudiodd Dr Thomas ym Mholytechnig Gogledd Swydd Stafford, Coleg Queen Mary, Prifysgol Llundain, Prifysgol British Columbia a Phrifysgol Bryste. Derbyniodd ei PhD mewn Economeg o Brifysgol Bryste ym 1996 ar rôl gwybodaeth ac ansicrwydd mewn penderfyniadau disgyblion ac enillodd gymrodoriaeth Lionel Robbins mewn addysg. Mae wedi dysgu ym Mhrifysgol Bryste, Prifysgol British Columbia a Phrifysgol Gorllewin Lloegr cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2019. Yn ogystal, cyflogwyd Dr Thomas yn y Sefydliad Ymchwil Cyflogaeth o 1988-1990.
Mae diddordebau ymchwil Dr Thomas yn cael eu llywio’n bennaf gan ei brofiadau ei hun fel disgybl ac yna fel myfyriwr, ac yn canolbwyntio ar y rôl a chwaraeir gan anghydraddoldeb o ran mynediad at wybodaeth ac effeithiau grwpiau cyfoedion wrth wneud penderfyniadau addysgol. Yn ddiweddar, ar ben hynny, mae Dr Thomas wedi dechrau ymddiddori ym maes economeg hapusrwydd.
Yn ogystal â’i waith academaidd, roedd Dr Thomas hefyd yn gogydd/perchennog bwyty llysieuol llwyddiannus rhwng 2007 a 2017.