Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Cyffro bragdy newydd! Archebion di-ri ar gyfer cwrw di-alcohol gan gyn-fyfyriwr
Mae cyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi ysgwyd y diwydiant diodydd gyda'i busnes cwrw crefft di-alcohol.
Ysbrydolwyd Joelle Drummond ar ôl i'w phartner, a chyd-sylfaenydd y cwmni, Sarah McNena roi'r gorau i yfed. Aeth y ddwy, a oedd wedi hen flino ar yr amrywiaeth roedd gan y farchnad cyrfau di-alcohol/alcohol isel i'w chynnig, ati i greu cwmni Drop Bear Beer naw mis yn ôl.
Megis dechrau yw’r cwmni, ond mae Drop Bear eisoes yn creu cyffro. Gwerthodd y pâr 3,500 botel yn y mis cynhyrchu cyntaf, gwnaethant arddangos eu cwrw yn Nhŷ'r Arglwyddi yn ogystal ag mewn gwyliau amrywiol, ac maen nhw wedi siarad am eu cynnyrch ar sioe radio yn yr Unol Daleithiau.
Gradd mewn Ffrangeg ac Eidaleg a gradd Meistr mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd sydd gan Joelle, er gwaethaf ei dawn am fusnes.
Meddai: "Rhoddodd Prifysgol Abertawe sylfaen wych i mi pan ddaeth i greu Drop Bear. Rwyf wedi dysgu sut i ymdopi'n effeithiol ar adegau sy’n llawn straen, sut i ddatrys problemau'n effeithiol, sut i feddwl ac ymateb yn gyflym ac yn bwysicaf oll, sut i ddadansoddi sefyllfaoedd. Mae angen i chi feddwl yn y fan a'r lle bob amser."
Dywedodd Joelle fod y sgiliau trosglwyddadwy a ddysgodd fel myfyriwr wedi bod yn hanfodol i'r busnes.
"Mae fy sgiliau dadansoddi manwl wedi bod o gymorth mawr i'r busnes o ran deall y farchnad a sut i wneud ein brand yn wahanol i’r rhai sydd eisoes yn bodoli. Mae'r sgiliau cyfathrebu hefyd wedi fy helpu'n fawr gyda dosbarthwyr a chwsmeriaid."
Lansiodd Joelle Drop Bear yn ei chegin gyffredin, gyda sosban, thermomedr jam a llwyth o lyfrau o'r llyfrgell yn trafod bragu gartref.
Ar ôl nosweithiau hir – a thermomedr yn ffrwydro – sefydlwyd Drop Bear Beer ym mis Hydref 2018. Dyma gwrw crefft 0.5%, sydd yn gwbl naturiol, fegan a phrin yw'r calorïau ynddo. Cynigir dau flas gwahanol, ac mae disgwyl iddyn nhw lansio un arall yn yr hydref.
Dywedodd Joelle: "Rydym yn angerddol am sicrhau bod sobrwydd yr un mor gyffrous, a bod y sawl sy'n hoff o gwrw crefft yn mwynhau pleser cwrw crefft ar ôl roi'r gorau i alcohol."
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos nad dewis o ran ffordd o fyw yn unig yw sobrwydd. Yn ôl cwmni ymchwil i'r farchnad, Nielsen, cwrw di-alcohol yw'r tuedd sy'n tyfu gyflymaf yn y farchnad ddiodydd, ac roedd gwerthiannau cwrw di-alcohol wedi tyfu 58% o'u cymharu â'r adeg hon y llynedd.
Ychwanegodd Joelle: "Rwy'n credu bod pobl yn dewis byw'n fwy ystyrlon, ac yn fwy ymwybodol o risgiau alcohol i iechyd. Dydyn ni ddim yma i roi pregeth i bobl am eu harferion yfed. Rydym eisiau grymuso pobl â'r wybodaeth i wneud eu penderfyniad eu hunain a chynnig cynnyrch iach o safon uchel os ydynt yn dymuno cyfyngu ar faint maen nhw'n ei yfed."
Dywedodd Pennaeth Ymgysylltu, Arloesi ac Entrepreneuriaeth Prifysgol Abertawe, Emma Dunbar:
“Mae dechrau busnes yn haws nag ydych chi'n meddwl a gall fod yn hynod werthfawr. At hynny, dyma un o'r ffyrdd gorau o ddysgu sgiliau busnes – mae stori Joelle yn profi pa mor entrepreneuraidd y gall ein myfyrwyr fod. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn annog ac yn cefnogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau drwy weithdai, mentrau a chael profiadau gwerthfawr a fydd yn eu helpu i roi eu syniad ar waith a'u cefnogi wrth ddechrau eu busnes eu hunain – boed yn hunangyflogedig, yn fenter gymdeithasol, yn waith llawrydd neu'n fusnes technegol.
Os ydych yn egin entrepreneur, gallwch ddysgu rhagor am fentergarwch myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.
Gwylio: Dysgwch ragor am y cwmni sy’n ceisio procio sobrwydd.