Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Gweddillion llystyfiant rhuddedig yn helpu i leihau'r allyriadau carbon cyffredinol o danau gwyllt yn ôl astudiaeth newydd
Mae'r achosion eang a digynsail o danau gwyllt yn yr Arctig a'r symiau helaeth o CO2 y maent yn eu rhyddhau wedi bod yn cael cryn sylw yn y wasg ledled y byd.
Mae degawdau o arsylwadau lloerenni yn dangos bod tanau gwyllt yn llosgi ardal maent India bob blwyddyn ar gyfartaledd, ac yn rhyddhau mwy o garbon deuocsid i'r atmosffer na thrafnidiaeth ffordd, rheilffyrdd, llongau ac awyr gyda'i gilydd.
Am fod llystyfiant mewn ardaloedd a losgwyd yn aildyfu, mae'n amsugno'r CO2yn ôl o'r atmosffer drwy ffotosynthesis. Mae hon yn rhan o gylch arferol tân ac adfer, a all gymryd llai na blwyddyn mewn glaswelltiroedd neu ddegawdau mewn coedwigoedd a addaswyd ar gyfer tân. Mewn achosion eithafol, megis tir mawn drofannol neu'r Arctig, efallai na fydd adferiad llawn am ganrifoedd.
Mae'r adfer llystyfiant hyn yn bwysig oherwydd mae carbon nad yw'n cael ei ail-ddal yn aros yn yr atmosffer ac yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.
Mae tanau datgoedwigo yn gyfrannwr hynod bwysig at newid yn yr hinsawdd, am eu bod yn arwain at golled hirdymor carbon i'r atmosffer.
Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr tanau gwyllt ym Mhrifysgol Abertawe a Vrije Universiteit Amsterdam wedi pwysleisio'r rôl bwysig sydd gan lystyfiant rhuddedig a siarcol a achosir gan danau – a elwir yn garbon pyrogenig – wrth helpu i leihau allyriadau carbon.
Cyhoeddwyd eu papur, Global fire emissions buffered by the production of pyrogenic carbon, yn Nature Geoscience yn ddiweddar.
Dywedodd y prif awdur, Dr Matthew Jones:"Mae’r CO2 a allyrrir yn ystod tanau gwyllt yn cael ei ddal unwaith eto wrth i lystyfiant aildyfu, ac mae'r rhan fwyaf o ymchwilwyr yn ystyried tanau gwyllt yn ddigwyddiadau carbon niwtral unwaith y mae biomas llawn wedi'i adfer.
"Fodd bynnag, caiff y llystyfiant sydd wedi'i losgi gan danau ei drawsnewid yn siarcol, y gellir ei storio mewn gwaddodion yn y pridd a'r môr dros gyfnodau hir o amser. Rydym wedi cyfuno astudiaethau maes, data lloeren a modelu i fesur faint o garbon sy'n cael ei storio gan danau ar raddfa fyd-eang."
Esboniodd y papur, a ysgrifennwyd ar y cyd gan Dr Cristina Santin a'r Athro Stefan Doerr o'r Coleg Gwyddoniaeth, a'r Athro Guido van der Werf, o Vrije Universiteit Amsterdam, fod tanau tirwedd hefyd yn trosglwyddo rhan sylweddol o stociau carbon y llystyfiant yr effeithiwyd arno i siarcol a deunyddiau rhuddedig eraill yn ogystal ag allyrru CO2 i'r atmosffer.
Gellir storio'r deunydd pyrogenig hwn mewn priddoedd ac amgylcheddau dyfrol am ganrifoedd hyd at filoedd o flynyddoedd ac mae'r carbon hwn yn cyrraedd yr atmosffer fel CO2 yn arafach nag y byddai ar ffurf llystyfiant sydd wedi marw.
Yn ôl yr ymchwilwyr, nid ystyriwyd hyn o’r blaen mewn modelau allyriadau tân byd-eang.
Meddai Matthew Jones: "Mae ein canlyniadau'n dangos bod cynhyrchiant carbon pyrogenig yn gyfwerth â 12% o allyriadau CO2 o danau yn fyd-eang, ac y gellir ei ystyried yn glustogfa sylweddol ar gyfer allyriadau tanau tirwedd.
"Disgwylir i gynhesu byd-eang gynyddu amlder tanau mewn sawl rhanbarth, yn enwedig mewn coedwigoedd. Gallai hyn arwain at gynnydd o ran allyriadau CO2 atmosfferig o danau tirwedd, ond os ystyrir cynhyrchiant carbon pyrogenig yna caiff maint y cynnydd hwn ei leihau.
"Mae allyriadau CO2 cynyddol o weithgarwch dynol, gan gynnwys tanau datgoedwigo, yn parhau i fod yn fygythiad difrifol i hinsawdd fyd-eang."
Mae cwestiynau pwysig i'w hateb o hyd o ran sut y bydd hinsawdd fwy cynnes a mwy tueddol o wynebu sychder, yn cael effaith ar ardaloedd sydd wedi'u llosgi ledled y byd yn y dyfodol, a pha gyfran o lystyfiant fydd yn adfer ac yn adennill CO2.
Ond mae'r ymchwil newydd hon yn dangos y dylid ystyried cynhyrchiant carbon pyrogenig yn gynnyrch sylweddol o ganlyniad i danau tirwedd ac yn elfen bwysig o'r cylch carbon byd-eang.